Neidio i'r prif gynnwy

Amlygodd yr ymchwil amrywiaeth o ddulliau ac arfer da y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu defnyddio i ddelio â digwyddiadau casineb.

Nodau’r gwaith ymchwil hwn oedd:

  • canfod i ba raddau y caiff y Pecyn Cymorth ei ddefnyddio, gan gynnwys nodi enghreifftiau ac a gyflawnwyd ei nodau
  • nodi, lle nad yw’r Pecyn Cymorth wedi’i ddefnyddio a fabwysiadwyd dull amgen ac, os felly, pa mor llwyddiannus y bu hwn
  • nodi a oes angen gwelliannau i’r Pecyn Cymorth neu awgrymu prosesau eraill ar gyfer cyflawni nodau’r Pecyn Cymorth
  • dysgu hefyd pa waith y mae landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn ei wneud i fynd i’r afael â digwyddiadau casineb ac asesu sut gellid gwella’r gwaith hwn

Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng Mehefin a Thachwedd 2012.

Darganfu’r ymchwil fod y Pecyn Cymorth yn cael ei ddefnyddio gan ychydig dros draean o landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn bennaf. Awgrymodd landlordiaid cymdeithasol nad ydynt yn defnyddio’r Pecyn Cymorth fod eu dulliau yn dilyn ethos y Pecyn Cymorth.

Yn gyffredinol, mae rhanddeiliaid o’r farn bod y Pecyn Cymorth yn gyfeirlyfr defnyddiol i landlordiaid cymdeithasol sicrhau bod eu polisïau a’u harferion yn effeithiol ar gyfer mynd i’r afael â digwyddiadau casineb.

Amlygodd yr ymchwil amrywiaeth o ddulliau ac arfer da y mae landlordiaid cymdeithasol yn eu defnyddio i ddelio â digwyddiadau casineb. Roedd yr ymchwil wedi cyffwrdd ar gymhlethdodau digwyddiadau casineb, pwysigrwydd hyfforddiant digonol i staff landlordiaid cymdeithasol a monitro digwyddiadau casineb yn effeithiol. Nodwyd bod y Pecyn Cymorth yn adnodd defnyddiol ar gyfer gwella ymwybyddiaeth sefydliad o ddigwyddiadau casineb a’i allu i’w cydnabod felly.

Adroddiadau

Digwyddiadau casineb mewn tai cymdeithasol ar rent: adolygiad o ddulliau a defnyddio’r pecyn cymorth digwyddiadau casineb , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 518 KB

PDF
Saesneg yn unig
518 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Digwyddiadau casineb mewn tai cymdeithasol ar rent: Adolygiad o ddulliau a defnyddio’r pecyn cymorth digwyddiadau casineb (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 454 KB

PDF
454 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.