Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cam cyntaf yr ymchwil i ddilysu profion asesu gwybyddol (PAGau) sydd wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod yr ymchwil oedd sefydlu fframwaith gwerthuso cynhwysfawr i helpu i wneud diagnosis cywir o ddementia ymhlith unigolion sy'n siarad Cymraeg. Roedd yn cynnwys:
- adolygiad o ganllawiau asesu dementia y DU
- ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru i nodi'r PAGau a ddefnyddir fwyaf mewn Gwasanaethau Asesu Cof
- archwiliad o briodweddau seicometrig y PAGau sydd wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg
- nodi strategaethau i gasglu data o ansawdd uchel ar y PAGau Cymraeg a ddefnyddir fwyaf i sicrhau eu bod yn cael eu dilysu ac y gellir eu dehongli'n ddibynadwy mewn lleoliadau clinigol
Adroddiadau

Dilysu profion asesu gwybyddol Cymraeg: cam un , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 668 KB
PDF
668 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Jacqueline Aneen Campbell
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.