Neidio i'r prif gynnwys

Adolygiad o raglenni peilot i leihau rhwystrau tlodi i gyrhaeddiad addysgol mewn ysgolion. Yn cynnwys deilliannau cynnar a gwersi polisi.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau terfynol y gwerthusiad o Bencampwyr Cyrhaeddiad a chanfyddiadau interim y gwerthusiad o Ddiogelu rhag Tlodi. Mae rhaglen a gwerthusiad Pencampwyr Cyrhaeddiad wedi dod i ben. Mae’r rhaglen Diogelu rhag Tlodi wedi’i hymestyn drwy flwyddyn academaidd 2026 i 2027, ac mae ei gwerthusiad yn parhau.

Pencampwyr Cyrhaeddiad

Roedd arweinwyr ysgolion yn gwerthfawrogi cydweithio, dysgu gan gymheiriaid a’r cyfle i ddatblygu ymatebion lleol i rwystrau sy’n gysylltiedig â thlodi. Adroddwyd fod mwy o ymwybyddiaeth o dlodi, mwy o ymgysylltu ymhlith dysgwyr a newidiadau i arferion ysgolion.

Mae’r dystiolaeth yn seiliedig yn bennaf ar fyfyrdodau cyfranogwyr ar ôl i’r rhaglen ddod i ben. Felly, mae’n darparu gwybodaeth am eu profiadau a’r deilliannau canfyddedig, yn hytrach na thystiolaeth bendant o effaith.

Diogelu rhag Tlodi

Yn gyffredinol, roedd ysgolion o’r farn bod yr hyfforddiant a’r broses archwilio yn ddefnyddiol wrth fyfyrio ar sut mae tlodi’n effeithio ar bolisïau ac arferion ysgolion. Roedd y newidiadau a adroddwyd yn cynnwys hybiau gwisg ysgol, dulliau diwygiedig o ymdrin â theithiau ysgol, trefniadau talu mwy hyblyg a mwy o ymwybyddiaeth o gostau cudd.

Mae’n parhau’n rhy gynnar i asesu deilliannau’r rhaglen yn hyderus. Roedd y dystiolaeth o newid i ddysgwyr a theuluoedd yn gyfyngedig, ac roedd y cyfranogiad yn y gwerthusiad yn is na’r disgwyl. Bydd y gwerthusiad parhaus yn archwilio’r rhaglen beilot estynedig ac yn datblygu casgliadau ac argymhellion terfynol.

Adroddiadau

Diogelu rhag Tlodi a Phencampwyr Cyrhaeddiad: gwerthusiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Cangen Ymchwil Ysgolion

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.