Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates wedi cyhoeddi y bydd archif teulu arbennig, sy’n cynnwys cyfres bwysig o lythyrau gan Arthur, Dug 1af Wellington, at ei frawd William, yn dod i Went.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Gweinidogion Cymru wedi derbyn archif y teulu ar gyfer y genedl yn gyfnewid am y dreth etifeddiaeth.  

Mae’r archif yn cynnwys gohebiaeth filwrol a phersonol FitzRoy Somerset, Barwn 1af Rhaglan (1788 -1855) a fu farw ger Sevastopol yn y Crimea.
FitzRoy Somerset oedd un o Gadlywyddion milwrol uchaf ei barch ym Mhrydain yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwasanaethodd fel yr aide-de-camp a’r ysgrifennydd milwrol i Ddug 1af Wellington am dros ddeugain mlynedd.

Mae’r archif yn cynnwys llawer iawn o fanylion ynghylch perthynas Somerset â Wellington yn syth ar ôl Waterloo. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys llawer iawn o ohebiaeth deuluol a phapurau sy’n disgrifio dylanwad a diddordebau teulu blaenllaw yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.  

Dywedodd Ken Skates wrth groesawu’r newyddion:
“Rwy’n falch iawn y bydd y casgliad hwn yn cael ei gadw’n barhaol yn Archifau Gwent. Mae’n ychwanegiad gwych at eu casgliadau, ac yn creu adnodd gwerthfawr iawn ar gyfer astudio cyfnod allweddol yn hanes milwrol Prydain. Mae hefyd yn rhoi cipolwg diddorol iawn o fywyd y teulu Somerset dros sawl cenhedlaeth.”

Dywedodd Tony Hopkins, Archifydd y Sir yn Archifau Gwent: 
“Mae hwn yn gasgliad nodedig ac mae’n fraint inni gael gofalu amdano.  Heb amheuaeth o gwbl, mae archif Rhaglan yn gasgliad o bwys cenedlaethol a rhyngwladol ac yn gaffaeliad i adnoddau diwylliannol yr ardal.  Gall pobl Gwent ymfalchïo’n fawr ynddo.”

Mae’r cynllun Derbyn yn lle Treth yn galluogi trethdalwyr i drosglwyddo gweithiau celf ac eitemau treftadaeth pwysig, fel Archif Rhaglan, i berchenogaeth gyhoeddus. Trwy wneud hyn gall eu treth etifeddiant gael ei thalu’n llawn neu’n rhannol. Mae’n rhaid i’r eitemau hyn gael eu cymeradwyo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, sy’n derbyn cyngor gan Banel y DU ar gyfer Derbyn yn lle Treth.  

Mae’r panel yn cynnwys arbenigwyr annibynnol sy’n ceisio cyngor arbenigol ar y gwrthrych sy’n cael ei gynnig. Mae’r Panel yn gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru yng Nghymru ac mae’n aml yn cydweithio â’r Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.

Dywedodd Edward Harley, Cadeirydd Panel y DU ar gyfer Derbyn yn lle Treth:
“Mae’r cynllun Derbyn yn lle Treth yn parhau i sicrhau gwrthrychau celf a diwylliannol o’r radd flaenaf ar gyfer y genedl. Rwy’n falch iawn o’r ffaith y bydd yr archif hynod ddiddorol yma, sy’n amlinellu gyrfaoedd milwrol a llwyddiannau Arglwydd cyntaf Rhaglen a Dug cyntaf Wellington mewn perthynas â Rhyfel y Peninsular, Rhyfeloedd Napoleon a Rhyfel y Crimea, yn cael ei gadw’n barhaol yn Archifau Gwent.”