Neidio i'r prif gynnwy

Gyda'r tymheredd ar fin codi ledled Cymru yn y dyddiau nesaf, mae pobl yn cael eu hatgoffa i ddiogelu eu hanifeiliaid anwes a pheidio â'u gadael mewn cerbydau poeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bob blwyddyn mae anifeiliaid yn cael eu niweidio neu'n marw drwy gael eu gadael ar eu pen eu hunain mewn ceir a faniau yn ystod tywydd cynhesach, hyd yn oed os yw hynny am gyfnod byr iawn.

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths yn atgoffa pobl i ddiogelu eu hanifeiliaid anwes wrth i'r tymheredd godi.

Dywedodd y Gweinidog:

Er bod llawer ohonom yn mwynhau'r tywydd poethach, ni ellir dweud hynny bob amser am ein hanifeiliaid anwes sydd mor annwyl i ni.

Mae rhai pobl yn credu y bydd gadael eu hanifail anwes mewn cerbyd yn y cysgod neu gyda'r ffenestri i lawr yn iawn, ond nid yw hynny'n wir.

Gall cerbydau fynd yn boeth yn gyflym iawn ac mae gadael anifeiliaid ar eu pennau eu hunain pan fo’r tymheredd yn uwch fel hyn yn beryglus iawn.

Rydym yn caru ein hanifeiliaid anwes ac rwy'n annog pawb i gymryd y camau sydd eu hangen i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn a'u bod yn gyfforddus yn ystod tywydd cynhesach. Os ydych chi’n mynd allan gyda'ch anifail anwes, cynlluniwch eich diwrnod yn ofalus, gan sicrhau nad ydyn nhw byth yn cael eu gadael mewn cerbyd am unrhyw gyfnod o amser.

Os gwelir bod anifail anwes mewn trallod mewn cerbyd yn ystod y tywydd cynhesach, mae'n bwysig deialu 999 ar unwaith a gofyn am gymorth.

Mae rhagor o wybodaeth am y camau y gellir eu cymryd i ddiogelu anifeiliaid ar gael ar wefan yr RSPCA.

Dywedodd arbenigwr lles anifeiliaid anwes yr RSPCA, Dr Samantha Gaines:

Gyda disgwyl mwy o dywydd cynnes ledled Cymru, mae hi mor bwysig bod pobl yn gwneud cynllun i gadw eu hanifeiliaid anwes yn ddiogel - a byddem yn annog perchnogion anifeiliaid anwes i edrych ar y cyngor ar wefan yr RSPCA.

Mae mynd am dro yn wych i'n cŵn - ond pan fydd y tymheredd yn gynnes iawn, gall ymarfer corff fod yn ormod iddyn nhw ac mae rhai cŵn, fel y rhai sy'n cael eu bridio ar gyfer wynebau gwastad, mewn perygl arbennig. Pan fydd hi’n boeth iawn, gall unrhyw gi gael ei effeithio. Felly, gall mynd am dro yn gynnar yn y bore neu gyda'r hwyr fod yn llawer mwy diogel yr adeg hon o'r flwyddyn, gan fod hi’n oerach bryd hynny.

Gyda chyfyngiadau Covid wedi dod i ben, mae'n wych bod pobl yn cynllunio teithiau eto ac yn mynd allan - ond pan fydd hi’n chwilboeth y tu allan, neu os nad yw digwyddiad yn briodol, efallai y bydd perchnogion am ystyried gadael cŵn gartref. Gall amgylcheddau prysur, swnllyd beri gofid iddynt; ac mae angen sicrhau bod cŵn yn gallu cael gafael ar ddŵr a chysgod yn gyson.

Mae hi mor bwysig hefyd peidio â gadael ci mewn car yn ystod tywydd cynnes. Hyd yn oed os nad yw'n teimlo'n gynnes iawn y tu allan, gall cŵn ddioddef yn gyflym os ydynt yn cael eu cau mewn car - a gall y canlyniadau, yn anffodus, fod yn angheuol. Yn blwmp ac yn blaen, mae cŵn yn marw mewn ceir poeth.

Mae hefyd yn hanfodol bod perchnogion anifeiliaid anwes yn adnabod arwyddion salwch sy'n gysylltiedig â gwres mewn cŵn. Gallai anadlu’n drwm iawn neu gael anhawster anadlu, blinder anarferol ac amharodrwydd i chwarae i gyd fod yn arwyddion bod rhywbeth o'i le. Felly, mae cadw llygad barcud ar ein hanifeiliaid yn allweddol.

Dywedodd Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru, Rob Taylor:

Bydd gadael eich ci, hyd yn oed am gyfnod byr yn unig yn eich car, yn golygu bod y ci’n gorboethi, gan arwain at farwolaeth.

Mae'n syml, naill ai gadewch eich ci yn eich cartref neu peidiwch â'i adael yn eich car gan y bydd eich anifail anwes yn dioddef, ac fe allech chi hefyd gael eich erlyn am eich gweithredoedd.