Neidio i'r prif gynnwy

Data yn ôl modd, lefel a phwnc astudio, gweithgaredd, cyflog a rhanbarth cyflogaeth Awst 2020 i Orffennaf 2021.

Mae’r cofnod Deilliannau Graddedigion yn cynnwys arolwg o raddedigion tua 15 mis ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau. Yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch (HESA) sy’n cynnal yr arolwg hwn. Dechreuodd y garfan fwyaf o raddedigion yn arolwg Deilliannau Graddedigion 2020/21 orffen eu cymwysterau ym mis Mai 2021, pan oedd cyfyngiadau COVID-19 yn cael eu diddymu’n raddol. Mae cipolwg ar yr ymchwil (HESA) yn rhoi rhagor o fanylion am y dadansoddiad a gynhaliwyd i archwilio effaith y pandemig, a’r casgliadau a nodwyd.

Mae’r cyfnod adrodd o 01 Awst ym mlwyddyn 1 i 31 Gorffennaf ym mlwyddyn 2. Mae hyn yn golygu bod cofnod Canlyniadau Arolwg Deilliannau Graddedigion 2020/21 yn ymwneud â myfyrwyr a gwblhaodd raglenni astudio cymwys rhwng 01 Awst 2020 a 31 Gorffennaf 2021 ac a aeth ati i gwblhau’r arolwg (neu o leiaf y lleiafswm angenrheidiol ohono).

Cesglir y data sydd yn y datganiad hwn gan raddedigion o sefydliadau addysg uwch a ariennir yn gyhoeddus yn y DU, a graddedigion o ddarparwyr amgen a ariennir yn breifat y cyflwynir data myfyrwyr ar eu cyfer i HESA. Mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer graddedigion o gyrsiau lefel addysg uwch mewn colegau addysg bellach yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ymatebodd 355,050 o raddedigion yn y DU i arolwg Deilliannau Graddedigion 2020/21, o’r boblogaeth darged o 826,610. Mae hynny’n gyfradd ymateb llawn o 43%. Wrth gynnwys graddedigion a gwblhaodd yr arolwg yn rhannol, mae’r gyfradd ymateb hon yn codi i 46%, gan gynyddu nifer yr ymatebion defnyddiadwy i 383,575. Ymatebodd 49% o raddedigion o ddarparwyr yng Nghymru a 55% o raddedigion sy’n hanu o Gymru o ddarparwyr yn y DU i’r arolwg Deilliannau Graddedigion ar gyfer 2020/21 (gan gynnwys ymatebion rhannol).

Graddedigion sydd â gradd israddedig gan Ddarparwyr Addysg Uwch yng Nghymru

  • Roedd y rhan fwyaf (7,265 neu 54%) o’r graddedigion a holwyd mewn cyflogaeth amser llawn. Roedd 1,475 (11%) mewn cyflogaeth ran-amser. Roedd 1,320 (10%) mewn astudiaethau pellach amser llawn ac roedd 70 (1%) mewn astudiaethau pellach rhan-amser.
  • Roedd 710 (5%) o raddedigion yn ddi-waith.
  • Roedd gan ddarparwyr yng Nghymru ganran is o raddedigion, o’r rhai a holwyd, a oedd mewn cyflogaeth amser llawn na darparwyr eraill yn y DU (54% o raddedigion darparwyr yng Nghymru o’i gymharu â 57% o raddedigion darparwyr yn Lloegr, 59% o raddedigion darparwyr yn yr Alban a 61% o raddedigion darparwyr yng Ngogledd Iwerddon).
  • Roedd gan ddarparwyr yng Nghymru ganran uwch o raddedigion, o’r rhai a holwyd, a oedd mewn astudiaethau pellach amser llawn na darparwyr eraill yn y DU (10% o raddedigion darparwyr yng Nghymru o’i gymharu ag 8% o raddedigion darparwyr yn Lloegr, 9% o raddedigion darparwyr yn yr Alban a 7% o raddedigion darparwyr yng Ngogledd Iwerddon).

Graddedigion sydd â gradd ôl-raddedig gan Ddarparwyr Addysg Uwch yng Nghymru

  • Roedd y rhan fwyaf (3,720 neu 64%) o raddedigion a holwyd mewn cyflogaeth amser llawn ac roedd 680 (12%) mewn cyflogaeth ran-amser. Roedd 280 (5%) o raddedigion a holwyd mewn astudiaethau pellach amser llawn ac roedd 35 (1%) mewn astudiaethau pellach rhan-amser.
  • Roedd gan ddarparwyr yng Nghymru ganran is o raddedigion, o’r rhai a holwyd, a oedd mewn cyflogaeth amser llawn na darparwyr eraill yn y DU (64% o raddedigion darparwyr yng Nghymru o’i gymharu â 68% o raddedigion darparwyr yn Lloegr, 67% o raddedigion darparwyr yn yr Alban a 69% o raddedigion darparwyr yng Ngogledd Iwerddon).
  • Roedd gan ddarparwyr yng Nghymru ganran ychydig yn uwch o raddedigion, o’r rhai a holwyd, a oedd mewn cyflogaeth ran-amser na darparwyr eraill yn y DU (12% o raddedigion darparwyr yng Nghymru o’i gymharu â 9% o raddedigion darparwyr yn Lloegr, 10% o raddedigion darparwyr yn yr Alban a 10% o raddedigion darparwyr yng Ngogledd Iwerddon).
  • Roedd 235 (4%) o raddedigion yn ddi-waith.

Cyflogau graddedigion darparwyr addysg uwch yng Nghymru a enillodd radd dosbarth cyntaf ac a gafodd gyflogaeth amser llawn â thâl

  • Y cyflog canolrifol ar gyfer graddedigion a holwyd o ddarparwyr yng Nghymru oedd £25,000, yr un fath ag ar gyfer graddedigion a holwyd o ddarparwyr yng Ngogledd Iwerddon. Ar gyfer graddedigion o ddarparwyr yn Lloegr a’r Alban, roedd y cyflog canolrifol ychydig yn uwch, sef £26,000.
  • Y graddedigion o bynciau meddygaeth a deintyddiaeth nododd y cyflogau canolrifol uchaf, sef £34,000.

Graddedigion sy’n hanu o Gymru

  • Roedd 6,100 (56%) o israddedigion a holwyd mewn cyflogaeth amser llawn ac roedd 1,300 (12%) mewn cyflogaeth ran-amser. Roedd 905 (8%) o israddedigion a holwyd mewn astudiaethau pellach amser llawn ac roedd 60 (1%) mewn astudiaethau pellach rhan-amser. Roedd 475 (4%) yn ddi-waith.
  • Roedd 3,030 (68%) o ôl-raddedigion a holwyd mewn cyflogaeth amser llawn ac roedd 470 (11%) mewn cyflogaeth ran-amser. Roedd 135 (3%) o ôl-raddedigion a holwyd mewn astudiaethau pellach amser llawn ac roedd 15 (llai nag 1%) mewn astudiaethau pellach rhan-amser. Roedd 130 (3%) yn ddi-waith.
  • Roedd 53% o’r graddedigion a fu’n israddedigion amser llawn ac sy’n hanu o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru (Cwintel 1 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) mewn cyflogaeth amser llawn, tra roedd 59% o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig (Cwintel 5 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) mewn cyflogaeth amser llawn.

Cyswllt

Sedeek Ameer

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.