Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw aeth Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, i ddigwyddiad i lansio trafodaeth ar sut y gall Llywodraeth Cymru wella gwasanaethau i gleifion allanol yng Nghymru yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro drefnodd y digwyddiad, y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau y mae’r byrddau iechyd am eu cynnal ledled Cymru yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr i drafod syniadau gyda chleifion a chlinigwyr. Mae’r Byrddau Iechyd yn awyddus i weld sut fyddai orau gan bobl sy’n gorfod mynd i gael triniaethau arbenigol gael mynediad atynt, felly byddant yn siarad â chymaint o bobl â phosibl dros yr wythnosau nesaf.


Dywedodd Vaughan Gething:

“Y llynedd, cafodd miliynau o apwyntiadau eu trefnu mewn clinigau i gleifion allanol ledled Cymru, ac mae’r nifer yn parhau i dyfu bob blwyddyn. 

“Cafodd y model presennol i gleifion allanol yng Nghymru ei ddatblygu flynyddoedd yn ôl, ac felly mae angen inni sicrhau ei fod yn gallu diwallu anghenion ein cleifion a’n clinigwyr heddiw.  

“Weithiau nid yr ysbyty ydy’r lle mwyaf cyfleus i gynnal apwyntiadau i gleifion allanol. Gallai fod yn anodd iddyn nhw barcio’u ceir, neu ddod o hyd i’r adran iawn, a gallai pryderon eraill godi hefyd.  

“Rydyn ni am i bobl gael profiad cadarnhaol pan fyddan nhw’n dod i’r ysbyty ar gyfer apwyntiad. Oherwydd hynny, dw i wedi gofyn i’n byrddau iechyd weithio gyda chleifion a chlinigwyr i ddatblygu dull gweithredu gwell sy’n ei gwneud yn haws i gleifion gael cyngor arbenigol, diagnosis, a thriniaeth.  

“Cyn inni allu gwneud hynny, rhaid llunio model cyflenwi sy'n canolbwyntio ar y claf, ac sydd hefyd yn gynaliadwy ac yn gost-effeithiol. Mae angen inni gael gwybod felly beth ydy barn y cleifion allanol a’r teuluoedd sydd wedi dod i apwyntiadau er mwyn inni fynd ati i wella eu profiad.  

“Byddwn ni’n defnyddio’r adborth sy’n cael ei roi gan bobl yn y digwyddiad hwn, yn ogystal â’r digwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ar draws y wlad, i lywio gwasanaethau i gleifion allanol yn y dyfodol. Rydyn ni’n croesawu unrhyw sylwadau sy’n ein helpu i wella gwasanaethau mewn modd sy’n sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pawb.”