Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am ba ddyfeisiau mae plant yn eu defnyddio i gyrraedd at y rhyngrwyd, pa weithgareddau maent yn eu gwneud ar-lein, a gwybodaeth a chyfranogiad y rhieni ynghylch diogelwch eu plentyn ar-lein ar gyfer Ebrill 2014 i Mawrth 2015.

Prif bwyntiau

  • Roedd 95% o blant rhwng 7 i 15 oed yn defnyddio'r rhyngrwyd yn y cartref.
  • Y ddyfais a ddefnyddiwyd amlaf gan y plant hyn oedd llechen neu ddyfais llaw arall (71%).
  • Roedd 64% o blant 7 i 15 oed a oedd yn defnyddio'r rhyngrwyd y tu allan i'r ysgol wedi defnyddio llwyfan dysgu'r ysgol, a 67% wedi defnyddio'r rhyngrwyd i ddod o hyd i wybodaeth arall yn ymwneud â gwaith ysgol.
  • Roedd 87% o'r rhieni yn teimlo bod eu plentyn yn gwybod sut i fod yn ddiogel wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd.
  • Roedd 56% o'r aelwydydd â phlant 7 i 15 oed yn defnyddio mesurau rheolaeth gan rieni.

Roedd dadansoddiad pellach yn dangos bod rhieni yn fwy tebygol o ddefnyddio mesurau rheolaeth:

  • os oedd mwy na dau blentyn yn byw ar yr aelwyd
  • pan oedd y rhiant hefyd yn defnyddio'r rhyngrwyd
  • pan oedd y plant yn 12 oed neu'n iau
  • a phan oedd gan y rhiant o leiaf TGAU lefel A i C.

Adroddiadau

Diogelu plant ar-lein (Arolwg Cenedlaethol Cymru), Ebrill 2014 i Mawrth 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 402 KB

PDF
402 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.