Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans yn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft a gynlluniwyd i ddiogelu'r Gwasanaeth Iechyd a'r economi, i adeiladu dyfodol gwyrddach ac i greu newid i sicrhau Cymru fwy cyfartal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y Gyllideb lawn gyntaf ers y pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei chynlluniau i helpu gwasanaethau cyhoeddus â’u hadferiad, i gefnogi busnesau ac i estyn cymorth i’r rhai a gafodd eu taro galetaf yn yr argyfwng hwn.

Yn dilyn Adolygiad Gwariant ‘siomedig iawn’ gan Lywodraeth y DU, mae Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer yr hyn fydd yn sylfaen i adferiad Cymru.

Wrth siarad cyn ei chyhoeddi, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

"Mae canlyniadau'r pandemig hwn i'n heconomi, ein cymdeithas, a'n cymunedau yn wirioneddol ddwys.

"Er nad oes ateb syml yn bosibl mewn argyfwng byd-eang o'r raddfa hon, gallwn ddewis buddsoddi nawr i ddiogelu'r hyn sydd bwysicaf a sicrhau’r newid sy'n hanfodol i'n hadferiad.

"Bydd y gyllideb hon yn blaenoriaethu cyllidebau’r GIG a’n gwasanaethau cymdeithasol ac yn rhoi’r setliad gorau sy’n bosibl, mewn amgylchiadau ariannol anodd, ar gyfer y gwasanaethau llywodraeth leol yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.

"Byddwn yn targedu buddsoddiad newydd i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac i gefnogi swyddi a hyfforddiant, gan helpu hefyd y rhai mwyaf agored i niwed a’r rhai sydd wedi’u taro galetaf.

"Rwy’n falch hefyd y bydd y Gyllideb hon yn rhoi hwb i'n cenhadaeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, hyrwyddo gwaith teg a darparu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc."

Bydd Cyllideb ddrafft 2021-22, sy'n nodi cynlluniau gwariant refeniw a chyfalaf am flwyddyn, yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach heddiw.