Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a nifer yr aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Ebrill i Mehefin 2019.

Prif bwyntiau (a)

Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref (b)

Siart doesen sy’n dangos cyfran yr aelwydydd lle llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf 6 mis yn Ebrill i Mehefin 2019.

Roedd 2,391 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod, sydd yn is na’r pum chwarter blaenorol. 

Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf chwe mis mewn 67% o achosion. Mae’r cyfraddau atal chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 65% i 69% ers Ebrill 2017.

Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety (c)

Siart doesen sy’n dangos cyfran yr aelwydydd digartref a gafodd eu cynorthwyo’n llwyddiannus i ganfod llety yn Ebrill – Mehefin 2019.

Roedd bron 3,000 o aelwydydd yn ddigartref a bod dyletswydd i’w helpu i gael llety.  

O’r rhain, cafodd 40% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety.  Mae’r gyfradd lwyddiannus chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 39% i 43% ers Ebrill 2017.

Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth (d)

Siart doesen sy’n dangos cyfran yr aelwydydd a dderbyniodd gynnig o lety sefydlog, addas yn Ebrill i Mehefin 2019.

Roedd 753 o aelwydydd digartref yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth, y nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth. 

O’r rhain, derbyniodd 74% gynnig o lety sefydlog, addas. Mae’r gyfradd chwarterol wedi amrywio o fewn yr ystod 74% i 84% ers Ebrill 2017.

Aelwydydd mewn llety dros dro 

Roedd 2,229 o aelwydydd mewn llety dros dro ar 31 Mehefin 2019. Dyma’r nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth, ond dim ond ychydig yn uwch nag ar 31 Mawrth 2019. Parhaodd y sector rhentu preifat i fod y prif fath o lety dros dro a ddefnyddiwyd (39%).

Roedd 282 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast, yr ail nifer uchaf ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd.. O’r rhain, roedd 36 o aelwydydd yn deuluoedd gyda phlant. 

Nodiadau

(a) Gall amrywiadau chwarterol a ffactorau tymhorol megis gwyliau a’r tywydd effeithio ar y data. Nid yw’r ystadegau yma yn cael eu haddasu yn dymhorol.

(b) Atal digartrefedd yw pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau cadarnhaol i ddarparu cymorth tai i rywun y mae'r awdurdod o'r farn ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.

(c) Yn dilyn hysbysiad bod ymgeisydd yn ddigartref, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd (adran 73) i gymryd camau rhesymol i helpu i sicrhau llety.

(d) Os yw'r aelwyd yn ddigartref, bod ganddi angen blaenoriaethol a'i bod yn ddigartref yn anfwriadol, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i sicrhau llety addas.

Ceir gwybodaeth bellach yn yr Adroddiad Ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.