Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac am aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Prif bwyntiau

Ffigur 1: Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref, Ebrill 2015 i Mawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siar llinell i ddangos y nifer o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref, 2015-16 i 2022-23. Mae’r ffigurau ar gyfer 2022-23 yn debyg i’r rhai a welwyd y flwyddyn flaenorol. 

Ffynhonnell: Casgliad data digartrefedd statudol gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Atal digartrefedd yw pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau cadarnhaol i ddarparu cymorth tai i rywun y mae'r awdurdod o'r farn ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.

  • Roedd 9,246 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref, yn debyg i’r ffigurau a welwyd yn 2021-22.
  • Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf 6 mis mewn 59% o achosion.

Ffigur 2: Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety, Ebrill 2015 i Mawrth 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siar llinell i ddangos y nifer o aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety, 2015-16 i 2022-23. Mae hyn yn gynnydd o 7% yn 2022-23 o'i gymharu â'r blwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Casgliad data digartrefedd statudol gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Yn dilyn hysbysiad bod ymgeisydd yn ddigartref, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd (adran 73) i gymryd camau rhesymol i helpu i sicrhau llety.

  • Cafodd 12,537 o aelwydydd eu hasesu yn digartref a lle roedd dyletswydd i’w helpu i gael llety, cynydd o 7% ers 2021-22.
  • Cafodd 30% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety.

Ffigur 3: Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth, Ebrill 2015 i Mawrth 2023  [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siar llinell i ddangos cynnydd bob blwyddyn yn y nifer o aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth , 2015-16 i 2022-23.

Ffynhonnell: Casgliad data digartrefedd statudol gan awdurdodau lleol

[Nodyn 1] Os yw'r aelwyd yn ddigartref, bod ganddi angen blaenoriaethol a'i bod yn ddigartref yn anfwriadol, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i sicrhau llety addas.

  • Roedd 5,094 o aelwydydd digartref yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth, cynydd o 25% ers 2021-22.
  • Derbyniodd 71% o aelwydydd gynnig o lety sefydlog, addas.

Llety dros dro

  • Ar 31 Mawrth 2023, roedd 5,481 o aelwydydd mewn llety dros dro, cynydd o 23% ers Mawrth 2022.
  • Ar 31 Mawrth 2023, roedd 2,187 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast dros dro, cynydd o 29% ers Mawrth 2022.

Further information

Ceir gwybodaeth bellach yn yr adroddiad ansawdd.

Adroddiadau

Digartrefedd: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Craig McLeod

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.