Neidio i'r prif gynnwy

Data yn ôl modd, lefel a phwnc astudio, gweithgaredd, cyflog a rhanbarth cyflogaeth Awst 2019 i Gorffennaf 2020.

Mae'r cofnod Deilliannau Graddedigion yn cynnwys arolwg o raddedigion tua 15 mis ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau. HESA sy’n cynnal yr arolwg hwn. Graddiodd y rhan fwyaf o ymatebwyr yr arolwg yn haf 2020 ac fe'u holwyd yn ystod pandemig COVID-19 yn hydref 2021.

Mae'r cyfnod adrodd o 01 Awst ym mlwyddyn 1 i 31 Gorffennaf ym mlwyddyn 2. Mae hyn yn golygu bod cofnod Canlyniadau Arolwg Deilliannau Graddedigion 2019/20 yn ymwneud â myfyrwyr a gwblhaodd raglenni astudio cymwys rhwng 01 Awst 2019 a 31 Gorffennaf 2020 ac a aeth ati i gwblhau’r arolwg (neu o leiaf y lleiafswm angenrheidiol ohono).

Cesglir y data sydd yn y datganiad hwn gan raddedigion o sefydliadau addysg uwch a ariennir yn gyhoeddus yn y DU, a graddedigion o ddarparwyr amgen a ariennir yn breifat y cyflwynir data myfyrwyr ar eu cyfer i HESA. Mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer graddedigion o gyrsiau lefel addysg uwch mewn colegau addysg bellach yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ymatebodd 374,875 o raddedigion yn y DU i arolwg Deilliannau Graddedigion 2019/20, o'r boblogaeth darged o 774,715. Mae hynny’n gyfradd ymateb llawn o 48%. Wrth gynnwys graddedigion a gwblhaodd yr arolwg yn rhannol, mae'r gyfradd ymateb hon yn codi i 52%, gan gynyddu nifer yr ymatebion defnyddiadwy i 403,835.

Graddedigion â gradd israddedig o ddarparwyr addysg uwch Cymru

  • Roedd 6,870 (50%) o raddedigion hysbys mewn cyflogaeth amser llawn ac roedd 1,485 (11%) mewn cyflogaeth ran-amser. Roedd 1,725 (12%) o raddedigion hysbys mewn astudiaeth bellach amser llawn ac roedd 95 (1%) mewn astudiaeth bellach ran-amser.
  • Yn gyffredinol, roedd gan ddarparwyr yng Nghymru yr un ganran o raddedigion hysbys mewn cyflogaeth ran-amser â darparwyr Gogledd Iwerddon (11%) a darparwyr yn yr Alban (11%), ond canran is na darparwyr yn Lloegr (12%). Roedd gan ddarparwyr yng Nghymru ganran is o raddedigion mewn cyflogaeth amser llawn na phob darparwr arall yn y DU (50% gan ddarparwyr o Gymru o gymharu â 56% o ddarparwyr Gogledd Iwerddon, 54% gan ddarparwyr yn yr Alban a 53% gan ddarparwyr yn Lloegr).
  • Roedd 835 (6%) o raddedigion yn ddi-waith, ac roedd 235 ohonynt i fod i ddechrau gweithio neu astudiaeth bellach.

Graddedigion sydd â gradd ôl-raddedig o ddarparwyr addysg uwch Cymru

  • Roedd 3,655 (62%) o raddedigion hysbys mewn cyflogaeth amser llawn ac roedd 605 (10%) mewn cyflogaeth ran-amser. Roedd 300 (5%) o raddedigion hysbys mewn astudiaeth bellach amser llawn ac roedd 35 (1%) mewn astudiaeth bellach ran-amser.
  • Yn gyffredinol, roedd gan ddarparwyr yng Nghymru ganran ychydig yn uwch o raddedigion hysbys mewn cyflogaeth ran-amser (10%) o gymharu â darparwyr yng Ngogledd Iwerddon (9%), yr Alban (9%) a Lloegr (9%). Fodd bynnag, roedd gan ddarparwyr yng Nghymru ganran is o raddedigion mewn cyflogaeth amser llawn (62%) na darparwyr eraill yn y DU (67% o ddarparwyr Gogledd Iwerddon, 63% gan ddarparwyr yn yr Alban a 64% gan ddarparwyr yn Lloegr).
  • Roedd 310 (5%) o raddedigion yn ddi-waith, ac roedd 50 ohonynt i fod i ddechrau gweithio neu astudiaeth bellach.

Cyflogau graddedigion sydd â graddau ôl-raddedig ac israddedig gan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru

  • Y cyflog canolrifol ar gyfer graddedigion o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru mewn cyflogaeth â thâl llawn amser oedd £24,000. Roedd y cyflog canolrifol hefyd yn £24,000 i raddedigion o ddarparwyr addysg uwch Gogledd Iwerddon. Ar gyfer graddedigion o ddarparwyr addysg uwch yn Lloegr a'r Alban, y cyflog canolrifol oedd £25,000.
  • Nododd graddedigion mewn cyflogaeth â thâl llawn amser o bynciau meddygaeth a deintyddiaeth mai'r cyflogau canolrifol uchaf oedd £34,000.

Graddedigion sy'n hanu o Gymru

  • Roedd 5,810 (54%) o israddedigion hysbys mewn cyflogaeth amser llawn ac roedd 1,210 (11%) mewn cyflogaeth ran-amser. Roedd 1,055 (10%) o israddedigion hysbys mewn astudiaethau llawn amser ac roedd 55 (1%) mewn astudiaeth bellach ran-amser.
  • Roedd 2,575 (66%) o ôl-raddedigion hysbys mewn cyflogaeth amser llawn ac roedd 450 (11%) mewn cyflogaeth ran-amser. Roedd 150 (4%) o ôl-raddedigion hysbys mewn astudiaethau amser llawn ac roedd 20 (1%) mewn astudiaethau pellach rhan-amser.
  • Roedd 48% o’r graddedigion o Gymru a fu’n israddedigion amser llawn ac sy’n hanu o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru (Cwintel 1 MALlC) mewn cyflogaeth amser llawn, tra bod 55% o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig (Cwintel 5 MALlC) mewn cyflogaeth amser llawn.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.