Neidio i'r prif gynnwy

Adborth o 4 digwyddiad rhanbarthol

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r adborth a gafwyd o'r 4 digwyddiad ymgysylltu ar gyflogadwyedd rhanbarthol a gynhaliwyd ledled Cymru:

  • Caerdydd (y De-ddwyrain): ar 29 Ebrill 2025
  • Abergele (y Gogledd): ar 8 Mai 2025
  • Llandrindod (y Canolbarth): ar 22 Mai 2025
  • Llanelli (y De-orllewin): ar 4 Mehefin 2025

Trosolwg o'r broses ymgysylltu

Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu ar draws pob rhanbarth yng Nghymru a ddenodd dros 500 o bobl. Y nod oedd casglu gwybodaeth a dealltwriaeth rhanddeiliaid i lywio'r gwaith o ddatblygu Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd i Gymru.

Adborth cyffredinol

Yn gyffredinol, mae'r adborth yn rhoi mandad clir i'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd adeiladu ar arferion da presennol gan hefyd fynd i'r afael â'r cyfyngiadau a nodwyd yn y dulliau blaenorol.

Pwyntiau mynediad a llwybrau atgyfeirio

Cafodd y cyfryngau cymdeithasol eu nodi fel y sianel fwyaf effeithiol ar gyfer codi ymwybyddiaeth a chyflwyno mynediad at raglenni. Cawsant eu crybwyll droeon mewn ymatebion, gan dynnu sylw at eu pwysigrwydd wrth gyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol. Mae'r pwyntiau allweddol eraill a godwyd yn cynnwys:

  • defnyddio rhwydweithiau a gwasanaethau sefydledig fel canolfannau gwaith, ysgolion a gwasanaethau iechyd
  • sicrhau bod sawl pwynt mynediad o fewn y system

Asesu a gosod lefelau cymorth i unigolion

Nododd adborth mai 'rhwystrau unigol' oedd y ffactor pwysicaf wrth bennu lefelau cymorth priodol. Mae ffactorau eraill yn cynnwys anghenion cymorth ychwanegol, oedran cyfranogwyr, rhwystrau iechyd a hyd y diweithdra. Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys:

  • pwysigrwydd ystyried y person cyfan yn holistaidd, nid eu materion cyflogadwyedd yn unig
  • gallu adeiladu perthynas ddibynadwy gyda'r aseswr mewn amgylchedd diogel
  • sgiliau cyfathrebu da gan yr aseswr – yn gallu gwneud pwyntiau mewn Saesneg clir
  • gallu ailedrych ar yr asesiad os oes angen fel y gellir ei addasu wrth i'r amgylchiadau newid

Arferion llwyddiannus o raglenni presennol a rhaglenni blaenorol

Mae rhaglenni blaenorol wedi cyflwyno dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gan fynd i'r afael â rhwystrau unigol i gyflogaeth fel a ganlyn:

  • cymorth hyblyg sydd wedi’i deilwra i anghenion yr unigolyn
  • datblygu cysylltiadau effeithiol â darpar gyflogwyr
  • cyflwyno darpariaeth leol hyblyg
  • pwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau meddal ac argaeledd hyfforddiant galwedigaethol

Heriau ac arferion aneffeithiol o raglenni'r gorffennol

Tynnwyd sylw at aneffeithiolrwydd y systemau digidol presennol, yn ogystal â'r angen am system ddigidol unedig yng Nghymru neu fod y systemau presennol yn gydnaws â'i gilydd ac â system yr Adran Gwaith a Phensiynau. Codwyd preifatrwydd data personol hefyd fel pryder parhaus wrth olrhain cyfranogwyr, yn enwedig wrth i bobl symud o raglen i raglen. Roedd y pwyntiau eraill a godwyd yn cynnwys y canlynol:

  • mae cyllid tymor byr yn arwain at ansicrwydd i ddarparwyr a chyfranogwyr mewn rhaglenni
  • mae cyfranogwyr yn gorfod ailadrodd eu ‘stori’ sawl gwaith i nifer o bobl
  • gall dangosyddion perfformiad allweddol sydd wedi'u cynllunio'n wael arwain at ganlyniadau andwyol, megis methiant i gydnabod a chofnodi'r 'pellter a deithiwyd' neu ganlyniadau sgiliau meddal fel hyder
  • diffyg cydweithredu rhwng darparwyr gwasanaethau a gwasanaethau eraill, gan gynnwys materion fel GDPR.

Arloesi ac un dymuniad ar gyfer y dyfodol

Codwyd pwysigrwydd technoleg a'r cynnig digidol ynghyd â'r angen iddo wella perthnasoedd personol ond nid eu disodli. Roedd consensws y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu systemau symlach a lleihau'r baich gweinyddol ar ddarparwyr a chontractwyr. Roedd y pwyntiau eraill a godwyd yn cynnwys:

  • gweithredu cylchoedd cyllido hirdymor o 5 mlynedd neu fwy i sicrhau sefydlogrwydd y rhwydwaith, cefnogi cynllunio effeithiol, cadw staff a hwyluso gwelliant parhaus
  • symleiddio darpariaeth rhwng pob parti (llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yn ogystal â darparwyr a chyflogwyr) i leihau dyblygu
  • sicrhau bod cyllid lleol ar gael i ddiwallu anghenion lleol a sicrhau bod hyblygrwydd yng nghynllun y rhaglen a sut y mae'n cael ei chyflwyno
  • cyd-ddylunio gwasanaethau drwy gynnwys defnyddwyr gwasanaethau i gynnwys eu profiadau bywyd yn y rhaglen
  • pwyslais newydd ar gydweithio â chyflogwyr i greu cyfleoedd cyflogaeth a phrofiad gwaith, yn enwedig yn y sector cyhoeddus, er mwyn helpu cyfranogwyr i gael mynediad a phrofiad gwerthfawr
  • ffocws ar ddiwallu anghenion y farchnad lafur yn y dyfodol