Digwyddiad ymgysylltu ar gymorth cyflogadwyedd: Llandrindod
Adborth gan fynychwyr digwyddiad ymgysylltu ar gymorth cyflogadwyedd Llandrindod a gynhaliwyd ar 22 Mai 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r crynodeb hwn yn cyflwyno adborth a gasglwyd drwy Slido gan fynychwyr yn nigwyddiad ymgysylltu Llandrindod a gynhaliwyd ar 22 Mai 2025. Dyma'r trydydd digwyddiad gyda'r nod o gasglu adborth ar y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd. Mae'r gyfres hon yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru yng Nghynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau 2022, i greu system cymorth cyflogadwyedd integredig ddi-dor yng Nghymru.
Gwahoddwyd rhanddeiliaid amrywiol gennym i drin a thrafod arferion da, gwersi a ddysgwyd a dulliau arloesol o helpu pobl i gyflawni eu potensial o ran cyflogaeth.
Canfyddiadau allweddol ymatebion Slido
Mae'r adran hon yn crynhoi prif ganfyddiadau Slido.
Y ffyrdd gorau i unigolion fanteisio ar y rhaglen
Roedd y cwestiwn hwn yn canolbwyntio ar bwyntiau mynediad a llwybrau atgyfeirio i sicrhau bod y rhai sydd â’r angen mwyaf yn gallu manteisio ar gymorth priodol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:
- ymgysylltu â'r gymuned leol, gan ddefnyddio sefydliadau cymunedol lleol dibynadwy a dulliau dan arweiniad cymheiriaid
- allgymorth digidol, y cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd postio uniongyrchol
- mannau cyswllt presennol y gwasanaeth gan gynnwys integreiddio â chanolfannau gwaith, ysgolion a gwasanaethau cymunedol eraill
- ymgyrchoedd dan arweiniad Llywodraeth Cymru a gydlynir ar lefel genedlaethol
- cyfarfodydd wyneb yn wyneb, ymgysylltu personol ar lefel gymunedol
- rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid, gan ddefnyddio mentoriaid cymunedol ac argymhellion gan deulu a ffrindiau
Pwysleisiodd y cynrychiolwyr bwysigrwydd sianeli cyfathrebu niferus er mwyn sicrhau'r cyrhaeddiad ehangaf posibl, gan gydnabod nad yw un dull yn addas i bawb.
Y ffactor pwysicaf wrth bennu lefel y cymorth
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn beth ddylai lywio penderfyniadau ynghylch faint o gymorth y mae rhywun yn ei gael. Blaenoriaethodd y cynrychiolwyr y canlynol:
- rhwystrau unigol (76%)
- anghenion cymorth ychwanegol (20%)
- rhwystrau iechyd (4 %)
Mae'r adborth hwn yn awgrymu'n gryf bod dull personol o asesu yn hanfodol, gan ganolbwyntio ar heriau penodol sy'n wynebu unigolion yn hytrach na chymhwyso meini prawf safonedig yn seiliedig ar ffactorau fel oedran, cymwysterau, neu hyd y diweithdra.
Y ffactorau pwysicaf mewn asesiad effeithiol
Mae'r cwestiwn hwn yn archwilio beth sy'n gwneud asesiadau sy’n effeithiol i gyfranogwyr. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:
- dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n gwrando ar anghenion, dyheadau ac amgylchiadau unigol
- amgylchedd diogel a chefnogol, gan greu man anfeirniadol lle mae unigolion yn teimlo'n gyfforddus
- asesiadau cyfannol, gan edrych ar y person cyfan gan gynnwys iechyd, addysg, sgiliau, a rhwydweithiau cymorth
- hygyrchedd, gan sicrhau bod y broses asesu yn hygyrch a ddim yn rhy feichus
- creu perthnasoedd, meithrin ymddiriedaeth a pherthynas rhwng yr aseswr a'r cyfranogwr
- proses barhaus, yr asesiad yn sgwrs barhaus yn hytrach na phroses untro
- hyblygrwydd i addasu i arddulliau ac anghenion cyfathrebu gwahanol
- cynnwys cymheiriaid, gan ddefnyddio aseswyr sydd â phrofiad bywyd i feithrin ymddiriedaeth
- ffocws ymarferol, llwybr clir a chamau nesaf y gellir eu gweithredu
- nodi rhwystrau i heriau allweddol sy'n wynebu unigolion
Roedd pwyslais arbennig ar sicrhau bod asesiadau yn cael eu cynnal ar ffurf sgyrsiau yn hytrach na chyfweliadau ffurfiol. Awgrymodd llawer o gynrychiolwyr na ddylid galw'r broses yn 'asesiad' hyd yn oed, er mwyn osgoi creu rhwystrau.
Dulliau neu arferion nad ydynt wedi gweithio cystal
Roedd y cwestiwn hwn yn casglu barn ar arferion llwyddiannus rhaglenni presennol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:
- cymorth unigoledig, dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd wedi'u teilwra ac sy'n canolbwyntio ar anghenion unigol
- ymgysylltu un-i-un, cymorth personol penodol gyda digon o amser ar gyfer sgyrsiau o safon
- cymorth a mentora gan gymheiriaid, gan ddefnyddio'r rhai sydd â phrofiad bywyd o heriau i gynnal asesiadau
- modelau cyflwyno hyblyg gyda phwyntiau mynediad lluosog, polisïau drws agored a dulliau y gellir eu haddasu
- cyflwyno yn y gymuned dan arweiniad pobl leol, ddibynadwy
- cymorth cyfannol sy'n edrych y tu hwnt i gyflogaeth i feithrin hyder, cysylltiadau cymunedol a chyfleoedd gwirfoddoli
- prosesau syml, llwybrau clir a llwybrau ymgeisio syml
- dulliau cydweithredol a gweithio cydgysylltiedig ar draws rhanddeiliaid
- cymorth gofal plant a chymorth ymarferol arall er mwyn helpu pawb i gymryd rhan
- darpariaeth symudol sy'n mynd â gwasanaethau i ardaloedd gwledig
- dulliau hyfforddi sy'n cynnwys gwrando gweithredol ac arweiniad cefnogol
Mae'r adborth yn pwysleisio gwerth dulliau sy'n meithrin ymddiriedaeth ac yn darparu cymorth cynhwysfawr, hygyrch sy'n cydnabod y person cyfan.
Dulliau neu arferion na weithiodd gystal
Gofynnodd y cwestiwn hwn am heriau a'r hyn na weithiodd gystal mewn rhaglenni blaenorol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:
- mae modelau cyllido tymor byr yn creu ansefydlogrwydd ac yn atal cynllunio hirdymor
- dulliau sy'n cael eu llywio gan dargedau, gormod o bwyslais ar ddangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) a chanlyniadau swyddi yn hytrach na chynnydd unigol a sgiliau meddal
- nid yw 'un ateb sy'n addas i bawb' yn cydnabod amgylchiadau unigol
- prosesau gor-fiwrocrataidd fel prosesau atgyfeirio hir, manwl ac ymyrgar
- meini prawf cymhwystra anhyblyg yn atal pobl rhag manteisio ar y gwasanaethau
- diffyg cydlynu a gwaith partneriaeth gwael rhwng asiantaethau
- gorddibyniaeth ar dechnoleg, dim digon o gyswllt person i berson
- cyfyngiadau amser yn golygu dim digon o amser i weithio gydag unigolion
- lleoliadau amhriodol
- dulliau torfol megis anfon llwyth o CVs i gyrraedd targedau
- diffyg cymorth mewn gwaith, cymorth yn dod i ben unwaith mae rhywun wedi sicrhau swydd
- gwrthdaro o ran budd-daliadau wrth i fynediad at un math o gymorth arwain at golli budd-daliadau eraill
Roedd pryder arbennig am ddulliau sy'n blaenoriaethu cyrraedd targedau yn hytrach na chynorthwyo unigolion go iawn a'u helpu i symud ymlaen.
Un dymuniad i'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd
Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn am ddyheadau pobl ar gyfer y rhaglen yn y dyfodol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:
- cymorth ariannol hirdymor a chynaliadwy i sicrhau sefydlogrwydd y rhaglen a gwelliant parhaus
- hyblygrwydd, y gallu i ddiwallu anghenion amrywiol ac addasu i amgylchiadau gwahanol
- dulliau cydweithredol a chydlynu gwell rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymunedau, a’r Adran Gwaith a Phensiynau
- systemau symlach a phrosesau symlach
- canolbwyntio ar ganlyniadau ystyrlon yn hytrach na thargedau rhifiadol
- darpariaeth a chymorth cynhwysol i bob unigolyn waeth beth fo'i amgylchiadau
- dulliau wedi'u teilwra ar gyfer grwpiau cymunedol gwahanol
- cymorth ymarferol gan gynnwys darpariaeth gofal plant cyfatebol
- ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth, gwell hyfforddiant ar niwroamrywiaeth a'r model cymdeithasol o anabledd
- un pwynt mynediad
Y thema gyson oedd awydd am raglen sy'n rhoi anghenion unigol yn gyntaf, gyda'r hyblygrwydd a'r adnoddau i ddarparu cymorth ystyrlon, hirdymor.
Grwpiau y dylid eu blaenoriaethu
Nod y cwestiwn hwn oedd pennu pa grwpiau demograffig y dylai'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd ganolbwyntio arnynt, o ystyried adnoddau cyfyngedig (roedd y cyfranogwyr yn gallu dewis tri grŵp). Blaenoriaethodd y cynrychiolwyr y canlynol:
- di-waith am gyfnod hir (dros chwe mis) (66%)
- y rhai sy'n cael eu diswyddo (59%)
- pobl ifanc 16 i 25 oed (52%)
- pawb 16 oed a hŷn (30%)
- di-waith am lai na chwe mis (28%)
- y rhai dros 25 oed (20%)
- pobl ifanc 16 i 18 oed (16%)
Y prif flaenoriaethau
Gofynnodd y cwestiwn hwn i gynrychiolwyr nodi'r meysydd pwysicaf ar gyfer y rhaglen newydd. Roedd y blaenoriaethau allweddol yn nhrefn dewis y cynrychiolwyr yn cynnwys:
- mynd i'r afael â rhwystrau, gan adlewyrchu'r teimlad cryf bod cael gwared ar rwystrau i gyflogaeth yn sylfaenol
- cyn-ymgysylltu a rhwyddineb mynediad, gan dynnu sylw at bwysigrwydd allgymorth effeithiol a phwyntiau mynediad syml
- targedu'r rhai sydd â'r angen mwyaf, gan ategu pwysigrwydd canolbwyntio adnoddau ar unigolion sy'n wynebu'r heriau mwyaf sylweddol i gyflogaeth
- cyflogaeth â chymorth, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cymorth parhaus unwaith y bydd unigolion yn dechrau gweithio i sicrhau canlyniadau cynaliadwy
- cydraddoldeb ac amrywiaeth, gan bwysleisio'r angen am ddulliau cynhwysol sy'n gwasanaethu pob cymuned yng Nghymru
- helpu pobl i fyd gwaith, sy'n awgrymu, er bod canlyniadau cyflogaeth yn bwysig, na ddylid diystyru’r gwaith sylfaenol sydd angen ei wneud i baratoi unigolion ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy
- datblygu sgiliau meddal, gan gydnabod bod cyflogadwyedd yn golygu mwy na galluoedd technegol a’i fod yn cynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, a sgiliau rhyngbersonol eraill
- cyfleoedd profiad gwaith, gan nodi gwerth cymorth ymarferol yn y gweithle fel rhan o'r daith gyflogaeth
- cymorth i'r farchnad lafur, gan gydnabod yr angen i sicrhau bod cynllun y rhaglen yn cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr yn ogystal â chyfranogwyr unigol
Arloesi a chynllunio ar gyfer llwyddiant
Cynlluniwyd y cwestiwn hwn i gipio syniadau arloesol a allai wneud i'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd sefyll allan. Fe'i fframiwyd fel cyfle i feddwl am yr hyn a allai fod yn wahanol a sut i ddiogelu'r rhaglen at y dyfodol, gan annog cynrychiolwyr i feddwl yn greadigol y tu hwnt i'r dulliau presennol. Roedd adborth allweddol yn cynnwys:
- cydgynhyrchu a dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a gynhyrchir gyda defnyddwyr gwasanaethau
- ymgysylltu â chyflogwyr a phartneriaeth sy'n helpu busnesau i greu swyddi hygyrch
- cydweithredu ac integreiddio rhwng y trydydd sector, y sector statudol a'r sector preifat ar lefel leol, mapio'r ddarpariaeth i sicrhau nad yw gwasanaethau’n cael eu dyblygu
- cymorth ymarferol a phersonol gan gynnwys cymorth gyda thrafnidiaeth a chaniatáu i'r rhaglen brynu offer (PPE, offer digidol, ac eraill) i gefnogi’r llwybr i gyflogaeth
- cymorth i gyflogwyr a chyfranogwyr sydd mewn gwaith
- defnyddio technoleg i helpu pobl i gael trosolwg o'u cyflogaeth yn y dyfodol ond hefyd fel y gallant wybod gwerth y diwydiant technolegau datblygol
- cyflenwi lleol a hyblyg, addasu'r ddarpariaeth yn dibynnu ar yr ardal, y seilwaith lleol ac anghenion lleol, a gweithio gyda sectorau eraill gan gynnwys y trydydd sector
- cynhwysol i bob oedran a gallu
- gwelliant parhaus ond dysgu o'r gorffennol, adolygu a gwerthuso wrth i’r rhaglen fynd rhagddi
- ymyrraeth gynnar i gefnogi ymgysylltu cyn 16 oed
Casgliad
Dyma’r mewnwelediadau allweddol o ddigwyddiad Llandrindod.
Dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Roedd yr adborth yn pwysleisio'n gyson yr angen am ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn go iawn.
Modelau cyllido cynaliadwy
Nodwyd bod cyllid hirdymor a chynaliadwy yn hanfodol, gyda chylchoedd cyllido tymor byr yn cael eu nodi dro ar ôl tro fel arfer nad yw wedi gweithio'n dda. Roedd cynrychiolwyr yn teimlo'n rhwystredig gyda'r ansefydlogrwydd a oedd yn cael ei greu gan gylchoedd cyllido byr sy'n tarfu ar ddarpariaeth gwasanaethau, yn arwain at staff yn mynd a dod, ac yn atal rhaglenni rhag ymwreiddio arferion effeithiol.
Cydweithredu ac integreiddio
Roedd rhanddeiliaid yn eiriol yn gadarn o blaid cydgysylltu gwell rhwng asiantaethau a dulliau cydgysylltiedig. Roedd yr adborth yn tynnu sylw at yr angen am brosesau atgyfeirio symlach, llywio symlach trwy'r system gyfan, a phrosesau rhannu data gwell rhwng sefydliadau.
Grwpiau targed a blaenoriaeth
Er y dylai'r cymorth fod yn hygyrch i bawb, roedd yr adborth yn dangos pwyslais penodol ar y rhai di-waith am gyfnod hir, y rhai sy'n profi diswyddiad, a phobl ifanc 16 i 25 oed. Mae hyn yn cydnabod bod rhai grwpiau yn wynebu heriau cyflogaeth sylweddol a bod angen cymorth mwy dwys neu wedi'i dargedu arnynt o bosibl.
Darpariaeth leol o fewn fframwaith cenedlaethol
Pwysleisiwyd pwysigrwydd darpariaeth leol, sy'n ymateb i anghenion cymunedol gan gynnal ansawdd gyson ledled Cymru. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys darpariaeth symudol ar gyfer ardaloedd gwledig, ymwreiddio gwasanaethau yn lleol, ac addasu'r ddarpariaeth yn dibynnu ar y seilwaith lleol, gan gynnal dull cyson, Cymru gyfan.
Cydgynhyrchu a llais defnyddwyr
Roedd yr ymatebion arloesi yn gryf o blaid cynnwys defnyddwyr gwasanaethau wrth ddylunio rhaglenni o'r cychwyn cyntaf. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys cydgynhyrchu gyda defnyddwyr gwasanaethau, ymgynghori â grwpiau defnyddwyr cyn cwblhau'r dyluniad, a sicrhau bod llais y cyfranogwyr yn cael ei glywed.
Cydbwysedd rhwng canlyniadau cyflogaeth a datblygiad ehangach
Roedd yr adborth yn adlewyrchu awydd i symud y tu hwnt i ddiffiniadau cul o lwyddiant yn seiliedig ar ganlyniadau cyflogaeth yn unig. Pwysleisiodd y cynrychiolwyr bwysigrwydd datblygu sgiliau meddal a chydnabod camau bach, nid dim ond y nod terfynol o ymuno â’r byd gwaith neu ddysgu pellach.
Ymgysylltu â chyflogwyr
Nodwyd bod cysylltiadau cryf â chyflogwyr yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys gweithio'n agosach gyda chyflogwyr, eu helpu i greu swyddi, cael cyflogwyr i gymryd rhan o'r cychwyn cyntaf, a chreu rhaglen sy'n cefnogi unigolion a'r farchnad lafur.
Technoleg ac arloesi
Law yn llaw â chynnal pwysigrwydd cysylltiadau dynol, roedd cynrychiolwyr yn gweld y potensial o ddefnyddio technoleg i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys defnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnolegau datblygol er mwyn helpu pobl i gael cipolwg ar eu cyflogaeth yn y dyfodol, creu gwasanaeth gwybodaeth am yrfaoedd rhithwir, a dod â mwy o gyfleoedd gwaith rhithwir i Gymru.
Ansawdd dros faint
Thema gyson yn yr ymatebion oedd yr angen i flaenoriaethu ansawdd y gwasanaeth yn hytrach na thargedau rhifiadol. Roedd cynrychiolwyr o blaid ddulliau sy'n cael eu llywio gan ansawdd nid maint ac yn beirniadu rhaglenni'r gorffennol a oedd yn canolbwyntio’n ormodol ar ddangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) yn hytrach na theithiau cyfranogwyr.
