Arferion gorau wrth ddefnyddio, storio a gwaredu cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs).
Roedd hwn yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).
Deall archwiliadau a chydymffurfiaeth
Amlinellodd yr HSE:
- rôl Uned Ymyrraeth yr Is-adran Rheoleiddio Cemegau
- sut mae'r Uned yn arolygu busnesau, gan orfodi gofynion o dan y fframwaith rheolaethau swyddogol
- gwaith swyddogion gorfodi plaladdwyr
- beth all defnyddwyr PPP proffesiynol ei ddisgwyl yn ystod ymweliad arolygu
Trosolwg HSE o ofynion cydymffurfiaeth yn achos cynhyrchion diogelu planhigion.
Cadw offer gwasgaru yn ddiogel
Esboniodd cynrychiolydd o'r Cynllun Profi Chwistrellwyr Cenedlaethol (NSTS) y gofynion profi ac arolygu offer o dan Reoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Defnydd Cynaliadwy) 2012. Fe wnaeth y sesiwn ymdrin â:
- pa offer cymhwyso plaladdwyr sy'n gofyn am brofion ffurfiol
- sut mae arolygiadau a chynnal a chadw rheolaidd yn helpu defnyddwyr i weithredu offer yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys chwistrellwyr cefn
Mae rhagor o wybodaeth am ofynion profi offer ar gael gan y Cynllun Profi Chwistrellu Cenedlaethol (NSTS).
Gwirio awdurdodiadau cynhyrchion
Helpodd HSE fynychwyr i nodi materion cydymffurfio a chyfleoedd ar gyfer gwella. Cafodd y cyfranogwyr arweiniad ar:
- y Gofrestr Plaladdwyr (ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE))
- sut i ddefnyddio rhifau Cynnyrch Plaladdwyr a Gymeradwywyd gan y Weinidogaeth (MAPP) i wirio Cofrestr Plaladdwyr yr HSE:
- i wirio statws awdurdodi cynhyrchion,
- i gadarnhau a ellir ei ddefnyddio/storio'n gyfreithlon
Rhoi'r dysgu ar waith
Cafwyd sesiwn holi ac ateb i wirio dealltwriaeth a chryfhau cydymffurfiaeth yn y dyfodol. Atgyfnerthodd y sesiwn y cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â defnyddio, storio a gwaredu PPPs yn ddiogel.
Cofrestru o dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020
Rhaid i fusnesau, sefydliadau ac unig fasnachwyr gofrestru os ydynt yn defnyddio PPPs ac unrhyw adjiwfantau cysylltiedig yn broffesiynol ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys y rhai:
- sydd yn defnyddio PPPs fel rhan o'u gwaith
- sydd yn trefnu i gontractwyr ddefnyddio PPPs fel rhan o'u gwaith
- sydd yn storio neu ddefnyddio PPPs ar gyfer eraill fel contractwr
Rhaid i chi gofrestru o fewn tri mis ar ôl dechrau'r gweithgareddau hyn. Os dylech fod wedi cofrestru eisoes, rhaid i chi wneud hynny cyn gynted â phosibl. Mae Defra yn casglu cofrestriadau ar ran Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cymwys ar gyfer Cymru.
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020.
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a diweddariadau yn y dyfodol, anfonwch e-bost at: pesticides.plaladdwyr@llyw.cymru.
