Dewisiadau Ar-lein a Rheoli Asiantwyr/Undebau Amaethyddol
Canllaw ar sut i osod eich Dewisiadau Ar-lein a Rheoli Asiantwyr ac Undebau Amaethyddol sy'n gweithredu ar ran eich busnes.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Dewisiadau Ar-lein
Ar eich tudalen hafan, dewiswch Manylion y CRN ac o'r gwymplen dewiswch Dewisiadau Ar-lein. Bydd y sgrin Dewisiadau Ar-lein yn ymddangos, a thrwy ddewis Diweddaru'r wybodaeth hon, gallwch ddewis derbyn hysbysiadau trwy e-bost, SMS, neu'r ddau. Gallwch hefyd ddiweddaru eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn symudol. Bydd Cyswllt Ffermio yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn symudol, lle bo gofyn. Dewiswch Safio i ddiweddaru'ch gwybodaeth neu Canslo i fynd yn ôl i'r sgrin flaenorol. Bydd eich newidiadau yn cael eu dangos ar unwaith ar y sgrin Dewisiadau Ar-lein.
Pwysig: os yw'ch cyfrif wedi'i roi ar Floc Cyfyngedig, ni fydd y tab Diweddaru'r wybodaeth hon yn ymddangos i chi allu gwneud newidiadau.
Rheoli Asiantwyr/Undebau Amaethyddol
O'ch hafan, dewiswch Manylion y CRN, yna Rheoli Asiantwyr/Undebau Amaethyddol. Mae'r dudalen hon yn rhestru'r holl Asiantwyr /Undebau Amaethyddol cysylltiedig, gan ddangos eu CRN, eu henw, a'r meysydd yn eich busnes y maen nhw'n cael neu ddim yn cael delio â nhw.
Gallwch newid y maes y mae asiant neu undeb amaethyddol yn cael delio ag ef drwy ddewis y tab Diwygio. Mae'r tab Gweld Hanes yn dangos yr holl rolau sydd wedi'u caniatáu.
Ychwanegu Asiant neu Undeb Amaethyddol at eich busnes
Dewiswch Manylion y CRN ar eich hafan, yna dewiswch Rheoli Asiantwyr/Undebau Amaethyddol o'r ddewislen. Pan fydd y dudalen yn agor, dewiswch y tab Ychwanegu o'r Newydd yn y gornel dde uchaf.
Mae hyn yn agor y dudalen Dod o hyd i Asiant/Undeb Amaethyddol, lle mae'n rhaid i chi nodi CRN yr Asiant neu'r Undeb Amaethyddol ac yna dewis Chwilio.
Yna bydd y dudalen Ychwanegu Cyswllt Newydd yn dangos y CRN, y Teitl Masnachu, a'r chwe maes lle gallwch roi caniatâd i'r Asiant neu'r Undeb Amaethyddol weithredu ar eich rhan.
Y rhain yw:
- Newid Manylion Busnes: bydd y rôl hon yn gadael iddynt newid manylion y busnes ar-lein, gan gynnwys diweddaru Meysydd Busnes a Sectorau Amaethyddol. Gellir newid manylion busnes o dan Manylion y Cwsmer.
- Cwblhau Ceisiadau a Hawliadau: bydd y rôl hon yn caniatáu iddynt lenwi'r hawliad ar-lein. Nid yw'n rhoi caniatâd i gyflwyno'r hawliad. Bydd y caniatâd hwn yn rhoi'r hawl ichi ddiweddaru Meysydd Busnes a Sectorau Amaethyddol (gallwch eu newid o dan Fanylion Cwsmeriaid).
- Cyflwyno Ceisiadau a Hawliadau: bydd y rôl hon yn gadael iddynt gyflwyno ceisiadau a hawliadau ar-lein.
- Gweld Taliad/ Llythyrau Ariannol: bydd y rôl hon yn gadael i Wybodaeth Ariannol gael ei gweld ar-lein, e.e. llythyrau talu, llythyrau ynglŷn â gordalu a thaliadau. Ni fydd Asiantwyr/Undebau Amaethyddol yn cael gweld eich manylion banc.
- Rheoli Hawliau: bydd y rôl hon yn caniatáu trosglwyddo neu lesio hawliau Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) ar-lein. Caiff hysbysiad am gais trosglwyddo (neu lesio) ei anfon i'r Cyfeiriad Gohebu.
- Derbyn/Gwrthod contractau: bydd y rôl hon yn caniatáu i gontractau gael eu derbyn neu eu gwrthod.
Ar ôl dewis eich caniatâd, dewiswch Ychwanegu i'w gadw neu Canslo i adael. Ar ôl dewis Ychwanegu, byddwch yn mynd yn ôl i'r dudalen Rheoli Asiantwyr/Undebau Amaethyddol, lle bydd CRN a Theitl Masnachu'r Asiant neu'r Undeb Amaethyddol yn ymddangos wrth flwch ag amlinell felen gyda'r geiriau 'Aros am Gymeradwyaeth Asiant/Undeb Ffermio'. Bydd tic yn cael ei roi wrth ganiatâd rydych wedi'i roi a chroes wrth ganiatâd nad ydych wedi'i roi.
Gallwch newid y caniatâd drwy ddewis y botwm Diwygio ac agor y dudalen Diwygio Cyswllt. I arbed eich newidiadau, dewiswch Diweddaru a byddwch yn mynd yn ôl i'r dudalen Rheoli Asiantwyr/Undebau Amaethyddol. Os ydych chi'n dewis Canslo, ni fydd unrhyw newidiadau a wnaethoch yn cael eu cadw.
Mae'r dudalen Diwygio Cyswllt hefyd yn cynnwys tab Gwrthod. Defnyddiwch yr opsiwn hwn os hoffech ddileu'r cyswllt â'r Asiant neu'r Undeb Amaethyddol. Gofynnir ichi gadarnhau eich bod am wrthod. Ar ôl ei gadarnhau, ni fydd yr Asiant neu'r Undeb Amaethyddol bellach yn gallu cynnal unrhyw weithgareddau yn RPW Ar-lein ar eich rhan, oni bai eich bod yn dewis creu cyswllt newydd yn y dyfodol.
Bydd penderfyniad yr Asiant neu'r Undeb Amaethyddol yn cael ei ddangos ar y dudalen Rheoli Asiantwyr/Undebau Ffermio. Bydd blwch gwyrdd gyda thic a'r neges Wedi'i gymeradwyo gan yr Asiant/Undeb Amaethyddol yn ymddangos os caiff y cyswllt ei gymeradwyo. Bydd blwch coch gyda chroes a'r neges Wedi'i wrthod gan yr Asiant/Undeb Amaethyddol yn ymddangos os caiff ei wrthod. Os byddwch yn Diwygio eich dewisiadau caniatâd ac yn dewis Diweddaru, bydd gwahoddiad newydd yn cael ei anfon at yr Asiant neu'r Undeb Amaethyddol.
Newid caniatâd ar gyfer yr Asiant/Undeb Amaethyddol
Gallwch newid y caniatâd a roddwyd i Asiant neu Undeb Amaethyddol ar unrhyw adeg. Dewiswch Manylion y CRN, yna Rheoli Asiantwyr/Undebau Amaethyddol, a dewiswch yr Asiant perthnasol.
Dewiswch Diwygio i ddiweddaru'r caniatâd, yna Diweddaru i gadw'r newidiadau. Bydd gwahoddiad wedi'i newid yn cael ei anfon at yr Asiant neu'r Undeb Amaethyddol i'w adolygu.
Bydd ei benderfyniad yn cael ei ddangos ar y dudalen Rheoli Asiantwyr/Undebau Amaethyddol.
Gwrthod cyswllt â'r Asiant/Undeb Amaethyddol
Os nad ydych bellach am i Asiant neu Undeb Amaethyddol weithredu ar ran eich busnes, gallwch ddileu'r cyswllt. Dewiswch Manylion y CRN, yna Rheoli Asiantwyr/Undebau Amaethyddol, a dewiswch yr Asiant perthnasol. Dewiswch Gwrthod a chadarnhewch y weithred pan ofynnir i chi wneud. Ar ôl ei wrthod, ni fydd yr Asiant neu'r Undeb Amaethyddol bellach yn gallu cynnal unrhyw weithgareddau yn RPW Ar-lein ar ran eich busnes, oni bai eich bod yn creu cyswllt newydd yn y dyfodol. Bydd y dudalen Rheoli Asiantwyr/Undebau Amaethyddol yn dangos blwch ag iddo amlinell goch sy'n dweud bod y cwsmer wedi'i wrthod.
I ddad-wrthod cyswllt ag Asiant neu Undeb Amaethyddol
Dewiswch Manylion y CRN ar eich hafan, yna dewiswch Rheoli Asiantwyr/Undebau Amaethyddol o'r ddewislen. Dewiswch yr Asiant neu'r Undeb Amaethyddol perthnasol, yna dewiswch Diwygio. Newidiwch eich dewisiadau caniatâd yn ôl yr angen a dewis Diweddaru. Yna bydd y gwahoddiad yn cael ei ail-anfon at yr Asiant neu'r Undeb Amaethyddol am benderfyniad.
