Gan ddefnyddio data cysylltiedig gweinyddol, canfu'r astudiaeth hon fod digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau gyda'i gilydd yn cynyddu anghydraddoldebau iechyd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r astudiaeth hon yn ymchwilio i'r berthynas rhwng digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd ar y defnydd o ofal eilaidd yng Nghymru.
Prif ganfyddiadau
Mae unigolion sydd mewn triniaeth camddefnyddio sylweddau sydd â phrofiad o ddigartrefedd, o'i gymharu â'r rhai heb brofiad, yn fwy tebygol o:
- fynychu’r Adran Achosion Brys yn aml
- gael diagnosis o glefydau croen, anafiadau, ac anhwylderau meddyliol ac ymddygiadol
- fod â chyfraddau derbyn uwch i'r ysbyty
- brofi arhosiad hirach yn yr ysbyty
