Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n crynhoi gwybodaeth ar y nifer o enedigaethau a marwolaethau a stoc mentrau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW/PAYE ar gyfer 2022.

Ar 31 Ionawr 2024, cafodd y tablau StatsCymru ar gyfer busnesau oedd wedi eu geni, marw a mentrau gweithredol yn ôl diwydiant eu diweddaru i gynnwys y data diweddaraf (2022).

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2022 ac yn cyfeirio at fusnesau oedd yn weithredol rhwng Rhagfyr 2021 a Rhagfyr 2022.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm nifer y mentrau a oedd yn weithredol yng Nghymru yn ystod 2022 oedd 104,520. Roedd hyn yn ostyngiad o 1,295 o fentrau (1.2%) ar 2021.
  • Gwelwyd 12,090 o fentrau’n cael eu geni yng Nghymru yn ystod 2022, sy'n gyfradd o 11.6%. Cyfradd geni busnesau'r DU oedd 11.5%.
  • Bu 11,660 o fentrau farw yng Nghymru yn ystod 2022, sef cyfradd o 11.2%. Cyfradd marw busnesau'r DU oedd 11.8%.
  • Y gyfradd oroesi 5 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2017 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2022 yng Nghymru oedd 37.2%, ychydig yn is na chyfradd oroesi’r DU o 39.6%.  Yng Ngogledd Iwerddon oedd y gyfradd oroesi 5 mlynedd uchaf (49.0%) ac yn Ngogledd Orllewin Lloegr yr oedd yr isaf (31.6%).
  • Y gyfradd oroesi 1 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2021 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2022 yng Nghymru oedd 91.1%, ychydig yn is na chyfradd oroesi'r DU o 93.4%. Cymru oedd â'r ail gyfradd goroesi isaf ers 1 mlynedd ymhlith 12 gwlad y DU a rhanbarthau Lloegr. Yn Llundain cafwyd y gyfradd oroesi uchaf (94.1%), tra bod yr isaf yng Ngogledd Iwerddon (90.2%).

Nodi

Cyfrifir cyfraddau fel canran o stoc.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Emma Horncastle

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.