Neidio i'r prif gynnwy

Bydd depo trenau newydd modern yn agor yn Ffynnon Taf fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer Metro'r De, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Llywodraeth Cymru'n buddsoddi bron £100m yn nepo newydd Trafnidiaeth Cymru i gadw neu wasanaethu'r 36 o gerbydau newydd y bydd y Metro yn eu rhedeg ar leiniau Cwm Taf. 

Yn ogystal, bydd 400 o weithwyr trenau, 35 o staff cynnal a chadw cerbydau'r Metro a 52 o weithwyr canolfan reoli integredig Metro'r De yn gweithio yno. 

Fel rhan o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o £194m mewn rhaglen o welliannau i orsafoedd ledled Cymru, bydd gorsaf Ffynnon Taf hefyd yn cael ei hadnewyddu, a chaiff cyfleuster parcio a theithio ei ddarparu er lles cymudwyr ar Fetro'r De. 

Bydd y depo newydd yn Ffynnon Taf yn ategu depos eraill yn y De gan gynnwys yr un yng Nghanton, a fydd yn elwa ar fuddsoddiad o tua  £5m i foderneiddio'r cyfleusterau i gynnal a chadw'r cerbydau tri modd newydd fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r gwasanaeth rheilffyrdd newydd. 

Bydd arian yn cael ei fuddsoddi hefyd yn y cyfleusterau cadw trenau yn Nhreherbert a Rhymni ac i wella'n orsaf yn Rhymni iddi allu delio â mwy o gerbydau tri modd a rhai hirach. 

Meddai Ken Skates: 

Buddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol yw conglfaen ein ffordd newydd o weithio gyda'r rheilffyrdd ac yn unol â'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi, rydyn ni am wneud yn siwr bod ein buddsoddiad o £5bn yn y gwasanaethau rheilffyrdd yn cynyddu'r cyfleoedd i fusnesau o Gymru, yn rhoi hwb i economi Cymru ac yn datblygu sgiliau lleol gan greu a chynnal cymaint o swyddi lleol â phosib

"Adeiladu depo Ffynnon Taf fydd un o'r cyfleoedd cyntaf i gyflenwyr o Gymru elwa'n uniongyrchol ar ein buddsoddiad o £738m ym Metro'r De a fydd yn creu seilwaith trafnidiaeth cynaliadwy a chysylltiedig. Testun cyffro mawr imi yw'r gwahaniaeth byw a gweladwy y gall y buddsoddiad hwn gan y sector cyhoeddus ei wneud i fusnesau a chymunedau Cymru." 

Disgwylir i'r gwaith clirio ac adeiladu ar gyfer y depo newydd ddechrau yn 2019 a'i gwblhau erbyn canol 2022. 

Bydd Trafnidiaeth Cymru'n caffael cwmnïau adeiladu ar gyfer y depo trwy GwerthwchiGymru a'r fframwaith STRIDE i wneud yn siŵr bod Cymru'n cael y gorau o'r manteision economaidd.