Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, yn gwneud datganiad llafar yn y Senedd i nodi wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ystadegau Troseddau Casineb Cenedlaethol 2019/2020, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref heddiw, yn dangos cynnydd cyffredinol o 2% mewn troseddau casineb a gofnodwyd ar gyfer Cymru, o'i gymharu â chynnydd o 8% yng Nghymru a Lloegr gyda’i gilydd. Roedd yr ystadegau'n cynnwys cynnydd o 10% mewn troseddau casineb trawsryweddol, cynnydd o 2% mewn troseddau casineb anabledd, a chynnydd o 2% mewn troseddau casineb lle mae cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor. Bu gostyngiad o 2% mewn troseddau casineb hiliol, a gostyngiad o 3% mewn troseddau casineb crefyddol.

Bydd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn lansio ei Siarter Troseddau Casineb ddydd Sadwrn, gan ganolbwyntio ar hawliau dioddefwyr troseddau casineb. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'r Siarter, ac yn annog sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad i chwarae rhan yn y gwaith o fynd i'r afael â throseddau casineb, o ddarparu cymorth a gwybodaeth i ddioddefwyr, i godi ymwybyddiaeth.

Dywedodd Jane Hutt:

Ni ddylai unrhyw berson yng Nghymru orfod goddef rhagfarn na throseddau casineb. Mae gan bawb yr hawl i gael eu parchu, a dylai pawb allu mynd drwy eu diwrnod heb ddioddef sarhad, aflonyddwch nac ymosodiad. Mae'n hanfodol i ddioddefwyr troseddau casineb gael eu cefnogi, ac i’r cyflawnwyr gael eu dwyn i gyfrif.

Rydym yn gweithio gyda'r heddlu, cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn deall beth yw troseddau casineb, a pha gamau y dylai dioddefwyr, tystion a chymunedau eu cymryd pan fyddant yn digwydd. Gall troseddau casineb gael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr. Mae ein gwaith i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ac annog dioddefwyr i adrodd yr un mor hanfodol ag erioed

Ledled Cymru, mae sefydliadau'n defnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb fel cyfle i atgoffa pobl nad oes rhaid iddynt oddef casineb a rhagfarn. Nid yw'n dderbyniol i bobl fyw mewn ofn dim ond oherwydd pwy ydynt. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn ymuno â mi heddiw i gefnogi'r neges glir iawn hon nad oes lle i gasineb yng Nghymru.

Bydd y Gweinidog yn mynychu digwyddiad ar-lein y prynhawn yma a gynhelir gan Race Equality First, i lansio Prosiect Gwahaniaethu a Throseddau Casineb fel rhan o weithgareddau Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.