Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac am aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Gall amrywiadau chwarterol a ffactorau tymhorol megis gwyliau a’r tywydd effeithio ar y data. Nid yw’r ystadegau yma yn cael eu haddasu yn dymhorol. Ceir gwybodaeth bellach yn yr Adroddiad Ansawdd.

Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref

Image
Gostyngodd aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref 7% yn 2019-20 o'i gymharu â'r blwyddyn flaenorol, ond arhosodd yn uwch nag yn 2015-16 i 2017-18.

 

  • Roedd 9,993 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref, i lawr 7% ers 2018-19.
  • Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf 6 mis mewn 67% o achosion.

Atal digartrefedd yw pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau cadarnhaol i ddarparu cymorth tai i rywun y mae'r awdurdod o'r farn ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.

Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety

Image
Siar llinell i ddangos cynnydd bob blwyddyn yn y nifer o aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety, 2015-16 i 2019-20.

 

  • Cafodd 12,399 o aelwydydd eu hasesu yn digartref a lle roedd dyletswydd i’w helpu i gael llety, cynydd o 6% ers 2018-19.
  • Cafodd 41% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety.

Yn dilyn hysbysiad bod ymgeisydd yn ddigartref, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd (adran 73) i gymryd camau rhesymol i helpu i sicrhau llety.

Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth

Image
Siar llinell i ddangos cynnydd bob blwyddyn yn y nifer o aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth , 2015-16 i 2019-20.

 

  • Roedd 3,060 o aelwydydd digartref yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth, cynydd o 16% ers 2018-19.
  • Derbyniodd 78% o aelwydydd gynnig o lety sefydlog, addas.

Os yw'r aelwyd yn ddigartref, bod ganddi angen blaenoriaethol a'i bod yn ddigartref yn anfwriadol, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i sicrhau llety addas.

Llety dros dro

  • Ar 31 Mawrth 2020, roedd 2,324 o aelwydydd mewn llety dros dro, cynydd o 4% ers Mawrth 2019.
  • Ar 31 Mawrth 2020, roedd 496 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast dros dro, cynydd o 68% ers Mawrth 2019.

Daeth mesurau cyfnod clo cenedlaethol i rym ar 23 Mawrth 2020, sydd wedi effeithio ar gyfanswm yr aelwydydd mewn llety dros dro ar 31 Mawrth 2020.

Adroddiadau

Digartrefedd, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.