Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi'r canllawiau hyn i helpu gwarchodwyr plant i gadw eu hunain, a'r plant yn eu gofal, yn ddiogel rhag tân.

Mae'r canllawiau hyn yn gymwys i safleoedd gwarchod plant domestig sydd eisoes wedi'u cofrestru neu sy'n gwneud cais i gofrestru. Nid ydynt yn gymwys i fathau eraill o gyfleusterau gofal plant.

Mae tân yn achosi risg ddifrifol a bydd y canllawiau hyn yn eich helpu chi, eich teulu ac unrhyw staff i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel rhag tân. Diben y canllawiau hyn yw eich helpu i gwblhau'r templed asesu risgiau tân a atodir sydd wedi cael ei baratoi mewn ymgynghoriad ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a PACEY (y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar) Cymru i'w ddefnyddio gan warchodwyr plant.

Mae AGC yn disgwyl i chi gynnal asesiad risgiau tân er mwyn cydymffurfio â'r gofynion sy'n ymwneud â rhagofalon tân yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, fel y'u diwygiwyd, a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoleiddiedig ar gyfer plant hyd at 12 oed.  Mae hyn yr un mor gymwys i gofrestriadau newydd a gwasanaethau sy'n bodoli eisoes.

Mae'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn darparu gwybodaeth am ragofalon a gweithdrefnau tân y mae'n rhaid i warchodwyr planteu eu dilyn er mwyn cydymffurfio â gofynion diogelwch tân. Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i gynnal asesiad risgiau tân yn eich tŷ neu'ch fflat, a chofnodi unrhyw ganfyddiadau pwysig a gweithredu arnynt. Byddai'r asesiad risgiau tân hwn yn ffurfio'r rhan o'r weithdrefn i'w dilyn pe bai tân neu ddamwain, sef un o ofynion AGC. Dylech adolygu'ch asesiad risgiau tân a'ch gweithdrefn tân os bydd unrhyw beth yn newid, er enghraifft os byddwch yn dechrau gofalu am blant iau neu blant sydd ag anableddau y bydd angen mwy o gymorth arnynt o bosibl yn achos tân, neu os gwneir newidiadau i'r rhannau o'ch cartref a ddefnyddir gennych i warchod plant.

Gallwch gysylltu â'ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol i gael cyngor ond ni fydd yn gallu cynnal eich asesiad risgiau tân ar eich rhan. Hefyd, ni ddylai fod angen i chi gyflogi arbenigwr i gynnal eich asesiad risgiau tân ychwaith; ni fydd y risg mewn lleoliad gwarchod plant nodweddiadol yn ddigon mawr i gyfiawnhau'r gost.

Mae'r canllawiau yn rhoi gwybodaeth am y ffordd orau o leihau risgiau tân yn eich cartref ac yn ymdrin â llwybrau dianc, cynlluniau dianc rhag tân, larymau mwg, mannau cysgu a rhagofalon cyffredinol eraill. Bydd y camau y dylech eu cymryd yn dibynnu ar amgylchiadau penodol eich cartref, y bobl sy'n byw yno a'r plant rydych yn gofalu amdanynt. Fel arfer, nid yw cyfraith diogelwch tân yn ei gwneud yn ofynnol i bobl gymryd camau penodol ym mhob achos; mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n gyfrifol am safleoedd i nodi'r mesurau sy'n briodol ar gyfer y safleoedd hynny a'r gweithgarwch a gynhelir yno, a'u rhoi ar waith. Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu yn hynny o beth. Pan ddywedwn “dylech…” rydym yn cyfeirio at y ffyrdd gorau o sicrhau diogelwch tân yn ein barn ni. Fodd bynnag, cyngor yn unig ydyw; nid yw'n ofyniad cyfreithiol ac ni ddisgwylir i chi wneud newidiadau mawr i'ch eiddo.  Weithiau, bydd y canllawiau yn disgrifio gofyniad cyfreithiol pendant y mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag ef; a dywedwn “mae'n rhaid i chi…” mewn achosion o'r fath.

Awgrymiadau neu ystyriaethau yn unig yw'r enghreifftiau a ddangosir yn y blychau ‘sylwadau’, y gallwch eu hystyried wrth gwblhau'r ffurflen asesu risg. Efallai na fyddant yn briodol ym mhob achos. Dylai'r sylwadau rydych yn eu cynnwys yn eich asesiad fod yn seiliedig ar y mesurau diogelwch tân sydd ar waith gennych yn eich cartref.

Os bydd angen rhagor o gyngor ar ddiogelwch tân arnoch, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol. Os ydych yn ymgymryd ag unrhyw waith i sicrhau bod eich safle yn cyrraedd y safon ofynnol, dylech wneud yn siŵr y caiff ei wneud gan rywun cymwys.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r hyn y mae AGC yn ei ddisgwyl gennych, cysylltwch ag AGC i gael cyngor.

Asesiad risgiau tân

Fel gwarchodwr plant, dylech geisio diogelu unrhyw un ar eich safle rhag y niwed a achosir o ganlyniad i dân.

Mae cynnal asesiad risgiau tân yn rhan hollbwysig o ddiogelwch tân cyffredinol eich eiddo. Mae'n hanfodol bod yr asesiad risg a gynhelir gennych yn benodol i ddiogelwch tân yn eich cartref. Ni fydd asesiad risg cyffredinol yn ddigon.

Beth yw asesiad risgiau tân

Mae asesiad risgiau tân yn ffordd drefnus a methodolegol o asesu eich eiddo er mwyn gweld lle y gallai tân ddigwydd o bosibl, a'r niwed y gallai ei achosi i'r bobl yn eich eiddo. Dylech edrych ar eich mesurau diogelwch tân presennol er mwyn penderfynu a ydynt yn ddigon da neu a oes angen gwneud mwy i leihau'r risg o niwed o ganlyniad i dân. Nid yw'n ddigon i chi gynnal eich asesiad unwaith ac yna anghofio amdano mae'n rhaid i chi ei adolygu'n rheolaidd a'i ddiweddaru. Mae hynny'n arbennig o bwysig os bydd amgylchiadau yn newid, er enghraifft os byddwch yn dechrau gofalu am blant iau neu blant sydd ag anableddau y bydd angen mwy o gymorth arnynt o bosibl yn achos tân, neu os gwneir newidiadau i'r rhannau o'ch cartref a ddefnyddir gennych i warchod plant.

Mae templed ar gyfer asesiad risgiau tân a gynhyrchwyd mewn ymgynghoriad ag AGC i'w ddefnyddio gan warchodwyr plant. (Mae templedi asesu risgiau tân eraill ar gael.)

Gallwch lawrlwytho a llenwi'r ffurflen ar-lein. Fel arall gallwch gael gafael arni ar wefan AGC.

Nid taflen ateb ie neu nage syml yw asesiad risgiau tân; mae'n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â phob un o'r cwestiynau yn y blychau sylwadau er mwyn rhoi darlun cyffredinol o'r mesurau diogelwch tân sydd ar waith yn eich eiddo.

Ceir enghreifftiau o sut i gwblhau pob cwestiwn ar y templed ynghyd â'r nodiadau canllaw canlynol yn Atodiad A.

Disgrifiad o'ch eiddo

Bydd yr wybodaeth a roddwch yn yr adran hon yn helpu i roi trosolwg o'ch cartref a bydd yn eich helpu i benderfynu a yw eich mesurau diogelwch tân presennol yn ddigon da neu a oes angen gwneud mwy i leihau'r risg o niwed o ganlyniad i dân. Er enghraifft, bydd y mesurau sydd eu hangen mewn byngalo yn wahanol i'r hyn sy'n ofynnol mewn tŷ deulawr neu dŷ tri llawr.

Felly, dylech roi rhai manylion sylfaenol am y math o eiddo rydych yn byw ynddo, er enghraifft ai byngalo, fflat, tŷ sengl neu dŷ teras ydyw a nifer y lloriau a'r ystafelloedd gwely sydd ynddo. 

Deiliaid y cartref, amseroedd gwarchod plant a'r ardaloedd i blant

Bydd yr wybodaeth hon yn rhoi trosolwg o nifer y bobl a'r math o bobl yn eich cartref ac yn nodi unrhyw un a all wynebu mwy o risg os bydd tân. Er enghraifft, efallai y bydd yn fwy anodd i rywun ag anabledd adael eich cartref os bydd tân. Os byddwch yn nodi unrhyw un a all, yn eich barn chi, wynebu mwy o risg os bydd tân yna gallwch asesu pa fesurau y dylech eu rhoi ar waith i'w helpu os bydd tân.

Felly, dylech roi rhai manylion sylfaenol am:

  • nifer y bobl sy'n byw'n barhaol yn eich eiddo
  • nifer yr oedolion a nifer y plant (o dan 18 oed)
  • pryd y byddwch yn gwarchod plant
  • faint o blant y byddwch yn gofalu amdanynt
  • pha rannau o'ch eiddo rydych yn bwriadu eu defnyddio i warchod plant (yr ardaloedd i blant).

Os ydych yn bwriadu darparu gofal dros nos, mae'n rhaid i chi hysbysu AGC a chael cadarnhad gan AGC fod y trefniadau rydych wedi'u rhoi ar waith i fodloni'r meini prawf ychwanegol ar gyfer gofal dros nos fel y'u nodwyd yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn ymddangos yn foddhaol. (Gallwch hysbysu AGC drwy gyflwyno Datganiad o Ddiben diwygiedig sy'n cynnwys manylion y gofal dros nos rydych yn bwriadu ei ddarparu.)

Ffordd o ddianc

Mae'r adran hon yn ystyried sut y byddwch chi, eich teulu a'r plant rydych yn gofalu amdanynt yn dianc o'r eiddo os bydd tân.

Os bydd tân yn eich cartref, dylech bob amser fynd allan, aros allan, ffonio 999 a gofyn am y frigâd dân. Ni ddylech geisio diffodd y tân eich hun, boed hynny drwy ddefnyddio blanced dân, diffoddydd tân neu unrhyw beth arall.  Byddai'n hawdd iawn peryglu eich hun ac eraill os byddech yn gwneud hynny. Mae'n dilyn nad oes angen i chi gadw blanced dân yn eich eiddo mwyach.

Cynllun dianc rhag tân

Beth yw cynllun dianc rhag tân?

Yn syml, mae'n gynllun a allai achub eich bywyd mewn argyfwng. Mewn awyrgylch myglyd a brawychus, mae'n hawdd rhewi, mynd i banig a drysu. Drwy gynllunio ac ymarfer sut y byddwch yn dianc gyda'r holl deulu a'r plant rydych yn gofalu amdanynt, gallwch fod yn fwy hyderus y byddwch yn dianc yn ddiogel.

Dylai pob cynllun dianc olygu y gall pawb adael y tŷ yn gyflym ac yn ddiogel, ac ymgynnull mewn man diogel y tu allan. Yn ddelfrydol, dylai hyn fod o flaen y tŷ, lle y gall y gwasanaethau brys helpu pawb yn hawdd os oes angen.

Ni ddylech byth fynd yn ôl i mewn i adeilad sydd ar dân am unrhyw reswm, hyd yn oed i achub plant sydd heb ddod allan. Dylid bob amser adael i swyddogion tân proffesiynol wneud hynny, a dylai eich cynllun dianc bwysleisio hynny.

Dylech lunio eich cynllun gyda'ch gilydd, gan sicrhau bod yr holl blant ar yr aelwyd, gan gynnwys y rhai rydych yn gofalu amdanynt, yn gwybod beth yw'r cynllun a beth i'w wneud os bydd tân, er mor annhebygol. Dylech roi cyfle i'r plant fod yn rhan o'r gwaith cynllunio; pan fyddwch yn dechrau gofalu am unrhyw blant newydd, dylech fwrw golwg dros y cynllun a gadael iddynt helpu gyda'r cynllun.

Cynllun dianc rhag tân sy'n cael ei ymarfer yw'r ffordd orau o addysgu plant i fod yn ddiogel yn achos tân. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dangos i'r plant beth i'w wneud fel na fyddant yn cynhyrfu pan fydd angen iddynt ddilyn y cynllun. 

Dylai'r cynllun fod yn seiliedig ar gynllun eich tŷ a dylid gwneud trefniadau arbennig i ystyried unrhyw blant bach, babanod ac unrhyw un ag anabledd.

Mae ymchwil wedi dangos bod plant yn cysgu'n drymach nag oedolion, felly efallai na fyddai'r larwm tân yn eu deffro. Am y rheswm hwnnw, bydd angen i chi ystyried hyn fel rhan o'ch cynllun dianc oherwydd mae'n bosibl y bydd y plant yn dal i gysgu'n drwm ac efallai y byddant yn cael braw os byddant yn cael eu deffro, gan olygu bod angen mwy o amser i ddianc.

Dangoswch eich llwybrau dianc i bawb, a chytunwch ar fan i bawb fynd yno os bydd tân, y tu allan i flaen y tŷ ar y ffordd os oes modd. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw lwybr yn rhydd o rwystrau; bydd angen i chi allu dilyn y llwybr yn y tywyllwch ac, o bosibl, mewn amgylchedd llawn mwg hefyd.

Os ydych yn darparu gofal dros nos, yna bydd angen i chi gynnwys eich trefn gyda'r nos yn y cynllun dianc rhag tân.

Cofiwch, dylid bob amser ffonio'r gwasanaeth tân ac achub yn ddi-oed, ni waeth pa mor fach yw'r tân.

Ymarferion tân

Profwch eich cynllun dianc rhag tân. Dylech ymarfer eich cynllun dianc rhag tân yn rheolaidd er mwyn iddo ddod yn ail natur, sy'n golygu y bydd plant yn llai tebygol o fynd i banig mewn argyfwng. Os yw plentyn wedi cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio ac ymarfer cynllun dianc rhag tân, mae'n fwy tebygol o ddianc o dŷ'n ddiogel.

Os ydych yn darparu gofal dros nos, dylech ymarfer eich cynllun dianc rhag tân yn ystod y dydd a'r nos.

Rhowch gyfle i'r plant feistroli'r gwaith o gynllunio dianc rhag tân a'i ymarfer cyn cynnal ymarfer tân yn ystod y nos pan fyddant yn cysgu. Y nod yw ymarfer, nid codi braw, felly gall dweud wrth y plant y bydd ymarfer cyn iddynt fynd i'r gwely fod mor effeithiol ag ymarfer annisgwyl.

Dylech ymarfer eich cynllun yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod bob amser yn ffres ym meddwl pawb, yn enwedig pan fyddwch yn gofalu am blant newydd.

Dylech gofnodi'r dyddiad a'r amser a gymerwyd i adael yr eiddo. Nid oes angen cofnodi ymarferion tân mewn unrhyw fformat penodol.  Gellid gwneud hyn fod ar ffurf llyfr nodiadau syml lle rydych yn cofnodi'r ymarferion a gynhaliwyd, neu drwy ddefnyddio cofnod electronig. Pa ddull bynnag a ddefnyddiwch, dylai fod modd cael gafael arno'n hawdd.

Llwybrau dianc

Fel arfer, mae'r llwybrau dianc o dai unllawr neu ddeulawr yn syml. Nid oes angen gwneud fawr ddim ond sicrhau bod pob ystafell a ddefnyddir i warchod plant (yr ardaloedd i blant) yn agor yn uniongyrchol i mewn i gyntedd neu risiau sy'n arwain at fynedfa'r tŷ neu'r fflat, neu fod ffenestr neu ddrws y gellir dianc drwyddi neu drwyddo.

Bydd gan y rhan fwyaf o dai a fflatiau a adeiladwyd yn yr ugain mlynedd diwethaf gynllun addas, ar yr amod nad oes unrhyw addasiadau heb eu hawdurdodi wedi cael eu gwneud, oherwydd byddant wedi'u hadeiladu'n unol â safonau adeiladu modern. Gall tai a fflatiau hŷn fod yn addas o hyd ond bydd angen rhoi mwy o ystyriaeth i'r ardaloedd lle mae plant yn cael gofal.

Cynllun

Weithiau, oherwydd cynllun eich eiddo, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd drwy un ystafell i gyrraedd yr ystafell lle mae'r plant.

Os oes rhaid i chi fynd drwy ystafell arall cyn i chi allu cyrraedd y cyntedd neu'r grisiau, mae hynny'n cynyddu'r risg o gael eich dal gan dân ac fel arfer bydd angen larwm mwg yn yr ystafell sydd drws nesaf i'r cyntedd neu'r grisiau. Ni ddylech byth orfod mynd drwy ddwy ystafell i gyrraedd y cyntedd na'r grisiau.

Llwybrau clir

Er mwyn sicrhau y gallwch chi, eich teulu ac unrhyw blant rydych yn gofalu amdanynt ddianc yn ddiogel o'ch eiddo, ni ddylech byth storio pethau fel cadeiriau gwthio ac ati yn y cyntedd nac wrth ymyl grisiau. Gallai unrhyw eitemau, ni waeth pa mor fach, eich rhwystro rhag dianc mewn argyfwng.

Cau drysau allanfeydd

Fel arfer, dylai fod modd i oedolion agor pob allanfa yn hawdd, heb ddefnyddio allwedd yn ddelfrydol. Os yw plant yn debygol o fod yn gallu cyrraedd y ddolen ac y gallai fod yn beryglus iddynt y tu allan, yna gall bollt syml ar lefel uwch fod yn dderbyniol.

Pan fyddwch yn gwarchod plant, dylai fod modd i oedolyn agor y drysau i unrhyw allanfa olaf megis drws ffrynt, drws cefn ac ati, lle y bo'n ymarferol, o'r tu mewn heb orfod defnyddio allwedd (er enghraifft, defnyddio dolen, bwcl tro (clo rydych yn ei droi) neu rywbeth tebyg). At ddibenion diogelwch, efallai y bydd gennych gadwyn ddiogelwch. Dyma'r safon ddymunol; fodd bynnag, nid yw'n bosibl gosod byclau tro na dyfeisiau diogelwch eraill ar rai drysau modern. Lle nad yw hyn yn ymarferol, neu lle mae math gwahanol o glo yn ei le, dylid cadw allwedd mewn man diogel yn agos i'r allanfa y mae'n hawdd i bob oedolyn gael gafael arno, neu dylai pob oedolyn sy'n bresennol bob amser gario allwedd i'r drws.

Os oes unrhyw allanfa yn eich cartref yn arwain at ardd neu iard gaeedig sy'n llai na 10m o hyd ac nad yw'n rhoi mynediad i ffordd na lôn gefn, yna nid ystyrir bod hyn yn lle diogel addas.

Os oes unrhyw allanfa yn eich cartref yn arwain at ardd neu iard gaeedig, yna lle y bo modd, dylai'r ardal hon gynnwys drws neu giât y gallwch ddianc drwyddo neu drwyddi. Os nad yw hyn yn bosibl, yna dylai fod modd i bobl ddianc i fan sydd o leiaf 10 metr i ffwrdd o'r adeilad.

Llwybrau dianc wedi'u diogelu

Pan fydd rhywun yn cyfeirio at ddiogelwch tân yn eich cartref, mae'n golygu'r waliau, y rhaniadau a'r drysau sy'n ffurfio rhwystr ffisegol rhwng ystafelloedd eich cartref a'r llwybr dianc mewnol, er enghraifft grisiau, coridorau a'r cyntedd. Bydd y rhwystr hwn yn gallu gwrthsefyll tân i ryw raddau, a fydd yn cyfyngu ar ledaeniad tân, gwres a mwg i mewn i'r llwybr dianc, ac yn diogelu pobl tra byddant yn dianc.

Dylai waliau allu gwrthsefyll tân am 30 munud (bydd wal draddodiadol yn y rhan fwyaf o fathau o eiddo yn gallu gwrthsefyll tân am 30 munud). Dylai drysau i ystafelloedd y mae'n rhaid i chi fynd drwyddynt i adael eich eiddo, ac eithrio ystafelloedd ymolchi a thoiledau, allu gwrthsefyll tân am 20 munud. Rhoddir yr wybodaeth hon fel canllaw yn unig er mwyn eich helpu i gynllunio ni ddisgwylir i chi wneud newidiadau mawr i'ch eiddo.

Mae mathau a steiliau amrywiol o ddrysau mewnol mewn eiddo; er enghraifft, drysau pren solet, rhai gwydr llawn, rhai hanner gwydr a rhai ysgafn sy'n wag oddi mewn iddynt. Bydd pob drws yn diogelu rhag tân i ryw raddau, yn dibynnu ar y math o ddrws ac a yw ar gau neu ar agor.

Mae mathau penodol o ddrysau'n cael eu galw'n ddrysau tân. Mae drysau tân wedi'u dylunio'n arbennig i atal lledaeniad tân a mwg am o leiaf 30 munud. Maent hefyd yn gallu cau ar eu pen eu hunain y tu ôl i chi.

Diben ‘drws tân’ yw diogelu eich llwybr dianc a'i gwneud yn bosibl i chi a phawb yn yr eiddo ddianc cyn i chi gael eich atal rhag defnyddio'ch llwybr dianc oherwydd tân a mwg.

Gall drws pren solet sy'n cau'n dynn i mewn i'r ffrâm drws hefyd ddiogelu'ch llwybr dianc yn ddigon hir i alluogi pawb yn yr eiddo i ddianc, os yw ar gau.

Bydd y math o ddiogelwch tân sydd ei angen i ddiogelu eich llwybrau dianc yn dibynnu ar y mannau lle rydych yn gwarchod plant. Bydd nifer y larymau mwg a'r larymau gwres a osodir, eu lleoliad a'r mathau a osodir hefyd yn pennu lefel y gallu i wrthsefyll tân sydd ei hangen.

Weithiau gall fod yn haws ac yn fwy costeffeithiol ychwanegu rhagor o larymau mwg na newid drysau i ystafelloedd. Am ragor o gyngor, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol.

Os oes system chwistrellu wedi'i gosod drwy'ch cartref cyfan, fel ym mhob cartref newydd a adeiladwyd yng Nghymru ers 2016, yna ni fydd angen llwybr dianc wedi'i ddiogelu cymaint,  a hynny am fod systemau chwistrellu yn gallu diffodd neu reoli tanau fel arfer cyn iddynt ymledu gan roi mwy o amser i chi, eich teulu ac unrhyw blant rydych yn gofalu amdanynt ddianc yn ddiogel.

Grisiau a dihangfa dâno'r lloriau uchaf

Os ydych yn bwriadu defnyddio lloriau uchaf eich eiddo at ddibenion gwarchod plant h.y. cysgu yn ystod y dydd neu dros nos, mae'n rhaid i chi ystyried sut rydych yn mynd i allu dianc pe bai tân ar y lloriau islaw. Fel rheol, mae dwy ffordd o ddianc o loriau uchaf os bydd tân; drwy'r grisiau neu ddefnyddio ffenestr argyfwng trafodir y naill a'r llall isod.

Weithiau, yn ystod y dydd, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio ystafelloedd megis ystafelloedd ymolchi ar y lloriau uchaf er bod y plant yn cael eu gwarchod ar y llawr daear yn bennaf. Ar yr adegau hyn, byddwch yn effro ac yn ymwybodol bod eich larwm tân yn seinio a dylai fod digon o amser i chi adael y llawr uchaf cyn i chi gael eich atal rhag defnyddio'ch llwybr dianc.

Grisiau

Ym mhob eiddo lle mae mwy nag un llawr, bydd grisiau i'ch galluogi i gyrraedd y lloriau eraill a byddant yn ffurfio rhan o'r llwybr dianc o'r lloriau hyn. Weithiau, bydd y grisiau mewn eiddo wedi'u ‘diogelu’ (wedi'u hamgáu â rhwystr ffisegol) h.y. ni fydd angen i chi fynd drwy neu i mewn i ystafell arall i gyrraedd eich drws ffrynt, neu fel arall efallai fod eich eiddo yn un cynllun agored lle y bydd yn rhaid i chi fynd drwy neu i mewn i ystafell arall i gyrraedd eich drws ffrynt h.y. grisiau ‘agored’.

Grisiau (amgaeedig) wedi'u diogelu

Mae grisiau wedi'u diogelu yn arwain yn uniongyrchol at y drws ffrynt heb orfod mynd drwy ddrws arall nac ystafell arall heblaw cyntedd neu landin, ac maent wedi'u hamgáu gan rwystr ffisegol rhwng ystafelloedd eich cartref h.y. waliau, rhaniadau a drysau a fydd yn atal ymlediad tân, gwres a mwg i mewn i'r llwybr dianc i ryw raddau. Mae grisiau wedi'u diogelu wedi cael eu cynllunio i gynnig llwybr ‘diogel rhag tân’ (wedi'i ddiogelu) i chi a'ch teulu ddianc o'ch eiddo heb orfod rhuthro.

Grisiau agored

Weithiau, nid yw'r grisiau mewn eiddo yn arwain yn uniongyrchol at y drws ffrynt heb fod yn rhaid mynd drwy ddrws arall neu ystafell arall heblaw cyntedd neu landin, felly ni fydd yn cynnig llwybr (wedi'i ddiogelu) ‘diogel rhag tân’ i chi a'ch teulu ddianc o'ch eiddo. Felly, efallai y bydd angen i chi roi rhai mesurau ychwanegol ar waith er mwyn sicrhau y gallwch ddianc yn ddiogel o'r lloriau uchaf os bydd tân, megis:

  • Larymau mwg wedi'u cydgysylltu ym mhob ystafell.
  • Ffenestri dianc mewn argyfwng mewn ystafelloedd gwely ar y llawr cyntaf neu mewn ystafelloedd ar y llawr daear isaf.
  • System chwistrellu drwy'r eiddo cyfan

Ffenestri dianc

Dim ond mewn argyfwng ac yn niffyg popeth arall y dylid byth ystyried defnyddio ffenestri i ddianc; ni ddylent fod yn rhan o'ch cynllun dianc rhag tân arferol.

Fodd bynnag, gellir ystyried ffenestri dianc fel llwybr dianc amgen o'r llawr cyntaf mewn cynllun dianc rhag tân, er mwyn cynnig ail lwybr mewn argyfwng (dim ond os nad yw'ch cynllun dianc cyntaf yn bosibl). Pe baech yn cael eich dal ar lawr uchaf, gallwch ddefnyddio'r ffenestr i alw am gymorth neu er mwyn cael awyr iach tra byddwch yn aros i gael eich achub. Os bydd yr amodau yn yr ystafell yn gwaethygu, er enghraifft mae mwg yn dechrau dod i mewn neu mae'n mynd yn rhy boeth, yna gallech ddefnyddio'r ffenestr i ddianc. Oni bai bod y ffenestr yn eich galluogi i gyrraedd to estyniad neu adeilad allan, byddai hyn yn golygu eich bod yn gostwng eich hun i lefel y llawr daear, sy'n golygu rhywfaint o risg a dim ond yn niffyg popeth arall y dylid ei ystyried.

Os oes gennych blant ifanc, neu rydych yn gofalu am blant ifanc, yna ni ddylai fod modd iddynt agor ffenestr heb fod oedolyn yn bresennol.  Mae'n rhaid i chi ystyried diogelwch unrhyw blant a all fynd i mewn i ystafelloedd lle mae ffenestr ddianc, gall cloeon neu ddyfeisiau cyfyngu ar y ffenestr helpu yn hyn o beth. Os ydych yn gosod cloeon, mae'n rhaid bod modd i bob oedolyn sy'n bresennol gael gafael ar allwedd i'r ffenestri yn hawdd pan fo argyfwng.

Mae'n rhaid i ffenestri dianc gynnwys arwynebedd y gellir ei agor o 0.33m2 o leiaf a rhaid i bob ochr fod o leiaf 450mm o hyd. Ni ddylai'r agoriad fod yn fwy na 1100mm uwchlaw lefel y llawr. Dylai pob ffenestr fodern sydd wedi'i gosod ar loriau uchaf gyrraedd y safonau hyn eisoes.

Y drefn gyda'r nos

Rydych yn fwy agored i risg tân pan fyddwch yn cysgu, ac mae llawer o danau yn y cartref yn dechrau yn ystod y nos. Os byddwch yn gwarchod plant dros nos yn eich eiddo, dylech gyflwyno trefn diogelwch tân yn ystod y nos er mwyn helpu i'ch cadw chi, eich teulu ac unrhyw blant rydych yn gofalu amdanynt yn ddiogel.

Dylai trefn diogelwch tân yn ystod y nos gynnwys y canlynol:

  • Dylid cau pob drws mewnol er mwyn atal mwg rhag lledaenu os bydd tân yn dechrau
  • Dylid diffodd offer trydanol a thynnu'r plwg, oni ddylid eu gadael ymlaen megis oergelloedd a rhewgelloedd
  • Dylech wneud yn siŵr bod eich ffwrn wedi'i diffodd
  • Peidiwch â mynd i gysgu os yw'r peiriant golchi dillad, y peiriant sychu dillad neu'r peiriant golchi llestri ymlaen
  • Gwnewch yn siŵr bod pob gwresogydd wedi'i ddiffodd (nid yw hyn yn cynnwys gwres canolog)
  • Peidiwch â gadael ffonau symudol, llechi nac e-sigaréts yn gwefru dros nos
  • Gwnewch yn siŵr bod pob llwybr dianc yn glir
  • Cadwch allweddi drysau a ffenestri lle y gall pawb ddod o hyd iddynt
  • Ewch â'ch ffôn symudol gyda chi a gwnewch yn siŵr bod allweddi wedi'u storio mewn man priodol fel y gallwch ddianc os bydd tân 
  • Gwnewch yn siŵr bod cymhorthion symud wrth law i'r rhai y mae eu hangen arnynt

Ni ddylech ofalu am blant dros nos nes eich bod wedi hysbysu AGC ac wedi cael cadarnhad gan AGC fod y trefniadau rydych wedi'u rhoi ar waith i fodloni'r meini prawf ychwanegol ar gyfer gofal dros nos fel y'u nodwyd yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn ymddangos yn foddhaol. Byddwch yn hysbysu AGC drwy gyflwyno Datganiad o Ddiben diwygiedig sy'n cynnwys manylion y gofal dros nos rydych yn bwriadu ei ddarparu.

Lleihau'r risg o dân

Fel rhan o'ch Asesiad Risgiau Tân, dylech asesu beth sy'n gallu achosi tân yn eich cartref a beth y gallwch ei wneud, neu beth rydych eisoes wedi'i wneud i ddileu neu leihau'r risg.

Ymhlith y pethau mwyaf cyffredin sy'n achosi tân yn y cartref mae:

  • Offer smygu megis sigaréts, matsis a thanwyr sigaréts
  • Fflamau noeth megis canhwyllau a goleuadau te
  • Gwresogyddion symudol
  • Tanau agored
  • Cyfarpar trydanol

Offer smygu megis sigaréts, matsis a thanwyr sigaréts

Yn unol â'r gofynion deddfwriaethol ynglŷn â mangreoedd di-fwg yng Nghymru, fel rhan o'ch cofrestriad ag AGC mae'n ofynnol sicrhau nad oes neb yn smygu ym mhresenoldeb plant sy'n derbyn gofal neu sydd ar safle lle mae gofal dydd yn cael ei ddarparu. 

Mae'n rhaid cadw sigaréts, tanwyr sigaréts a matsis allan o'r golwg, allan o gyrraedd ac, yn ddelfrydol, mewn cabinet dan glo i ffwrdd o'r plant bob amser. Mae offer smygu yn bethau hynod ddiddorol i'r rhan fwyaf o blant sydd am ddynwared oedolion o bosibl neu chwarae â sigaréts, tanwyr sigaréts neu fatsis.

Cofiwch: cadwch bopeth a all achosi tân allan o gyrraedd plant.

Fflamau noeth megis canhwyllau a goleuadau te

Ni ddylid defnyddio canhwyllau na goleuadau te pan fyddwch yn gwarchod plant; yr unig eithriad yw canhwyllau bach ar deisen pen-blwydd.

Gwresogyddion symudol

Nid yw gwresogyddion symudol heblaw am reiddiaduron trydanol sy'n defnyddio olew yn fathau diogel o wresogi ar gyfer gweithgareddau gwarchod plant a dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylid eu defnyddio, er enghraifft os bydd y system wresogi wedi torri i lawr. Pan fydd hynny'n digwydd, dylai'r gwresogydd gael ei roi'n sownd mewn lleoliad diogel ac addas i ffwrdd o ddeunyddiau llosgadwy a dylid gosod giard atal plant o'i amgylch. Ni ddylid ei osod ar lwybrau dianc.

Tanau agored

Dylid gosod giard atal plant sylweddol yn sownd o flaen tanau agored ac unrhyw wresogydd lle y gallai tymheredd ei arwyneb anafu plentyn sy'n dod i gysylltiad ag ef (fel stôf llosgi pren). Ni ddylai unrhyw ran o'r giard fod yn agosach na 200mm i'r ffynhonnell gwres neu, fel arall, gall y giard fynd yn beryglus o boeth.

Cyfarpar trydanol

Argymhellir bod trydanwr cymwysedig yn cynnal archwiliad gwifrau trydanol yn eich cartref bob 10 mlynedd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cyrraedd safon y DU ar gyfer diogelwch gosodiadau trydanol. 

  • Ni ddylai fod unrhyw broblemau amlwg yn y system gwifro trydanol.
  • Dylai socedi a switshys fod wedi'u gosod yn sownd wrth y wal.
  • Ni ddylid gorlwytho socedi â gormod o blygiau. Os byddwch yn gwneud hynny, yna gall y cylchedwaith trydanol fynd yn boeth, a all, yn hawdd, achosi tân difrifol. Felly, dim ond un plwg fesul soced y dylech ei ddefnyddio os oes modd.
  • Dylech osgoi defnyddio ceblau estyniad â sawl soced os oes modd. Fodd bynnag, os nad oes unrhyw ddewis arall, dylech ofalu nad ydynt yn cael eu gorlwytho a dylech gadw'r ceblau allan o'r golwg ac allan o gyrraedd plant. Ni ddylech ddefnyddio addaswyr ar gyfer mwy nag un plwg (sy'n ei gwneud yn bosibl i fwy nag un darn o gyfarpar gael ei blygio i mewn yn uniongyrchol i'r un soced wal) o gwbl.
  • Os byddwch yn defnyddio ceblau estyniad â sawl soced, ni ddylid mynd dros yr uchafswm gradd cerrynt. Ar gyfer cebl estyniad â phedwar soced â ffiws 13 amp, mae hynny'n golygu defnyddio dyfeisiau bach yn unig fel goleuadau neu wefrwyr ffôn sy'n defnyddio 3 amp yr un ar y mwyaf. Mae cyfarpar sy'n cynhyrchu gwres, fel haearn smwddio neu degell, yn defnyddio llawer mwy na 3 amp, sydd hefyd yn wir am y mwyafrif o gyfarpar mawr fel peiriannau golchi dillad; ni ddylid byth eu plygio i mewn i geblau estyniad ar yr un pryd ag unrhyw beth arall.
  • Mewn unrhyw ystafelloedd a ddefnyddir gan y plant, dylai socedi trydanol fod yn rhai dan gaead er mwyn atal plant rhag gwthio unrhyw beth, gan gynnwys eu bysedd, i mewn i'r socedi. Sylwch mai socedi dan gaead ddylai gael eu gosod yn gyffredinol yn y rhan fwyaf o gartrefi. Dim ond os yw eich cartref a'i osodiad trydanol yn hen iawn y mae hynny'n annhebygol, ac os felly gallwch osod gorchuddion diogelwch rhad yn lle hynny. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, fodd bynnag, dylech ymgynghori â thrydanwr cymwys.
  • Gwnewch yn siŵr bod unrhyw gyfarpar trydanol megis setiau teledu a chyfrifiaduron yn ystafelloedd y plant yn cael eu diffodd yn ystod y nos.
  • Ni ddylai cordiau na phlygiau cyfarpar trydanol fod yn llac nac wedi'u difrodi.
  • Ni ddylid rhedeg ceblau trydanol o dan garpedi na dodrefn trwm.
  • Os bydd angen gosod plwg neu ffiws newydd ar gyfer darn o gyfarpar, dylech bob amser ddefnyddio ffiws â'r radd gywir. Eitemau nad ydynt yn cynhyrchu gwres (e.e. lampau bwrdd, radios, setiau teledu, cyfrifiaduron a'r mwyafrif o oergelloedd a rhewgelloedd) ffiws 3 amp (coch). Pob math arall o gyfarpar, yn enwedig y rhai sy'n cynhyrchu gwres ffiws 13 amp (brown)

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyfrifo uchafswm y sgôr gyfredol ar gyfer addasyddion lluosog a socedi estynedig a chyngor diogelwch tân trydanol arall ar gael

Dylid archwilio cyfarpar yn rheolaidd er mwyn gweld a oes arwyddion o ddifrod:

  • arogl plastig poeth neu arogl llosgi wrth ymyl cyfarpar neu soced
  • gwreichion neu fwg yn dod o blwg neu gyfarpar
  • marciau du neu farciau llosgi o amgylch soced neu blwg, neu ar gyfarpar
  • ceblau wedi'u difrodi neu wedi treulio
  • gwifren liw y tu mewn i geblau i'w gweld wrth ymyl y plwg neu mewn man arall
  • plastig wedi toddi ar gasin neu geblau cyfarpar
  • ffiwsiau sy'n chwythu neu dorwyr cylchedau sy'n gweithredu heb reswm amlwg

Larwm tân

Mae system larwm tân, h.y. larymau mwg a gwres, yn rhoi rhybudd cynnar am dân a dylent bob amser gael eu gosod a'u gweithredu mewn mannau a ddefnyddir i warchod plant. Bydd larymau mwg a gwres yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o dân yn eich cartref cyn gynted â phosibl, gan roi cyfle i chi adael gwagio eich cartref yn ddiogel. Bydd nifer y larymau mwg a neu larymau gwres y bydd angen i chi eu gosod, a'u lleoliad, yn dibynnu ar ba mor fawr yw eich tŷ a'i gynllun, ac a ydych yn darparu lle i gysgu dros nos.

Argymhellir yn gryf y dylai system larwm tân sy'n cael ei phweru gan y prif gyflenwad trydan, ynghyd â chyflenwad pŵer wrth gefn (batri y tu mewn i bob un o'r larymau) rhag ofn y bydd toriad yn y prif gyflenwad tân), gael ei gosod ym mhob eiddo lle y gwarchodir plant. 

Larwm mwg neu larwm gwres: beth yw'r gwahaniaeth?

Mae larymau mwg yn seinio rhybudd pan fyddant yn canfod mwg ond gallant fod yn eithaf sensitif i fygdarth coginio ac ager hefyd. Felly, dylent gael eu gosod ym mhob ystafell lle y gallai tân ddechrau ac eithrio ystafelloedd lle ceir mwg neu ager fel eich cegin.

Dim ond pan fydd y tymheredd mewn ystafell yn cyrraedd lefel benodol a achosir gan dân y bydd larymau gwres yn seinio rhybudd. Mae larymau gwres yn fwy addas ar gyfer ceginau am na fydd mygdarth coginio yn effeithio arnynt, gan leihau nifer y rhybuddion ffug.

Mae'r ddau fath o larymau yr un mor hawdd eu gosod.

Profion

Dylech brofi pob larwm mwg a neu larwm gwres bob wythnos drwy ddefnyddio'r botwm profi a ddarperir ar bob larwm. Bob chwe mis, dylech lanhau pob larwm mwg a neu larwm gwres drwy ddefnyddio pibell sugnwr llwch yn ysgafn i gael gwared ar unrhyw lwch. Fel rhan o'r prawf wythnosol, dylech wneud yn siŵr y gellir clywed y larwm yn glir ym mhob rhan o'ch cartref pan fydd y drysau ar gau, gan roi sylw arbennig i'r ystafelloedd gwely os ydych yn darparu gofal dros nos.

  • Bydd angen gosod larymau mwg mewn llwybrau dianc, yn y cyntedd a'r grisiau o leiaf fel arfer. Efallai y byddwch am eu gosod yn yr ystafelloedd lle rydych yn gwarchod plant neu lle y gall tân ddechrau e.e. lle mae darnau o gyfarpar trydanol wedi'u plygio i mewn drwy'r amser.
  • Os yw plant yn aros dros nos, dylech hefyd osod larymau mwg yn yr ystafelloedd a ddefnyddir i gysgu. Fel arfer, mae plant yn cysgu'n drymach nag oedolion ac efallai na fydd larwm mwg y tu allan i'r drws yn eu deffro. 
  • Mewn tŷ â mwy nag un llawr lle y gwarchodir plant, dylai fod o leiaf un larwm mwg ar bob llawr.
  • Peidiwch â gosod larymau mwg yn y gegin nac yn agos iawn i'r gegin. Yn hytrach, gosodwch larymau gwres yn y gegin.
  • Os oes gennych fwy nag un larwm, dylech ystyried eu cysylltu â'i gilydd fel y bydd pob un yn seinio rhybudd os bydd unrhyw un ohonynt yn weithredol. (Gall unrhyw drydanwr wneud hyn.)
  • Os ydych yn byw mewn eiddo a gaiff ei rentu, bydd larymau mwg wedi'u gosod eisoes fwy na thebyg. Dylech siarad â'ch landlord am brofi'r larymau hyn.

Crynodeb

Gall tân beri risg ddifrifol i fywyd ac iechyd y plant yn eich gofal, ac i chi a'ch teulu, ond drwy gymryd y camau syml yn y canllawiau hyn gallwch sicrhau bod y lefel o risg mor isel â phosibl. Fel arfer, dim ond deall y risgiau tân yn eich cartref ac, os oes angen, wneud cynlluniau a newid eich trefn feunyddiol yn unol â hynny y bydd angen ichi ei wneud. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol iawn y byddai'n rhaid i chi wneud addasiadau ffisegol i'ch cartref, oherwydd mae tai wedi cael eu hadeiladu'n unol â safonau diogelwch tân cadarn ers amser maith. Hefyd, ni fydd angen ychwaith i chi osod cyfarpar diffodd tân megis blanced dân neu ddiffoddwr tân,  a hynny am na ddylech byth geisio diffodd tân eich hun. Yn hytrach, os bydd tân, dylech gael pawb allan o'r tŷ yn unol â'ch cynllun dianc, ffonio 999 a gofyn am y frigâd dân.

Os bydd angen rhagor o gymorth neu gyngor ar ddiogelwch tân arnoch, yna bydd eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol yn fwy na pharod i'w roi am ddim; rhoddir ei fanylion cyswllt isod. Serch hynny, ni all y gwasanaeth gwblhau'r asesiad risgiau tân ar eich rhan.

Rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt

 

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Rhondda Cynon Taf
  • Merthyr Tudful
  • Caerdydd
  • Bro Morgannwg
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Casnewydd a Sir Fynwy

Ffôn: 01443 232000

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

  • Powys
  • Ceredigion
  • Sir Benfro
  • Sir Gaerfyrddin
  • Abertawe
  • Chastell-nedd Port Talbot

Ffôn: 0370 6060699

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

Ffôn: 01745 535250