Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein strategaeth a'n cynllun cyflawni yn disgrifio'r hyn y byddwn yn ei wneud i wella bywydau gan ddefnyddio dulliau digidol, data a thechnoleg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Strategaeth Ddigidol Cymru yn disgrifio sut y byddwn yn defnyddio dulliau digidol, data a thechnoleg i wella bywydau pobl yng Nghymru. Mae ar gyfer unrhyw un sy'n creu, dylunio, darparu neu ddefnyddio offer a gwasanaethau digidol.

Mae'r strategaeth yn nodi cyfres o flaenoriaethau o dan 6 cenhadaeth:

  • gwasanaethau digidol
  • cynhwysiant digidol
  • sgiliau digidol
  • yr economi ddigidol
  • cysylltedd digidol
  • data a chydweithredu

Mae'r cenadaethau’n cefnogi'r sector cyhoeddus cyfan i gydweithio er mwyn:

  • gwella gwasanaethau cyhoeddus
  • datblygu’r economi
  • lleihau anghydraddoldebau

Buom yn gweithio gydag ystod eang o grwpiau ac unigolion i ddatblygu'r strategaeth. Gwnaethom hefyd gyhoeddi blog yn gwahodd adborth ar bob un o'r cenadaethau arfaethedig.

Mae ein cynllun cyflawni yn disgrifio'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r blaenoriaethau yn ein strategaeth.