Delyth Jewell AS Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
Cynnwys
Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Goruchwylio Gofal Cymdeithasol Cymru
- Gwasanaethau iechyd meddwl
- Gwasanaethau a pholisi Iechyd Menywod
- Atal hunanladdiad
- Dementia
- Niwroamrywiaeth
- Anabledd dysgu
- Rheoleiddio gofal preswyl, gofal cartref, lleoliadau i oedolion, gofal maeth, darpariaeth gofal i blant o dan 12 oed a gofal iechyd preifat
- Arolygu gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan Awdurdodau Lleol, ac adrodd arnynt (drwy Arolygiaeth Gofal Cymru), gan gynnwys adolygiadau ar y cyd o wasanaethau cymdeithasol ac ymateb i adroddiadau
- Polisi a goruchwylio darpariaeth holl weithgareddau gwasanaethau cymdeithasol Awdurdodau Lleol yng Nghymru, gan gynnwys dyroddi canllawiau statudol
- Rhannu gwybodaeth o dan Ddeddf Plant 2004
- Gwasanaethau mabwysiadu a maethu
- Cafcass Cymru
- Gofalwyr
- Diogelu (mewn gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd) a chydgysylltu'r polisi diogelu cyffredinol ar draws y Llywodraeth
- Pobl hŷn
Bywgraffiad
Hanes personol
Ganed Delyth Jewell yng Nghaerffili, tyfodd i fyny yn Ystrad Mynach, ac aeth i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ym Margoed, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, lle graddiodd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ac ennill Gradd Meistr mewn Astudiaethau Celtaidd.
Cefndir proffesiynol
Ar ôl graddio o’r Brifysgol, bu’n gweithio fel ymchwilydd ac ysgrifennwr areithiau i Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn San Steffan o dan arweinyddiaeth Elfyn Llwyd AS. Yn 2014, enillodd Wobr Ymchwilydd y Flwyddyn am ei gwaith yn braenaru’r tir ar gyfer deddfwriaeth ar stelcio a thrais domestig. Yn ddiweddarach, bu’n gweithio i Gyngor ar Bopeth ac Action Aid.
Hanes gwleidyddol
Yn 2019, tyngodd Delyth Jewell lw fel Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, yn dilyn marwolaeth Steffan Lewis, ac fe’i henwyd yn llefarydd ei phlaid ar Brexit a Materion Allanol. Yn 2021, cafodd ei hailethol yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, a’i phenodi’n llefarydd ei phlaid ar newid hinsawdd a thrafnidiaeth. Rhwng 2021 a 2026, cadeiriodd Bwyllgor y Senedd ar Ddiwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Ar 13 Mai 2026 cafodd ei phenodi’n Ddirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod yn Llywodraeth Cymru.
