Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a nifer yr aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Prif bwyntiau (a)

Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref (b)

Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref: 10,737 Atal yn llwyddiannus am o leiaf 6 mis: 68% Atal aflwyddiannus: 16% Deilliannau eraill: 17%

  • Cynyddodd nifer yr aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref 18% yn 2018-19 i 10,737. Dyma’r nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth yma fis Ebrill 2015.
  • Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf 6 mis mewn 68% o achosion (67%), i fyny o 66% llynedd.

Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety (c)

Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety: 11,715 Wedi cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety: 41% Wedi cynorthwyo yn a flwyddiannus i ganfod llety: 38% Deilliannau eraill: 21%

  • Cynyddodd nifer yr aelwydydd digartref lle roedd dyletswydd i’w helpu i gael llety 4% ers 2017-18 i 11,715. Dyma’r nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth yma fis Ebrill 2015.
  • O’r rhain, cafodd 41% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety yn ystod y flwyddyn. Roedd hwn yr un fath â’r ganran yn y ddwy flynedd flaenorol er y cynnydd yn y nifer digartref.

Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth (d)

Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth: 2,631 Derbyniwyd gynnig o lety sefydlog, addas: 80% Deilliannau eraill: 15% Gwrthodwyd cymorth: 6%

  • Cafwyd cynnydd o 18% yn nifer yr aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth (i 2,631). Er y cynnydd, derbyniodd 80% (2,091 o aelwydydd) gynnig o lety sefydlog, addas. Mae hyn yn uwch na’r gyfradd ar gyfer 2017-18 (78%).

Aelwydydd mewn llety dros dro

  • Cynyddodd nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro ar 31 Mawrth 2019 8% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol i 2,226. Hwn oedd y nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth yma fis Ebrill 2015.
  • Parhaodd y sector breifat i fod y prif fath o lety a ddefnyddiwyd (37%).
  • Roedd 294 o aelwydydd (13%) mewn llety gwely a brecwast dros dro. Roedd hyn yn uwch na’r ddwy flynedd flaenorol .
  • O’r rhain, roedd 13% (36 o aelwydydd) yn deuluoedd gyda phlant, yr un gyfran a’r flwyddyn flaenorol.

Nodiadau

(a) Gall amrywiadau chwarterol a ffactorau tymhorol megis gwyliau a’r tywydd effeithio ar y data. Nid yw’r ystadegau yma yn cael eu haddasu yn dymhorol.

(b) Atal digartrefedd yw pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau cadarnhaol i ddarparu cymorth tai i rywun y mae'r awdurdod o'r farn ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.

(c) Yn dilyn hysbysiad bod ymgeisydd yn ddigartref, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd (adran 73) i gymryd camau rhesymol i helpu i sicrhau llety.

(d) Os yw'r aelwyd yn ddigartref, bod ganddi angen blaenoriaethol a'i bod yn ddigartref yn anfwriadol, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i sicrhau llety addas.

Ceir gwybodaeth bellach yn yr Adroddiad Ansawdd.

Adroddiadau

Digartrefedd: Ebrill 2018 i Fawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.