Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd digwyddiad hyfforddi ar reoli chwyn mewn modd integredig (IWM) yn Canolfan Ymwelwyr a Chwaraeon Dŵr Llandegfedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynhaliwyd y digwyddiad Rheoli Chwyn mewn modd Integredig (IWM) (on parksforlondon.org.uk) yng Nghanolfan Ymwelwyr a Chwaraeon Dŵr Llandegfedd, a chroesawyd 21 o gynrychiolwyr o'r sefydliadau canlynol: 

  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Trafnidiaeth, a 
  • Cadw 

Llywodraeth Cymru oedd yn cynnal y digwyddiad, mewn partneriaeth â Parks for London. Roedd yn cynnwys cyflwyniadau dan do ac awyr agored, ynghyd ag arddangosiadau o gyfarpar tynnu chwyn. 

Agorodd y diwrnod gyda chyflwyniad i IWM a'i fanteision gan Ed Stannard o Parks for London. Disgrifiodd Ed:

  • y potensial i leihau costau drwy gael gwared ar chwyn mewn dull wedi'i gynllunio a'i dargedu
  • sut y mae defnyddio peiriannau i gael gwared ar chwyn yng nghyfnodau cynnar y twf yn atal achosion o lithro, baglu a chwympo
  • sut y mae cael gwared ar chwyn yn gwella canfyddiad y cyhoedd

Dangosodd KerstenUK beiriannau brwsio gwahanol. Fe wnaethant esbonio sut i gael gwared ar chwyn ar arwynebau caled. Er enghraifft, defnyddio brwsys mecanyddol i gael gwared ar chwyn â gwreiddiau bas ar balmentydd a tharmac mewn parciau, yna defnyddio'r malurion a gesglir fel tomwellt.

Ar ôl cinio, esboniodd Parks for London sut i greu Cynllun IWM. Fe wnaethant dynnu sylw at sut y gall amseru'r broses o reoli chwyn yn effeithiol leihau costau. Er enghraifft, tynnu chwyn cyn iddynt niweidio arwynebau. Gall croniad o falurion greu amodau tyfu i chwyn sydd â gwreiddiau hirach. Mae'r rhain yn anoddach i'w tynnu a gallant dreiddio i darmac ac arwynebau eraill, gan:

  • achosi peryglon baglu
  • cracio tarmac 
  • creu arwynebau anwastad 
Image
Dull wedi'i dargedu o reoli chwyn gan ddefnyddio ffon chwynnu trydan i ddinistrio strwythurau celloedd chwyn

Dangosodd KerstenUK sut i ddefnyddio aer poeth, dŵr poeth a thrydan i ddinistrio chwyn penodol. Ysgogodd hyn drafodaeth am yr heriau o fynd i'r afael â rhywogaethau goresgynnol. Er enghraifft, weithiau caiff clymog Japan ei drin â cherrynt trydanol wedi'i dargedu. 

Rhoddwyd tystysgrifau presenoldeb i'r cynrychiolwyr fel rhan o'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus. 

Mae'r digwyddiad hwn yn cyfrannu at Amcan 1 (annog defnydd o Reolaeth Integredig arr Blâu (IPM)) Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025: Gweithio Tuag At Ddyfodol Mwy Cynaliadwy.

Cysylltwch â ni

Os hoffech i ni eich ychwanegu at ein Rhestr Bostio Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPP), neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am:

  • IWM, neu
  • weminarau a digwyddiadau wyneb yn wyneb eraill

Cysylltwch â ni: pesticides.plaladdwyr@llyw.cymru.