Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgareddau i nodi dengmlwyddiant Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Ar 29 Ebrill 2015, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru). Roedd hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth, yn garreg filltir oedd yn anelu at wella:

  • y trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • y trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • y cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Eich barn ar effaith y Ddeddf

Rydym am gasglu enghreifftiau o'r effaith gadarnhaol y mae'r Ddeddf wedi'i chael ar ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. 

Rydym hefyd eisiau cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol wrth fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Os gallwch ddarparu unrhyw enghreifftiau neu os hoffech enwebu cydweithiwr ar gyfer cydnabyddiaeth, cwblhewch yr arolwg byr hwn.

Bydd yr arolwg yn cau am hanner nos ar 31 Gorffennaf 2025.

Digwyddiadau

Cydweithio i wneud Cymru y lle mwyaf diogel i Fenywod a Merched: Medi 2025

Bydd yr uwchgynhadledd hon yn cael ei chynnal gan dîm Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae wedi'i hanelu at arweinwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru ynghyd â'r sector arbenigol i drafod sut y gallwn gyflymu camau gweithredu ar fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. 

Amcanion:

  • Rhannu arferion gorau ac arloesedd wrth fynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
  • Cryfhau arweinyddiaeth ar draws y sector cyhoeddus o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
  • Archwilio dulliau ar y cyd i sbarduno newidiadau ystyrlon.

Dathlad: Tachwedd 2025

Rydym yn cynnal y digwyddiad hwn i  randdeiliaid y sector er mwyn dathlu dengmlwyddiant y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, ac i gydnabod y rhai sydd wedi'u henwebu am wneud cyfraniad eithriadol wrth fynd i'r afael â'r mater hwn yng Nghymru.

Byddwn yn cysylltu ag enwebeion cyn y digwyddiad ym mis Medi 2025.

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost VAWDASV@llyw.cymru.