Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n crynhoi gwybodaeth ar y nifer o enedigaethau a marwolaethau a stoc mentrau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW / PAYE ar gyfer 2017.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm nifer y mentrau a oedd yn weithredol yng Nghymru yn ystod 2017 oedd 102,890.
  • Gwelwyd 14,120 o fentrau’n cael eu geni yng Nghymru yn ystod 2017, sy'n gyfradd(1) o 13.7%. Dyma'r gyfradd trydydd uchaf allan o wledydd a rhanbarthau'r DU. Cyfradd geni busnesau'r DU oedd 13.1%.
  • Bu 10,725 o fentrau farw yng Nghymru yn ystod 2017, sef cyfradd(1) o 10.4%. Dyma'r gyfradd ail isaf o wledydd a rhanbarthau'r DU (Llundain oedd yr uchaf gyda 14.2%).  Cyfradd marw busnesau'r DU oedd 12.2%.
  • Y gyfradd oroesi 5 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2012 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2017 yng Nghymru oedd 44.0%, ychydig yn uwch na chyfradd oroesi’r DU o 43.2%.  Yn Ne orllewin Lloegr roedd y gyfradd oroesi 5 mlynedd uchaf (45.8%) ac yn Llundain yr oedd yr isaf (39.3%).
  • Y gyfradd oroesi 1 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2016 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2017 yng Nghymru oedd 91.8%, yn ychydig yn uwch na chyfradd oroesi'r DU o 91.5%. Yng Ngogledd Iwerddon cafwyd y gyfradd oroesi isaf (88.5%), tra bod yr uchaf yn Ddwyrain Lloegr (93.6%).

(1) Cyfrifir cyfraddau fel canran o stoc.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.