Neidio i'r prif gynnwy

Mae pobl yn cael eu gwahodd i roi eu barn ar gynlluniau i wella diogelwch ac amseroedd teithio ar Gylchfan Cyfnewidfa Glan Conwy oddi ar Gyffordd 19 yr A55, yn ôl cyhoeddiad gan y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhelir Digwyddiad Gwybodaeth i'r Cyhoedd ac Ymgynghoriad yng Nghanolfan Fusnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno ar 13 Medi rhwng 9.30am-8pm, ble y bydd modd i aelodau'r cyhoedd, gyrwyr, busnesau a phreswylwyr weld a rhoi eu barn ar yr opsiwn sy'n cael ei ystyried.

Byddai'r cynnig yn golygu cyflwyno arwyddion traffig ar ran o'r gylchfan, yn ogystal â marciau ar y ffordd i arwain y gyrwyr o amgylch y gylchfan ac i'r allanfeydd.  Byddai llwybr Teithio Llesol hefyd yn cael ei ddarparu ar draws y gyfnewidfa o gyfeiriad Glan Conwy i ymuno â'r cysylltiad presennol yn Narrow Lane yng Nghyffordd Llandudno.

Yn ogystal â gwella diogelwch yn yr ardal a gwella amseroedd teithio, mae'r opsiwn hwn yn anelu at roi gwell mynediad i wasanaethau lleol a chyflogaeth drwy gysylltu cymunedau. Mae gwella ansawdd yr aer a lleihau llygredd sŵn hefyd yn rhan o amcanion y cynllun.

Mae'r cynnig ar gyfer Cylchfan Cyfnewidfa Glan Conwy yr A55/A470 yn rhan o raglen Llywodraeth Cymru sy'n targedu prif leoliadau tagfeydd ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Mae gwelliannau posibl yn cael eu hastudio er mwyn datrys materion fel tagfeydd traffig a phroblemau diogelwch ar y ffyrdd.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynnig, yn ogystal â manylion yr ymateb i'r ymgynghoriad, i'w gweld yn y Digwyddiad Gwybodaeth i'r Cyhoedd ac Ymgynghoriad.

Meddai Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth:

"Mae sicrhau bod ein system gefnffyrdd yn rhedeg yn esmwyth mewn amgylchedd ddiogel yn gyfangwbl hanfodol er mwyn sicrhau rhwydwaith ffyrdd cyflawn.

"Nid oes llawer o amheuaeth bod hon yn gyffordd brysur iawn oddi ar yr A55, ac mae'r opsiwn sy'n cael ei ystyried yn anelu at wella'r sefyllfa bresennol, gan ei gwneud yn fwy diogel a dibynadwy i'r rhai sy'n ei defnyddio.

"Mae gennym gynlluniau mawr i drafnidiaeth yng Ngogledd Cymru dros y blynyddoedd nesaf, ac mae hyn yn rhan o'r cynigion hyn.

"Hoffwn annog pawb sydd â diddordeb i fynd i Ganolfan Fusnes Conwy ar Medi 13 i edrych ar y cynllun yn fanylach a rhoi eu barn ar yr hyn rydyn ni'n ei ystyried."