Mae Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn dweud mai “dim ond y dechrau” yw cyflawniadau ei lywodraeth yn ystod ei chwe mis cyntaf, a hynny wrth i Lywodraeth newydd Cymru nodi ei chwe mis cyntaf mewn grym.
Gwnaeth y Gweinidogion gyfarfod am y tro cyntaf fel Cabinet newydd Llywodraeth Cymru ar 18 Mai 2026.
Ymhlith camau gweithredu’r Llywodraeth yn ystod y chwe mis cyntaf, mae’r cynllun gofal plant a ariennir i bob plentyn 2 oed bellach wedi’i ehangu, o ddim ond tri o’r 22 o awdurdodau lleol ym mis Mai, i 19 ohonynt erbyn hyn. Mae mwy o ddisgyblion ysgol uwchradd bellach yn cael prydau ysgol am ddim a bydd tocynnau bws am £1 i bobl ifanc yn parhau tan fis Mawrth.
Mae cysylltiadau trafnidiaeth wedi’u gwella, gyda gwasanaeth coetsys newydd rhwng gogledd a de Cymru yn cyflawni 10 taith bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin. Mae gwaith hefyd wedi dechrau ar wella’r pontydd presennol dros y Fenai ac ar gynlluniau ar gyfer trydedd bont. Mae Llywodraeth newydd Cymru hefyd wedi ei gwneud yn glir bod mynd i’r afael â’r M4 o amgylch Casnewydd yn golygu y bydd angen gwella ffyrdd, comisiynu gwaith newydd i archwilio datrysiad peirianyddol, yn ogystal â lansio Cynllun Cyflawni Pum Mlynedd newydd ar unwaith.
Er mwyn cefnogi ein strydoedd mawr, bydd lleoliadau lletygarwch a hamdden yn elwa ar doriad parhaol o 30% i’w ardrethi busnes o fis Ebrill nesaf ymlaen. Mae ffermwyr hefyd wedi cael sicrwydd ariannol yn sgil ymrwymiad tair blynedd gwerth £1 biliwn i amaethyddiaeth gynaliadwy gan Lywodraeth Cymru.
Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae £145 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn y GIG, gyda chyllid ar gyfer sefydlu hybiau llawfeddygol newydd i helpu pobl i gael eu trin yn gynt. Mae Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ddoe, hefyd yn cynnwys cyllid ychwanegol gwerth £500 miliwn i’r GIG yn 2027-2028, a £2 biliwn dros y tair blynedd nesaf i fuddsoddi mewn cyfarpar, technoleg ac adeiladau’r GIG.
Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:
“Ar ôl yr etholiad fis Mai, fe aethon ni ati’n syth i weithio ar ein cynllun penodol ar gyfer ein 100 diwrnod cyntaf yn y llywodraeth, gan osod y sylfeini i adeiladu arnyn nhw yn ystod tymor y Senedd hon.
”Ry’n ni wedi bod yn glir am ein prif flaenoriaethau - lleihau rhestrau aros, sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’n Gwasanaeth Iechyd, helpu teuluoedd â chostau byw, creu swyddi da, codi safonau yn ein hysgolion, mynd i’r afael â thlodi plant a sefyll dros ein cenedl.
“Ry’n ni’n gwybod nad oes amser i’w wastraffu wrth ddefnyddio’r holl bwerau sydd gennyn ni i wella bywydau pobl yng Nghymru. Eleni, ry’n ni eisoes wedi cynyddu’r buddsoddiad mewn meysydd fel y Gwasanaeth Iechyd a gofal plant. Ddoe, fe wnaethon ni gyhoeddi ein Cyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, a fydd yn ein galluogi ni i ganolbwyntio hyd yn oed yn fwy ar y materion sydd bwysicaf i bobl Cymru.
“Mae’r cyllid cyhoeddus ry’n ni wedi’i etifeddu yn parhau i fod yn heriol iawn, gyda thoriadau termau real mewn cyllid gan Lywodraeth y DU, ond fydd hynny ddim yn taflu cysgod ar ein huchelgais i adeiladu Cymru well.
“Ond gadewch inni fod yn glir – mae gennyn ni lawer o waith i’w wneud dros weddill tymor y Senedd i gyflawni ein nodau. Ry’n ni wedi cyflawni llawer iawn mewn chwe mis, ond dim ond y dechrau yw hynny.”
