Neidio i'r prif gynnwy

A hoffech chi ddylanwadu ar ddyfodol eicon rhyngwladol?

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd cyfle olaf i chi gael dweud eich barn ar gynlluniau hir dymor pedwar o henebion Safle Treftadaeth y Byd Castell a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng , Ngwynedd cyn i’r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ar 9fed o Ionawr.

Y digwyddiadau yw’r rhai olaf o lu o wahanol weithgareddau sydd wedi eu cynnal drwy’r flwyddyn i ddathlu 30 mlynedd ers derbyn y statws rhyngwladol,  a byddant yn cael eu cynnal yng Nghaernarfon, Biwmares, Conwy a Harlech ar y 05, 06, 07, a 14 o Ragfyr. Mae’r sesiynau galw heibio anffurfiol yn gyfle i bobl ddysgu mwy am y safleoedd, a rhoi barn a sylwadau ar sut dylent gael eu rheoli.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Economi a Seilwaith: 

“Pwrpas y digwyddiadau hyn yw annog y gymuned i ddylanwadu a bod yn rhan allweddol o’r safleoedd hyn sydd wedi eu cydnabod yn rhyngwladol.  Rydym wedi dangos sut gall y safleoedd fod yn rhan o fywyd modern a chyfrannu’n bositif i fywydau pobl. Rwyf eisiauclywed llais y bobl a  sut mae’rcyfraniad am barhau. .

Mae digwyddiadau fel goleuo’r cestyll adeg yr Ewros ac Apêl Pabi'r Lleng Brydeinig Frenhinol, y gwelliant economaidd sylweddol  a’r gwobrwyon yn sgil y gwelliannau  yng Nghastell Harlech, y digwyddiad pabi ‘Weeping Window’ a’r gynhadledd genedlaethol ddiweddar i safleoedd treftadaeth y byd y DU yn dangos pa mor bwysig yw’r safleoedd hyn, a pha mor bwysig fyddan nw yn y dyfodol.”

Mae’r pedwar heneb o dan ofal Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Mae dros 2 filiwn o bobl yn ymweld â 130 safle Cadw yn flynyddol, ac mae Caernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech yn denu mwy na 600,000 o ymwelwyr yn flynyddol, gan gyfrannu dros £8 miliwn i’r economi lleol.

Mae lleoliad ac amserau’r digwyddiadau isod:

  • 05 Rhagfyr - 3yp-5yp - Sesiwn galw heibio - Llyfrgell Caernarfon
  • 06 Rhagfyr - 2yp- 5yp - Sesiwn Galw Heibio - Canolfan Gymunedol David Hughes Biwmares
  • 07 Rhagfyr - 2yp- 5yp - Sesiwn Galw Heibio - Canolfan Ymwelwyr Castell Conwy
  • 14 Rhagfyr - 2yp- 5yp - Sesiwn Galw Heibio - Canolfan Ymwelwyr Castell Harlech.