Neidio i'r prif gynnwy

Y Cefndir

Sefydlwyd Bwrdd y Rhaglen Dileu Elw o Ofal Plant sy'n Derbyn Gofal ("Bwrdd y Rhaglen") ym mis Medi 2021 ar ôl cyhoeddi'r Rhaglen Lywodraethu gychwynnol ym mis Gorffennaf 2021. 

Ei ddiben yw goruchwylio a chynghori ar y gwaith o weithredu ymrwymiad y Rhaglen Lywodraeth i Ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal, sy'n symud yn ei flaen drwy'r darpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 ("Deddf 2025"). Cyhoeddir crynodeb o drafodaethau Bwrdd y Rhaglen er mwyn darparu tryloywder.

Crynodeb o drafodaethau bwrdd y rhaglen: 02 Rhagfyr 2025

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru

Rhoddwyd diweddariad a oedd yn cynnwys y prif bwyntiau allweddol isod:

  • Daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus, a oedd yn disgrifio newidiadau arfaethedig i'r prosesau cofrestru a ffurflenni blynyddol, a'r dull gweithredu ar gyfer monitro a gorfodi, i ben ar 8 Hydref, ac roedd 27 o ymatebion wedi dod i law. Roedd dadansoddiad a chrynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu paratoi gan swyddogion, a'r bwriad oedd cyhoeddi'r crynodeb yn gynnar yn 2026.
  • Parhaodd Cwmpas i gefnogi darparwyr 'er-elw', a pharhaodd gweithgor Cwmpas i gyfarfod a rhoi cyfle i unrhyw bryderon neu heriau cyffredinol gael eu mynegi a'u cynnwys.
  • Roedd 6 chyfarfod misol ar y gweill ar gyfer adrodd a monitro grantiau gydag awdurdodau lleol mewn perthynas â chyllid grant Dileu a Diwygio Radical.
  • Parhaodd y gweithgor cyfathrebu i gyfarfod, gyda’r aelodaeth yn ehangu i gynnwys partneriaid o Gofal Cymdeithasol Cymru, CLlLC, a Maethu Cymru.
    • Roedd gweithgarwch cyfathrebu diweddar yn cynnwys bwletin AGC i adlewyrchu bod y dyddiad cau wedi'i newid i 31 Mawrth 2026 ar gyfer cofrestru a amrywiadau i ddarparwyr 'er-elw' yn dilyn adborth gan ddarparwyr.
    • Cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig yn cadarnhau llofnodi'r gorchymyn cychwyn cyntaf ar 2 Rhagfyr.
  • Roedd yr ail adroddiad ar y cynnydd a wnaed wrth drosglwyddo i fodel nid-er-elw ar gyfer gofalu am blant sy'n derbyn gofal hefyd wedi'i gyhoeddi ym mis Tachwedd 2025. Roedd bwriad i gyhoeddi adroddiadau pellach ar amserlen 6 mis, ym mis Mai a mis Tachwedd 2026.

Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad

Roedd Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad wedi ei baratoi gan Gonsortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant a'i rannu gyda'r aelodau cyn y cyfarfod, a darparwyd diweddariad:

  • O ran gofal preswyl, roedd nifer y gwasanaethau a gomisiynwyd wedi gostwng 6% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Gwelwyd twf parhaus mewn cartrefi awdurdodau lleol, a rhagwelwyd y byddai hyn yn parhau y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol 25/26. Ar adeg adrodd, roedd 75 o gartrefi plant awdurdodau lleol wedi'u cofrestru gydag AGC. Roedd cynnydd yn y sector annibynnol hefyd wedi parhau, gyda'r mwyafrif o gofrestriadau newydd gan ddarparwyr 'er-elw', gydag un cartref nid-er-elw yn cofrestru o fewn y cyfnod adrodd hwn.
  • O ran gofal maeth, ar y cyfan, roedd y diffyg digonolrwydd yn parhau. Roedd gwasanaethau a gomisiynwyd oddi wrth ddarparwyr gofal maeth annibynnol wedi gostwng y chwarter hwn, ac roedd gostyngiad nodedig i'w weld o flwyddyn i flwyddyn. Ar ddechrau blwyddyn ariannol 25/26, roedd 60% o'r farchnad gofal maeth yn cael ei gweithredu gan Awdurdodau Lleol a 40% yn cael ei gweithredu gan y sector annibynnol, ac roedd 7% yn gweithredu o dan fodel busnes a ganiateir fel yr amlinellir yn y Ddeddf.
  • Roedd enghreifftiau cadarnhaol o wasanaethau gofal a ddarperir ar draws gwahanol fathau o ddarpariaeth wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Yn ogystal â hynny, nodwyd hefyd bod cydweithredu effeithiol yn digwydd rhwng ALlau a darparwyr preifat.
  • Roedd Dadansoddiad Proffil Anghenion Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant wedi ei gyhoeddi, a thynnwyd sylw ato fel adnodd sy'n amlinellu’r mannau lle mae anghenion penodol a bylchau mewn digonolrwydd.

Cofrestr Risgiau a Log o'r Gwersi a Ddysgwyd

Roedd rhai newidiadau wedi'u gwneud i sawl risg yng nghofrestr risgiau Bwrdd y Rhaglen yn dilyn trafodaethau ar lefel y Bwrdd a Ffrwd Waith 1. Ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad i'r newidiadau hyn gan Aelodau'r Bwrdd.

Cynigiwyd adolygiad o'r risg mewn perthynas ag amseroedd a'r cyfnod pontio yng ngoleuni'r dystiolaeth a ddarparwyd yn yr Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad. Cytunwyd y byddai hyn yn cael ei adolygu ar ôl cyfarfod y Bwrdd.

Diweddariadau ar y ffrydiau gwaith

Roedd Ffrwd Waith 1 wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd, a darparwyd y diweddariad isod:

  • Roedd memorandwm cydweithredu wedi'i sefydlu gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ynghylch defnyddio a rhannu data.
  • Roedd adroddiad diweddar ar brofiadau plant a phobl ifanc a oedd wedi cael eu lleoli mewn gwasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestru wedi'i gwblhau, a'r camau nesaf ar gyfer yr adroddiad fyddai ystyried sut y gellir dysgu gwersi o'i ganfyddiadau.
  • Roedd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ymgymryd â modelu ariannol i helpu ALlau i ddatblygu eu darpariaeth fewnol eu hunain.
  • Roedd modelu rhagolygon a galw hefyd ar y gweill i helpu i roi gwybod i ALlau am yr angen tebygol yn y blynyddoedd i ddod.

Roedd Ffrwd Waith 2 wedi cyfarfod unwaith ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd, ac roedd is-grŵp 1 (o dan Ffrwd Waith 2) a oedd yn canolbwyntio ar sut i gefnogi sefydliadau nid-er-elw presennol i ehangu, hefyd wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd.

Cafodd y Bwrdd wybod bod Keith Edwards, a fu'n cadeirio Ffrwd Waith 2 wedi ymddiswyddo, a diolchwyd iddo'n ffurfiol am ei waith drwy gydol ei amser fel Cadeirydd.