Nod yr ymchwil yw pennu a mapio data presennol a data hanesyddol er mwyn archwilio rhenti a fforddiadwyedd yng Nghymru, gan lywio gwaith datblygu polisïau ac ymchwil ar ‘renti teg’ neu ‘reoli rhenti’.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r adroddiad yn nodi ac yn mapio data cyfredol a hanesyddol i archwilio rhenti a fforddiadwyedd yng Nghymru, ac i ddeall strwythur y farchnad yng Nghymru.
Ar sail arolwg o’r ffynonellau data sydd ar gael a chyfweliadau â rhanddeiliaid, cafwyd 138 o setiau data’n ymdrin â’r farchnad dai yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn nodi tueddiadau a phatrymau mewn dangosyddion dethol, gan gynnwys fforddiadwyedd tai rhent preifat, ansawdd tai, prisiau rhent, digartrefedd, nodweddion landlordiaid a deiliadaeth tai, ymhlith eraill.
Nodwyd hefyd fylchau a diffygion yn y data. Yn arbennig, roedd diffyg data am nodweddion tenantiaid a landlordiaid, ac mae gwybodaeth ddaearyddol yn aml yn brin.
