Digwyddiad ymgysylltu ar gymorth cyflogadwyedd: Abergele
Adborth gan fynychwyr digwyddiad ymgysylltu Abergele a gynhaliwyd ar 8 Mai 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r crynodeb hwn yn cyflwyno adborth a gasglwyd drwy Slido gan fynychwyr yn nigwyddiad ymgysylltu Abergele a gynhaliwyd ar 8 Mai 2025. Dyma'r ail ddigwyddiad gyda'r nod o gasglu adborth ar y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd. Mae'r gyfres hon yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru yng Nghynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau 2022, i greu system cymorth cyflogadwyedd integredig ddi-dor yng Nghymru.
Gwahoddwyd rhanddeiliaid gennym i drin a thrafod arferion da, gwersi a ddysgwyd a dulliau arloesol o helpu pobl i gyflawni eu potensial o ran cyflogaeth.
Canfyddiadau allweddol ymatebion Slido
Mae'r adran hon yn crynhoi prif ganfyddiadau Slido.
Y ffyrdd gorau i unigolion fanteisio ar y rhaglen
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn sut y dylai pobl allu manteisio ar y rhaglen a pha lwybrau atgyfeirio a fyddai'n helpu'r rhai sydd â’r angen mwyaf. Roedd yr adborth allweddol yn cynnwys:
- defnyddio pwyntiau mynediad a sianeli cyfathrebu niferus i gyrraedd pobl
- cefnogi dulliau allgymorth cymunedol fel digwyddiadau a ffeiriau swyddi
- defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel offeryn cyfathrebu allweddol
- cryfhau cysylltiadau â chanolfannau gwaith a rhwydweithiau eraill ar gyfer atgyfeiriadau
- creu hyb canolog lle gall pobl ddod o hyd i'r holl wasanaethau sydd ar gael
- cynnig digwyddiadau wyneb yn wyneb ac annog argymhellion ar lafar
- gweithio gyda gwasanaethau eraill i ddarparu atgyfeiriadau
- sicrhau llwybrau mynediad cyson ledled Cymru
Roedd y cynrychiolwyr yn gytûn na fyddai un dull yn addas i bawb. Y teimlad oedd mai cymysgedd o offer digidol, allgymorth cymunedol, a llwybrau atgyfeirio traddodiadol fyddai’r dull mwyaf effeithiol. Roedd cryn gefnogaeth i hyb gwybodaeth canolog law yn llaw â sawl ffordd o fanteisio ar gymorth.
Y ffactor pwysicaf wrth bennu lefel y cymorth
Gofynnodd y cwestiwn hwn beth ddylai lywio penderfyniadau ynghylch faint o gymorth mae rhywun yn ei dderbyn. Roedd y ffactorau allweddol yn cynnwys:
- rhwystrau unigol (76%)
- anghenion cymorth ychwanegol (15%)
- grŵp oedran (5%)
- profiad yn y diwydiant (3%)
- rhwystrau iechyd (1%)
- hyd y diweithdra (0% yr un)
- cymwysterau (0%)
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn teimlo y dylai'r cymorth fod yn seiliedig ar heriau personol yn hytrach na mesurau traddodiadol fel cymwysterau neu amser allan o waith. Mae hyn yn adlewyrchu ffafriaeth gref i ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Y ffactorau pwysicaf mewn asesiad effeithiol
Roedd y cwestiwn hwn yn archwilio beth sy'n gwneud asesiadau yn ddefnyddiol ac yn gefnogol i gyfranogwyr. Roedd y themâu allweddol yn cynnwys:
- dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n caniatáu i unigolion lunio eu llwybr eu hunain
- deall dyheadau, diddordebau a chryfderau'r cyfranogwr gan ddefnyddio dull gwrando gweithredol a sgwrs agored
- tynnu sylw at yr hyn y gall pobl ei wneud yn ogystal â'r hyn sy'n eu dal yn ôl
- ymddiriedaeth a meithrin perthynas i greu lle diogel a chroesawgar cyn dechrau asesu ffurfiol
- asesiad cyfannol a pharhaus i gydnabod pa heriau a allai godi dros amser
- aseswyr medrus sy’n llawn empathi, sydd â'r sgiliau a'r ddealltwriaeth gywir, ac sydd ag ymagwedd anfeirniadol ac empathig
- sicrhau bod aseswyr yn gwybod am y cymorth a'r atgyfeiriadau sydd ar gael
- cyfathrebu croyw, defnyddio iaith glir, osgoi jargon er mwyn sicrhau bod pobl yn deall y broses a bod disgwyliadau clir wedi'u gosod
Pwysleisiodd cynrychiolwyr fod ymddiriedaeth a dealltwriaeth yn hanfodol ar gyfer asesiad effeithiol. Roedd cytundeb hefyd y dylai asesiad fod yn broses parhaus a chyfannol ac na ddylai fod yn broses untro na chanolbwyntio’n unig ar gyflogaeth.
Dulliau neu arferion sydd wedi gweithio'n dda
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn am enghreifftiau o arferion llwyddiannus o raglenni cyfredol. Roedd y themâu allweddol yn cynnwys:
- cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi'i deilwra i gefnogi anghenion unigol
- hyblygrwydd
- gweithio ar gyflymder y person
- ymgysylltu â chyflogwyr a chymorth yn y gwaith
- meithrin perthnasoedd cryf gyda chyflogwyr i'w cefnogi nhw a'r gweithiwr
- defnyddio anogwyr swyddi a chyflogaeth â chymorth
- parhau i gefnogi ar ôl y lleoliad, ond lleihau dros amser
- cydweithredu sy'n annog partneriaethau amlasiantaeth i rannu gwybodaeth
- defnyddio cyllid a rennir ar draws rhaglenni'r llywodraeth a chysoni strategaethau
- darpariaeth sy’n seiliedig ar y gymuned i ganolbwyntio ar gyflenwi lleol yn hytrach na rhaglenni cenedlaethol
- meithrin perthnasoedd trwy wrando gweithredol, ymddiriedaeth a chysylltiad cyson
- creu mannau diogel yn y gymuned gyda gweithwyr arweiniol cyson
- cymorth cyfannol, cofleidiol sy'n mynd i'r afael â hyder, cymhelliant, iechyd a rhwystrau trafnidiaeth
- modelau arbenigol gan gynnwys cyflogaeth â chymorth, anogwyr swyddi arbenigol a mentoriaid cymheiriaid
- profiad ymarferol a dysgu ymarferol yn y gweithle trwy ymweliadau, interniaethau a threialon gwaith
- darpariaeth Gymraeg, gan greu amgylchedd Cymraeg cadarnhaol
Rhannodd y cynrychiolwyr ystod eang o arferion llwyddiannus, gyda chytundeb cryf ar werth cymorth hyblyg, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddarperir yn lleol.
Dulliau neu arferion nad ydynt wedi gweithio cystal
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn i gynrychiolwyr fyfyrio ar yr hyn nad oedd wedi gweithio mewn rhaglenni blaenorol. Roedd y prif heriau yn cynnwys:
- cyllid tymor byr sy'n arwain at ansicrwydd, staff yn mynd a dod a bylchau mewn darpariaeth
- modelau sy'n cael eu llywio gan dargedau
- cyllid sy’n gysylltiedig â chanlyniadau swyddi yn unig, a diffyg cydnabyddiaeth i ganlyniadau meddal
- dyblygu a all olygu bod sefydliadau yn cynnig gwasanaethau tebyg ac yn cystadlu am ffrydiau cyllido
- adrannau'r llywodraeth yn gweithio ar wahân
- dull gwael o rannu gwybodaeth rhwng rhaglenni a sefydliadau, GDPR yn cael ei ddefnyddio fel rhwystr
- cynllun y rhaglennni yn golygu eu bod yn anhyblyg, megis cyfyngiadau o ran oedran a meini prawf cymhwystra llym
- dim cymorth ar ôl cwblhau'r rhaglen a chymorth cyfyngedig unwaith y bydd rhywun mewn gwaith
- cyfranogwyr yn cael eu pasio rhwng rhaglenni
- beichiau biwrocrataidd a gweinyddol, rheolau cymhleth, gwaith papur gormodol
- oedi mewn systemau fel Mynediad at Waith (dros 10 mis ar gyfer asesiadau)
- ddim yn mynd i'r afael â rhwystrau mewn ffordd gyfannol
- lleoliadau gwaith heb gymorth priodol
- dim credyd ar gyfer swyddi o dan 16 awr
- cynlluniau cenedlaethol ddim bob amser yn addas ar gyfer ardaloedd gwledig
- anghydraddoldebau cymdeithasol sy'n effeithio ar lwyddiant
Mynegodd y cynrychiolwyr rwystredigaeth gyda chyllid tymor byr a dulliau wedi'u llywio gan dargedau sy'n anwybyddu anghenion unigol. Roedd beirniadaeth gref o ddulliau gweithio ar wahân (mewn seilos), meini prawf cymhwystra anhyblyg, a diffyg parhad.
Un dymuniad i'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn i'r cynrychiolwyr rannu eu gobeithion ar gyfer y rhaglen yn y dyfodol. Dyma’r dymuniadau mwyaf cyffredin:
- cyllid hirdymor, yn ddelfrydol dros 5 mlynedd, i gefnogi sefydlogrwydd a chynllunio
- llai o fiwrocratiaeth a phrosesau symlach
- cydweithredu gwell rhwng gwasanaethau
- rhannu data
- darpariaeth leol o fewn fframwaith cenedlaethol
- cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, nid dim ond ar ganlyniadau
- cymorth parhaus i gyflogaeth
- hyblygrwydd i ddiwallu anghenion unigol
- llwybrau clir ac arwyddion o ansawdd
- cydnabod y Fframwaith Ansawdd Cyflogaeth â Chymorth (SEQF)
- integreiddio â rhaglenni sgiliau a dilyniant
- ymgysylltiad â chyflogwyr a chymhellion cryf
- cymorth cyfartal ledled Cymru
- canolbwyntio ar swyddi da gyda chyflog ac amodau teg
Y brif flaenoriaeth oedd cyllid hirdymor i ganiatáu cynllunio priodol, cadw staff, a darpariaeth gwasanaethau cyson. Hefyd, galwodd cynrychiolwyr am weithio cydgysylltiedig, darpariaeth leol, a dulliau sy'n rhoi anghenion pobl yn gyntaf.
Grwpiau y dylid eu blaenoriaethu
Nod y cwestiwn hwn oedd pennu pa grwpiau y dylai'r rhaglen newydd ganolbwyntio arnynt, o ystyried adnoddau cyfyngedig (roedd y cynrychiolwyr yn gallu dewis 3 grŵp). Blaenoriaethodd y cynrychiolwyr:
- pobl ddi-waith am gyfnod hir, dros 6 mis (66%)
- dull cynhwysol ar gyfer pawb 16 oed a hŷn (47%)
- oedolion ifanc (16 i 25 oed) (46%)
- y rhai sydd wedi bod yn ddi-waith ers llai na chwe mis (40%)
- pobl sy'n wynebu cael eu diswyddo (37%)
- oedolion 25 oed a hŷn (21%)
- pobl ifanc 16 i 18 oed (14%)
Y prif flaenoriaethau
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn i gynrychiolwyr nodi'r meysydd pwysicaf ar gyfer y rhaglen newydd. Dyma’r blaenoriaethau allweddol a nodwyd yn ôl eu pwysigrwydd:
- mynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth
- cyflogaeth â chymorth
- targedu'r rhai sydd â'r angen mwyaf
- ymgysylltu a mynediad hawdd
- helpu pobl i waith
- cydraddoldeb ac amrywiaeth
- profiad gwaith, sgiliau meddal a chymorth cyffredinol i'r farchnad lafur
Roedd cynrychiolwyr yn cytuno y dylai'r rhaglen ganolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau. Roedd cefnogaeth gref i dargedu'r rhai mwyaf mewn angen a'i gwneud hi'n hawdd i bobl ymgysylltu â'r rhaglen.
Arloesi a chynllunio ar gyfer llwyddiant
Roedd y cwestiwn hwn yn gwahodd cynrychiolwyr i rannu syniadau ar gyfer gwneud y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd yn un arloesol. Roedd yn annog syniadau creadigol am yr hyn a allai fod yn "newydd sbon" a sut i "ddiogelu’r rhaglen at y dyfodol". Roedd yr awgrymiadau allweddol yn cynnwys:
- partneriaethau cryf a chydweithredu go iawn rhwng gwasanaethau
- Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn arwain drwy esiampl yn eu harferion cyflogaeth
- ennyn ymrwymiad ac ymgysylltiad cyflogwyr
- cymorth lleol wedi'i deilwra i anghenion lleol
- cronfa ddata a rennir ar gyfer gwerthuso parhaus a rhannu data
- dealltwriaeth well o anghenion ac amgylchiadau pobl
- brandio a chyfathrebu clir, a mynediad hawdd at wasanaethau
- llwybrau di-dor o ddysgu a sgiliau i gyflogaeth a chymorth mewn gwaith
- cyllid hirdymor gyda hyblygrwydd ar lefel leol
- buddsoddi mewn anogwyr swyddi arbenigol i leihau trosiant staff
- paru cyflenwad sgiliau â'r galw yn y farchnad swyddi
- gwerthuso gonest a rhannu llwyddiannau a heriau
Gwelwyd bod arloesedd wedi'i wreiddio mewn cydweithredu gwell, systemau mwy clyfar, a darpariaeth leol ymatebol. Hefyd, roedd cynrychiolwyr yn pwysleisio'r angen am bartneriaethau cryf â chyflogwyr ac arweinyddiaeth gan gyrff cyhoeddus. Roedd systemau data gwell yn allweddol i ddysgu a gwelliant parhaus.
Casgliad
Roedd yr adborth o ddigwyddiad Abergele yn tynnu sylw at nifer o flaenoriaethau craidd ar gyfer llunio dyfodol cymorth cyflogadwyedd yng Nghymru:
Cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
Unigolion, nid canlyniadau neu systemau, ddylai fod galon y cyfan. Dylid teilwra’r cymorth i rwystrau ac amgylchiadau personol, nid ar sail categorïau safonedig.
Cyllid hirdymor
Mae angen ymrwymiad ariannu pum mlynedd ar gyfer sefydlogrwydd. Galwodd cynrychiolwyr yn gyson am fuddsoddiad hirdymor i gefnogi cynllunio, cadw staff, a gwasanaethau.
Blaenoriaethu'r di-waith am gyfnod hir
Canolbwyntio ar y di-waith am gyfnod hir a sicrhau bod y rhaglen yn gynhwysol i bawb 16 oed a hŷn. Cafwyd cefnogaeth eang i ddull haenog sy'n seiliedig ar anghenion.
Dileu'r rhwystrau yn gyntaf
Rhaid mynd i'r afael â rhwystrau a chynnig cyflogaeth â chymorth cyn mesur canlyniadau swyddi. Dyma'r sylfeini ar gyfer llwyddiant hirdymor.
Mynediad aml-sianel
Ni fydd un dull yn gweithio i bawb. Defnyddio cymysgedd o offer digidol, allgymorth cymunedol, a llwybrau atgyfeirio traddodiadol i gyrraedd pobl yn effeithiol.
Torri'r seilos
Cydweithredu'n well a rhannu data rhwng gwasanaethau. Bydd hyn yn lleihau dyblygu ac yn creu llwybrau haws i gyfranogwyr.
Darpariaeth leol o fewn fframwaith cenedlaethol
Sicrhau safonau cyson ledled Cymru ond gan ganiatáu hyblygrwydd ar gyfer anghenion rhanbarthol. Cafwyd cefnogaeth gref i ddarpariaeth leol.
Ymgysylltu â chyflogwyr
Rhaid i gyflogwyr fod yn bartneriaid gweithredol wrth ddylunio a chyflwyno rhaglenni. Dylai cyrff cyhoeddus arwain trwy esiampl.
Cymorth parhaus mewn gwaith
Ni ddylai'r cymorth ddod i ben pan fo’r person ar leoliad swydd. Mae angen cymorth parhaus i sicrhau bod pobl yn aros mewn gwaith ac yn symud ymlaen.
Lleihau biwrocratiaeth
Symleiddio prosesau a lleihau gwaith papur. Bydd hyn yn rhyddhau adnoddau i ganolbwyntio ar gymorth uniongyrchol i unigolion.
