Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a nifer yr aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2018.

Rhwystro digartrefedd

  • Yn ystod Gorffennaf i Fedi 2018, roedd 2,655 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod. Roedd hyn 9% yn uwch nag yn y chwarter blaenorol a 12% yn uwch nag yn yr un chwarter yn 2017.
  • Llwyddwyd i rwystro digartrefedd am o leiaf 6 mis mewn 65% o achosion. Mae hyn yn cymharu â 66% yn y chwarter blaenorol a 67% yn yr un chwarter y flwyddyn flaenorol.
  • Ni lwyddwyd i rwystro digartrefedd mewn 16% o achosion. Deilliannau eraill oedd yn cyfrif am y 19% oedd yn weddill.

Rhyddhau o ddigartrefedd

  • Yn ystod Gorffennaf i Fedi 2018, derbyniwyd 2,703 o aelwydydd yn ddigartref a bod dyletswydd i’w helpu i gael llety. Roedd hyn 4% yn is nag yn y chwarter blaenorol a 5% yn llai nag yn ystod Gorffennaf i Fedi 2017.
  • Mewn 41% o achosion, bu’r awdurdod lleol yn llwyddiannus yn eu helpu i gael llety oedd yn debygol o bara am 6 mis. Roedd hyn ychydig yn uwch na’r 40% a gofnodwyd y chwarter blaenorol ond yn debyg i’r ganran a gofnodwyd flwyddyn yn gynharach.
  • Ar gyfer 37% o aelwydydd, ni fu’r awdurdod lleol yn llwyddiannus yn eu helpu i gael llety. Deilliannau eraill oedd yn gyfrifol am y 22% oedd yn weddill.

Angen sydd yn flaenoriaeth

  • Yn ystod Gorffennaf i Fedi 2018, barnwyd fod 582 o aelwydydd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth. Roedd hyn 3% yn is nag yn y chwarter blaenorol ond 18% yn uwch na’r un chwarter yn 2017.
  • O’r aelwydydd a farnwyd eu bod yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth, derbyniodd 80% gynnig o lety parhaol. Roedd hyn yn cymharu â 76% yn y chwarter blaenorol a 81% yn yr un chwarter flwyddyn yn gynt.

Aelwydydd mewn llety dros dro

  • Ddiwedd mis Medi 2018, roedd 2,124 o aelwydydd mewn llety dros dro yng Nghymru (3% yn uwch nag ar ddiwedd Medi 2017. Dyma’r ail ffigwr uchaf hyd yma.
  • Llety sector preifat oedd y prif fath o lety dros dro a ddefnyddiwyd. Roedd hyn yn cyfrif am 37% o’r holl aelwydydd mewn llety dros dro, ddiwedd mis Medi 2018 (o gymharu â 39% y flwyddyn flaenorol).
  • Ddiwedd mis Medi 2018, roedd 252 o aelwydydd mewn llety Gwely a Brecwast (B&B) . Roedd hyn yn gynnydd o bron chwarter (24%) ar y flwyddyn flaenorol. O’r rhain roedd 33 aelwyd (13%) yn deulu gyda phlant, sy'n debyg ar gyfer y nifer a gofnodwyd flwyddyn yn gynt.

Nodiadau

Gall amrywiadau chwarterol a ffactorau tymhorol megis gwyliau a’r tywydd effeithio ar y data. Nid yw’r ystadegau yma yn cael eu haddasu yn dymhorol.

Roedd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn cynnwys nifer o newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd statudol. Cyflwynwyd y newidiadau hyn ar 27 Ebrill 2015. Ni ellir cymharu’r data yn yr adroddiad hwn â data digartrefedd statudol ar gyfer 2014-15 oherwydd y newidiadau deddfwriaethol. Ceir gwybodaeth bellach  o fewn y datganiad ystadegol a’r  Adroddiad Ansawdd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.