Mae mwy na £27 biliwn wedi'i nodi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford mai “dim ond y dechrau” yw Cyllideb Ddrafft Cymru ar gyfer 2026-27, wrth iddo annog pleidiau gwleidyddol i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr ei bod yn cael ei phasio ym mis Ionawr 2026.
Mae'n darparu llwyfan sefydlog i wasanaethau cyhoeddus gynllunio yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd.
Yn y flwyddyn ariannol nesaf, bydd gan holl adrannau'r llywodraeth o leiaf yr un faint o gyllid, mewn termau real, ag a oedd ganddynt eleni.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
“Y Gyllideb Ddrafft yw dechrau proses y gyllideb – nid y diwedd. Mae'n darparu sylfaen gadarn i helpu gwasanaethau cyhoeddus i gynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
“Gallant fod yn hyderus y gellir gwneud mwy wrth i ni weithio tuag at y Gyllideb Derfynol ym mis Ionawr. Bydd llawer yn newid rhwng nawr a'r bleidlais yn y Senedd ddiwedd mis Ionawr.
“Mae fy nrws ar agor bob amser i weithio gyda phleidiau gwleidyddol eraill yn y Senedd sy'n rhannu fy nghred bod modd cyflawni cyllideb fwy uchelgeisiol a bod gennym gyfrifoldeb ar y cyd i basio Cyllideb Cymru.”
Mae'r Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyhoeddi mewn dau gam – heddiw yw'r cam amlinellol cyntaf, pan fydd dyraniadau'r adrannau'n cael eu cyhoeddi:
- Mae cyllideb uwch y llynedd yn parhau eleni, gyda chynnydd o 2% arall, sy'n cydnabod rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer chwyddiant.
- Rydym yn ailadrodd y ymrwymiadau a wnaed yng Nghyllideb 2025-26 ac yn rhoi mwy na £800m o gyllid ychwanegol i adrannau Llywodraeth Cymru.
- Mae mwy na £27.1 biliwn yn cael ei ddyrannu yn y Gyllideb Ddrafft – 98.6% o'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.
- Yr adran iechyd, gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n derbyn y dyraniad refeniw mwyaf, sef £12.4 biliwn.
- Nid oes unrhyw gynnydd yng Nghyfraddau Treth Incwm Cymru nac yn y trothwyon ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir. Bydd cyfraddau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cynyddu yn ôl y Mynegai Prisiau Manwerthu a ragweli.
- Rydym yn benderfynol o gydnabod yr amgylchiadau penodol sy’n effeithio ar lywodraeth leol wrth i ni weithio gyda'n gilydd ar setliad a fydd yn diogelu swyddi a gwasanaethau rheng flaen, gan ddeall y rheolau llym y mae'n rhaid iddi gydymffurfio â nhw wrth lunio ei chyllidebau.
Bydd cam nesaf y Gyllideb Ddrafft, sy'n cynnwys cynlluniau gwariant adrannol manylach, yn cael ei gyhoeddi ar 3 Tachwedd. Bydd y setliad llywodraeth leol drafft yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen ym mis Tachwedd.
Ychwanegodd Mark Drakeford:
“Rydyn ni eisiau rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i'n gwasanaethau cyhoeddus ac i'r bobl sy'n dibynnu arnynt. Bydd ein cynlluniau gwariant yn parhau i flaenoriaethu Cymru iachach, swyddi a thwf gwyrdd, cysylltu cymunedau, a chyfleoedd i bob teulu.”
