Neidio i'r prif gynnwy

Mae delweddau newydd wedi'u rhyddhau sy'n dangos gwir raddfa rhaglen metro uchelgeisiol Gogledd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhyddhawyd y delweddau cyn ymweliad gan Lee Waters â Gorsaf Gyffredinol Wrecsam heddiw.

Roedd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, gyda chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, yn yr orsaf i weld y gwaith sy'n digwydd ar gynllun metro gogledd Cymru diolch i dros £9 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar. Mae hyn yn rhan o £50 miliwn a ddarparwyd ers 2020.

Mae'r delweddau newydd yn dangos blaenoriaethau hyd at 2029 sy'n cynnwys gwelliannau mawr mewn gorsafoedd poblogaidd, creu gorsafoedd newydd a threnau amlach yr holl ffordd o Fangor i Wrecsam.

Maent hefyd yn cipio prosiectau mwy uchelgeisiol, hirdymor gan gynnwys trydaneiddio o Gaergybi ar draws i Gaer ac estyniadau i orllewin Cymru ac i'r gogledd o Ynys Môn.

Yn ystod yr ymweliad â Wrecsam, llwyddodd y Dirprwy Weinidog i ddysgu mwy am brosiectau a fydd yn elwa o'r cyllid eleni gan gynnwys:

  • £4.8 miliwn ar gyfer gwelliannau i fysiau gan gynnwys sgriniau gwybodaeth ar draws rhwydwaith Traws Cymru, adnewyddu gorsaf fysiau Bangor, a chynlluniau fflecsi newydd
  • £2.7 miliwn ar gyfer gwelliannau mewn gorsafoedd trên gan gynnwys Wrecsam, a gwelliannau hygyrchedd
  • mwy na £1 miliwn i edrych ar ffyrdd o wella cysylltedd rhwng Wrecsam a Lerpwl
  • mwy na £1 miliwn ar gyfer Strategaeth Drafnidiaeth Eryri sy'n ceisio annog parcio a theithio, teithio ar fysiau a theithio llesol yn y Parc Cenedlaethol
  • £1.5 miliwn i ddatblygu gorsaf integredig yn Shotton
  • £670,000 tuag at ddatblygu Parkway Glannau Dyfrdwy
  • £900,000 tuag at astudiaeth o brif rwydwaith arfordir gogledd Cymru, gyda'r bwriad o wella amseroedd teithio
  • £250,000 i gefnogi'r gwaith o gyflwyno tocynnau integredig ar fysiau

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Yng ngogledd Cymru, rydym wedi sefydlu'r sylfeini ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau trawsnewidiol a theithio llesol.

"Ochr yn ochr â lleihau unigedd gwledig a gwella cyfleoedd gwaith, busnes a hamdden ledled gogledd Cymru, bydd y cynlluniau hyn hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatblygu economi ehangach y rhanbarth.

"Bydd ein rhwydwaith trafnidiaeth yn newid y ffordd rydym yn teithio drwy greu rhwydweithiau bysiau, rheilffyrdd a beicio a cherdded modern, cynaliadwy, a chreu amrywiaeth o gyfleoedd gwaith a hamdden tra'n lleihau effaith amgylcheddol.

"Byddant hefyd yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni blaenoriaethau ac amcanion ein strategaeth drafnidiaeth newydd uchelgeisiol, Y Llwybr Newydd a'n helpu i gyrraedd ein targed o wneud 45% o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol erbyn 2040, gan helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd, allyriadau carbon a llygredd aer.

"Cyn bo hir, gall pobl ledled Cymru ddisgwyl rhwydwaith o lwybrau a chyfnewidfeydd sy'n cynnig gwasanaethau cyflymach, amlach a dibynadwy ar gerbydau mwy cyfforddus, hygyrch a gwyrddach.

"Fodd bynnag, allwn ni ddim cyflawni ein huchelgeisiau cyffredin i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd heb gefnogaeth Llywodraeth y DU i ddarparu'r rhaglenni hyn lle mae teithwyr yn dibynnu'n drwm ar welliannau ar seilwaith Network Rail."

Roedd y Dirprwy Weinidog hefyd yn gallu gweld cynnydd cynnar yn cael ei wneud ar brosiect Porth Wrecsam sy’n werth miliynau o bunnoedd.

Bydd y prosiect, a wnaed yn bosibl diolch i £25 miliwn gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth eleni, yn trawsnewid un o'r prif lwybrau i ganol tref Wrecsam ac yn cael ei gyflwyno drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn cydweithrediad â Thrafnidiaeth Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.