Neidio i'r prif gynnwy

DIM OND? Dim esgus

Gyda ffrindiau, neu’n llais bach yn dy isymwybod dy hun, mae dau air sydd bob amser yn ceisio esgusodi ymddygiad amhriodol. ‘DIM OND’.

Mae dynion yn cuddio y tu ôl i DIM OND. I fenywod, mae DIM OND yn un rhwystr arall rhag gael eu clywed a’u credu.

Mae’r geiriau DIM OND yn cael eu defnyddio i esgusodi ymddygiad amhriodol. Mae dynion yn eu defnyddio i gyfiawnhau pethau maen nhw’n wneud. Mae pobl hefyd yn eu defnyddio i ddiystyru ofnau dilys menywod.

Mae’n bryd stopio cuddio y tu ôl i DIM OND. Mae’n bryd ei herio. Does dim esgus.

Ddylai neb deimlo’n ofnus yn unman

  • Cyffwrdd â rhywun pan nad yw eisiau iti wneud.
  • Gwneud sylwadau neu ystumiau rhywiol dieisiau.
  • Dilyn rhywun heb yn wybod iddi.
  • Cysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol, tecstio neu ffonio’n ddieisiau.
  • Gwylio rhywun neu ysbïo arni.
  • Cymryd lluniau o rywun heb yn wybod iddi, gan gynnwys lluniau i fyny sgert.

Mae’r rhain i gyd yn achosi ofn, braw a gofid. Aflonyddu rhywiol yw hyn ac nid yw’n dderbyniol. Mae trais a cham-drin o bob math yn erbyn menywod a merched yn anghywir.

Mae agweddau sy’n esgusodi ac yn normaleiddio cam-drin yn rhan o’n diwylliant. O jocio a ‘thynnu coes’ rhywiaethol i aflonyddu a threisio. Rydyn ni eisiau i ddynion godi llais am yr ymddygiad hwn.

Nid yw herio eraill ynghylch eu hymddygiad yn golygu eu bychanu neu godi cywilydd arnynt, nac yn rheswm i godi dwrn. Mae’n fater o addysgu pobl a’u hannog i newid eu hagwedd.

Dim ond mewn ffordd sy’n ddiogel i bawb y dylem fynd ati i herio ymddygiad ac agweddau amharchus/niweidiol.

Wyt ti’n bryderus am dy ymddygiad dy hun?

Ti sy’n dewis sut rwyt ti’n ymddwyn, ac fe elli di ddewis stopio. Os wyt ti’n bryderus am dy ymddygiad dy hun, mae Respect phoneline yn llinell gymorth rad ac am ddim. Cei siarad â rhywun na fydd yn dy farnu.

Wyt ti’n bryderus am ymddygiad rhywun arall?

Wyt ti wedi gweld neu glywed rhywbeth annerbyniol mewn sefyllfa gymdeithasol neu yn y gwaith? Wyt ti wedi clywed ffrind yn gwneud sylw amheus, a tithau heb wybod sut i’w herio am y peth?

Mae Safe to say yn cefnogi pobl i brotestio yn erbyn aflonyddu rhywiol mewn ffordd ddiogel, ac yn cynnig llawer o gyngor a syniadau. Crëwyd y wefan gan Uned Atal Trais Cymru, Good Night Out, a Cymorth i Ferched Cymru.

Dyma rai syniadau eraill:

  • Trefna i gwrdd â’r person yn breifat i drafod yr hyn a ddywedwyd.
  • Paid teimlo dan bwysau i chwerthin mewn sgyrsiau neu ‘dynnu coes’ rhywiaethol.
  • Newidia’r pwnc.
  • Cerdda i ffwrdd, paid ymateb i’r sylwadau neu’r sgwrs amhriodol.
  • Gofynna gwestiynau fel ‘Beth rwyt ti’n ei feddwl?’ ‘Beth sy’n gwneud iti feddwl hynny?’.

Sut y gelli di helpu menywod i deimlo’n fwy diogel

  • Heria iaith ac ymddygiad amhriodol pobl eraill.
  • Parcha ofod personol, cadwa bellter parchus. Croesa’r stryd i beidio cerdded y tu ôl i fenyw. Gwna’r un fath wrth redeg neu jogio, yn enwedig fin nos.
  • Sicrha fod gan dy ffrindiau sy’n fenywod gynllun i gyrraedd adref yn ddiogel ar ôl noson allan os ydynt ar eu pen eu hunain.
  • Paid dechrau sgwrs gyda menyw lle gallai deimlo dan fygythiad neu wedi’i chornelu, ee mewn cerbyd trên neu fws gwag. Os bydd hi’n dechrau sgwrs, popeth yn iawn. Fel arall, gad lonydd iddi.
  • Paid beio menyw sy’n destun aflonyddu neu ymosodiad, na’i barnu am yr hyn mae’n ei wneud, ee y dillad mae’n eu gwisgo.
  • Heria stereoteipiau’r rhywiau ac anghydraddoldeb pan wyt ti’n eu gweld.
  • Trafoda’r materion hyn gyda’r dynion yn dy griw ffrindiau a dy deulu.

Wyt ti eisiau gwneud mwy dros yr achos?

Efallai dy fod ti eisiau gwneud mwy, ond nad oes gen ti’r hyder i herio rhywun neu nad wyt ti’n siwr sut i wneud hynny. Gwranda ar fenywod pan fyddan nhw’n dweud nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel, a chreda nhw.

Gall dynion helpu ei gilydd i newid a hyrwyddo cydraddoldeb a pharch rhwng y rhywiau. Fe elli di wneud mwy dros yr achos drwy beidio cam-drin a chyflawni trais yn erbyn menywod dy hun, peidio ei esgusodi a pheidio cadw’n dawel am y peth.

Fe allet ti hefyd annog ac ysgogi dy hoff dafarn, clwb chwaraeon, gweithle, campfa neu fan addoli i wneud mwy dros yr achos.

Beth am fod yn Llysgennad Rhuban Gwyn?

Ymuna â dynion eraill sy’n herio’r agweddau a’r credoau niweidiol sy’n caniatáu i gam-drin ffynnu.  

Rhagor o wybodaeth am fod yn Llysgennad Rhuban Gwyn.

Ydych chi am ddysgu mwy?

Gofyn i fi

Mae Gofyn i fi yn darparu cymorth a hyfforddiant am ddim i helpu aelodau o gymunedau i daro sgwrs am gamdriniaeth.

Cymorth i Ferched Cymru sy'n cynnal y prosiect.

Annog Tystion i Ymyrryd

Nod y fenter hon yw helpu cymunedau i fynd ati i ymyrryd er mwyn rhoi terfyn ar drais a chamdriniaeth.

Lluniwyd y rhaglen at ddefnydd prifysgolion a sefydliadau addysg uwch. Mae'n seiliedig ar theori normau cymdeithasol, a bydd yn helpu myfyrwyr i nodi sefyllfaoedd a allai beri problemau a deall sut i ymyrryd yn ddiogel.

Cafodd y fenter ei datblygu gan Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste, a chaiff ei darparu gan Cymorth i Ferched Cymru.

Cymorth pellach

Os oes angen ymyriad arnoch, cysylltwch â ni yn VAWDASV@llyw.cymru.

Byddwn yn ceisio eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch, p'un a yw hynny yn golygu rhagor o wybodaeth, cyngor neu hyfforddiant.

Os wyt ti wedi cael profiad o stelcio, aflonyddu, trais neu gam-drin, neu os wyt ti wedi ei weld yn digwydd, siarada â Byw Heb Ofn.

DimEsgus: ymgyrch

  • Ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DimEsgus.
  • Gallwch lawrlwytho rhagor o wybodaeth i’w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dolenni cysylltiedig

Darllenwch am ein hymgyrchoedd Byw Heb Ofn.