Pwy i gysylltu â nhw a ble i ddod o hyd i gymorth, fel y gallwch gael yr help sydd ei angen arnoch cyn gynted â phosibl.
Cynnwys
Mae awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol yn gyfrifol am ddiwallu anghenion tai yng Nghymru a delio â'r rhan fwyaf o faterion sy'n gysylltiedig â thai.
Mae Llywodraeth Cymru yn pennu polisi cenedlaethol ond ni all ymyrryd mewn achosion unigol, megis atgyweiriadau, anghydfodau rhwng cymdogion, penderfyniadau dyrannu tai cymdeithasol, materion rhent neu gŵynion am eich landlord.
Beth ddylech chi ei wneud yn gyntaf
Os nad ydych yn siŵr pa awdurdod lleol (a elwir hefyd yn Gyngor) sy'n darparu gwasanaethau yn eich ardal chi, gallwch ddod o hyd i'ch cyngor gan ddefnyddio eich cod post.
Mae eich awdurdod lleol neu'ch Cyngor yn gyfrifol am y canlynol:
- asesu eich anghenion tai
- darparu cyngor a chymorth o ran digartrefedd
- rheoli cofrestrau tai (yn y rhan fwyaf o achosion)
- gweithio gyda chymdeithasau tai yn eich ardal chi
Ar ôl i chi ddod o hyd i'ch awdurdod lleol, dylech gysylltu â'u gwasanaeth tai neu ddigartrefedd am gymorth. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai eich problem gael ei datrys yn lleol.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn ymchwilio nac yn datrys cwynion unigol, ac nid yw anfon eich cwyn atom yn rhan o'r broses gwyno nac yn gweithredu fel uwchgyfeirio; rhaid i chi ddilyn gweithdrefn gwyno'r sefydliad perthnasol ei hun.
Rydym yn argymell eich bod yn cymryd y camau canlynol:
- Cysylltu â'ch landlord
Eich landlord (awdurdod lleol neu gymdeithas dai) sy'n gyfrifol am reoli eich tenantiaeth ac ymdrin ag unrhyw broblemau, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol neu atgyweiriadau.
- Defnyddio proses gwyno eich landlord
Os ydych chi'n anhapus â'u hymateb, dylech ddefnyddio eu gweithdrefn gwyno ffurfiol. Rhaid iddynt esbonio sut mae hyn yn gweithio a'r amserlenni dan sylw.
- Uwchgyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Os ydych wedi cwblhau'r broses gwyno ac yn parhau i fod yn anfodlon, gallwch ofyn i'r Ombwdsmon adolygu eich achos.
Help gyda phroblemau tai cyffredin
Atgyweiriadau a chyflwr eiddo
Rhowch wybod am unrhyw broblemau i'ch landlord yn gyntaf.
Rhaid i landlordiaid gadw cartrefi mewn cyflwr da a mynd i'r afael â phroblemau o fewn cyfnod rhesymol. O 1 Rhagfyr 2022 ymlaen, rhaid i landlordiaid sicrhau bod eiddo yn bodloni'r safonau Ffitrwydd i fod yn gartref (FFHH) ar ddechrau a thrwy gydol meddiannaeth. Mae'r rhain yn cynnwys gofynion i atal neu ddelio â materion fel lleithder a llwydni.
Ymhellach, o 1 Ebrill 2026 ymlaen, mae elfen 1c o Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn gosod dyletswydd ffurfiol ar landlordiaid cymdeithasol i nodi, ymchwilio ac unioni peryglon tai o fewn amserlenni penodol.
Gall awdurdodau lleol hefyd archwilio eiddo gan ddefnyddio'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.
I gael rhagor o wybodaeth:
Dyrannu tai cymdeithasol
Mae awdurdodau lleol yn rheoli mynediad at dai cymdeithasol ac yn gweithredu eu polisïau dyrannu eu hunain. Mae'r rhain yn esbonio sut mae cartrefi yn cael eu blaenoriaethu.
Bydd eich safle ar y gofrestr dai yn dibynnu ar:
- eich angen tai,
- unrhyw gysylltiad â'r meini prawf ardal a nodir ym mholisi dyrannu awdurdodau lleol, a
- sut mae'r cynllun yn ystyried amseroedd aros o fewn grwpiau blaenoriaeth. Mae pobl sydd â'r angen mwyaf brys yn cael blaenoriaeth ac maent yn cael eu cydnabod fel rhai sydd â “ffafriaeth resymol” o dan y gyfraith.
- Os ydych chi'n ddigartref neu mewn perygl o ddigartrefedd, rhaid i'ch awdurdod lleol asesu eich sefyllfa a darparu cymorth pan fydd dyletswydd yn ddyledus o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Y Gymraeg a thai cymdeithasol
Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn gweld cyfeiriadau at bolisïau gosod eiddo lleol. Mae'r rhain yn caniatáu i awdurdodau lleol ystyried disgrifiadau penodol eraill o bobl y dylid dyrannu llety iddynt i fynd i'r afael ag angen lleol mewn ardal benodol o'u hawdurdod lleol. Nid yw polisïau Gosod Eiddo Lleol yn disodli'r gyfraith — rhaid iddynt weithredu o fewn y fframwaith dyrannu cyfreithiol.
Os bydd awdurdodau tai lleol yn penderfynu cyflwyno polisi gosod eiddo lleol, rhaid iddynt sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â'r gyfraith. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi egluro y gall fod yn gyfreithlon ystyried gallu person o ran y Gymraeg o fewn polisïau gosod eiddo. Fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i gyfyngiadau pwysig:
- ni chaiff fod yn drech na’r gofynion statudol i flaenoriaethu pobl ag anghenion o ran tai
- dim ond mewn ffordd gyfyngedig a chymesur y gellir ei ddefnyddio
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gall ystyriaethau o ran yr iaith fod yn rhan o'r ffordd y mae rhai cartrefi yn cael eu gosod pan fo awdurdod tai lleol yn penderfynu, ond ni allant bennu blaenoriaeth gyffredinol ar gyfer tai. Am esboniad llawn o'r sefyllfa gyfreithiol, gallwch ddarllen datganiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, sy'n nodi sut mae ystyriaethau o ran y Gymraeg yn rhyngweithio â chyfraith tai.
I gael rhagor o wybodaeth: Y Cod Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd
Cyngor a chymorth annibynnol
Os oes angen help arnoch i ddeall eich hawliau neu fynd i'r afael â'r system, gallwch gysylltu â:
Shelter Cymru
- Cyngor a chymorth annibynnol am ddim o ran tai
- Ffôn: 08000 495 495
- E-bost: emailadvice@sheltercymru.org.uk
- Gwasanaethau wyneb yn wyneb ar gael ledled Cymru ar Shelter Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Shelter Cymru i ddarparu cyngor annibynnol, am ddim ar dai. Gall eu cynghorwyr helpu gydag ystod eang o faterion tai a digartrefedd.
Cyngor ar Bopeth
- Cyngor cyfrinachol, diduedd am ddim ar dai a materion eraill
- Ffôn: 0800 702 2020 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm)
Gallwch hefyd gael cyngor ar-lein drwy wasanaethau Cyngor ar Bopeth.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Rhowch wybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol i'ch landlord.
- Cadwch gofnod o ddigwyddiadau i gefnogi unrhyw ymchwiliad.
- Os bydd problemau'n parhau, efallai y byddwch yn gallu gofyn am Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (a elwid gynt yn Sbardun Cymunedol Ymddygiad Gwrthgymdeithasol). Mae hyn yn dod ag asiantaethau fel yr heddlu, awdurdodau lleol a darparwyr tai at ei gilydd i adolygu'ch achos
- I gael rhagor o wybodaeth: Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol De Cymru
Pwyntiau pwysig i’w cofio
- Rhaid datrys y rhan fwyaf o broblemau tai yn lleol
Eich landlord neu'ch awdurdod lleol yw'r pwynt cyswllt cyntaf. - Defnyddiwch y llwybr cywir yn gyntaf
Mae hyn yn helpu i ddatrys problemau yn gyflymach ac yn osgoi oedi. - Dilynwch y broses gwyno cyn uwchgyfeirio
Dim ond ar ôl i hyn gael ei gwblhau y gall yr Ombwdsmon ystyried achosion. - Mae cyngor annibynnol ar gael
