Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn disgrifio ein hymrwymiad i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru. Mae’n egluro sut y byddwn yn darparu gwasanaethau ar gyfer:

  • plant a phobl ifanc
  • eu teuluoedd
  • cymunedau 

Mae ein Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru yn ein hymrwymo i ddileu elw preifat o’r system ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, drwy ddefnyddio model nid-er-elw yn unig. Byddwn yn dechrau drwy ganolbwyntio ar wasanaethau cartrefi gofal i blant a gofal maeth.

Bwrdd y Rhaglen 

Mae dyletswyddau’r Bwrdd yn cynnwys:

  • cefnogi’r gwaith o ddatblygu deddfwriaeth fel sail ar gyfer gweithredu’r ymrwymiad
  • helpu i sicrhau sefydlogrwydd yn y farchnad

Daw cynrychiolwyr o amrywiaeth o wahanol asiantaethau, gan gynnwys:

  • sefydliadau maeth a chartrefi gofal i blant yn y sector preifat
  • darparwyr y sector cyhoeddus a’r trydydd sector
  • Llywodraeth Cymru
  • comisiynwyr gwasanaethau
  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Comisiynydd Plant Cymru
  • Undebau llafur
  • Voices from Care

Mae Bwrdd y Rhaglen yn gyfrifol am bedair ffrwd waith sydd â’r nod o edrych yn fanylach ar y prif heriau.

Ffrydiau waith

Ffrwd waith 1

Nodi ac argymell camau i’r Bwrdd eu cymryd i:

  • ehangu a datblygu lleoliadau cartrefi gofal i blant a gofal maeth yr awdurdodau lleol
  • rhoi sylw i wasanaethau sy’n gweithredu heb fod yn gofrestredig a gwella recriwtio ar gyfer cartrefi gofal  

Ffrwd waith 2  

Nodi ac argymell camau i’r Bwrdd eu cymryd i:

  • ehangu a datblygu lleoliadau nid-er-elw a ddarperir gan gartrefi gofal i blant a gofal maeth
  • rhoi sylw i’r rhwystrau sy’n effeithio ar yr ymdrechion i ehangu neu ar fynediad i’r farchnad nid-er-elw

Ffrwd waith 3

Nodi ac argymell camau i’r Bwrdd eu cymryd i:

  • helpu darparwyr presennol yn y sector annibynnol / preifat i newid i fodel nid-er-elw.   

Ffrwd waith 4

Nodi ac argymell camau i’r Bwrdd eu cymryd i: 

  • sicrhau bod y newidiadau arfaethedig yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar blant a phobl ifanc unigol

Ymgynghori

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol i gefnogi’r polisi hwn yn 2022. Cafodd crynodeb o’r ymatebion ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2023 (dolen at yr ymatebion). Roedd cefnogaeth gref i’r cynigion, ond hefyd cafodd pryderon eu mynegi ynghylch canlyniadau anfwriadol. 
 

Y camau nesaf

  • Datblygu polisi ymhellach ar gyfer darpariaeth bontio neu eithriadau.
  • Bwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu Strategaethau ar gyfer Comisiynu Lleoliadau Awdurdodau Lleol.
  • Datblygu darpariaeth awdurdod lleol newydd, wedi ei chefnogi gan £68m dros y tair blynedd nesaf.
  • Cynnal gweithdy gyda darparwyr er-elw i drafod modelau nid-er-elw yn y dyfodol a chymorth i newid o un model i’r llall.
  • Datblygu’r gwasanaethau sydd ar ffiniau gofal ymhellach er mwyn cadw mwy o deuluoedd gyda’i gilydd os bydd hynny’n ddiogel. 
  • Cyflwyno Bil Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn 2024.