Dewis y math o ddarparwr llety
Canllawiau ar sut it ddewis math o ddarparwr llety wrth gofrestru eich llety ymwelwyr.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Rhaid i chi ddweud pa fath o ddarparwr ydych chi cyn y gallwch ychwanegu manylion eich llety.
Gallwch ddewis o 6 math o ddarparwr.
Darparwr llety unigol
Rydych yn ddarparwr unigol os mai chi yw unig berchennog eich busnes llety ymwelwyr. Er enghraifft, os ydych yn hunangyflogedig ac yn cadw gwesty Airbnb.
Cwmni neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (LLP)
Os oes gennych rif cwmni, rydych chi'n gwmni neu'n LLP.
Gallwch edrych i weld a oes gennych rif cwmni neu ddim (ar gael yn Saesneg yn unig).
Rhannu’r cyfrifoldeb neu mewn partneriaeth
Rydych yn ddarparwr sy’n rhannu cyfrifoldeb neu mewn partneriaeth os:
- ydych yn rhannu'r cyfrifoldeb am y llety gyda rhywun arall
- nad yw eich partneriaeth wedi'i chofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau
Enghraifft o gwpl priod yn gweithredu fel partneriaeth
Mae Mary a Jordan yn briod. Mae'r ddau yn hunangyflogedig. Maen nhw'n rheoli'r llety gyda'i gilydd. Rhaid i Mary a Jordan gofrestru fel partneriaeth.
Elusen fel darparwr llety
Gallwch fod yn elusen neu gwmni elusennol o unrhyw fath.
Nid oes angen i chi fod wedi'ch cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau.
Clwb chwaraeon, grŵp gwirfoddol neu gymunedol
Gall eich llety fod yn glwb chwaraeon, grŵp gwirfoddol, neu’n sefydliad cymunedol. Mae hyn hefyd yn cael ei alw’n gorff anghorfforedig. Nid oes angen i chi fod yn gwmni nac yn elusen.
Darparwyr llety eraill
Dewiswch 'arall' ar gyfer unrhyw fath arall o ddarparwr, fel:
- ymddiriedolaethau
- cymdeithasau budd cymunedol
- cyrff cyhoeddus
