Neidio i'r prif gynnwy

Mae Direct Healthcare Services yn mynd i sefydlu canolfan brofi ac ymchwil, y cyntaf o’i math yn Ewrop, er mwyn bodloni’r safonau byd-eang ISO newydd ar gyfer y sector hwn o fewn y farchnad feddygol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r buddsoddiad yn y ganolfan yng Nghaerffili yn cynnwys £50,000 o Gronfa Twf a Ffyniant Llywodraeth Cymru a bydd yn creu deg swydd ac yn diogelu 56 arall.  Mae’r arian, sy’n mynd i helpu i osod cyfarpar a pheiriannau yn y ganolfan, yn rhan o fuddsoddiad gwariant cyfalaf ehangach gan y cwmni o £600,000. 

Mae’r safonau ISO newydd ar gyfer profi matresi a chwrlidau sy’n cael eu defnyddio mewn triniaeth yn cwmpasu’r holl fatresi a ddefnyddir mewn ysbytai gan gynnwys matresi ar drolïau a theatrau yn ogystal â’r matresi sy’n cael eu defnyddio yng nghartrefi cleifion.

Mae disgwyl i’r safonau byd-eang ddod yn weithredol eleni. Un ganolfan brofi sydd i’w chael ar hyn o bryd, a honno yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Direct Healthcare Services (DHS) yn cydweithio â Chanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru i greu’r ganolfan newydd er mwyn sicrhau bod ei holl gynnyrch yn cydymffurfio â’r safonau newydd a thrwy hynny yn sicrhau ei bod yn dal gafael ar ei henw da o fod yn flaengar yn y farchnad. Bydd y ganolfan brofi Ewropeaidd annibynnol hon ar gael i’w defnyddio gan gwmnïau eraill.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

“Stori am lwyddiant Cymru yw DHS. Pan sefydlwyd y cwmni yn 2009, dim ond tri aelod o staff oedd ganddynt. Maent bellach yn cyflogi dros 100 o bobl ac mae’n cyflenwi’r nifer fwyaf o fatresi i’r GIG ac mae’r busnes allforio yn tyfu’n gyflym iawn. Mae ganddynt swyddfa erbyn hyn yn Awstralia.

“Mae arloesi yn greiddiol i lwyddiant DHS ac mae’r prosiect allweddol hwn i ehangu yn mynd i sicrhau ei fod yn parhau i dyfu. Mae DHS yn aelod gwerthfawr o glwstwr Cymreig o gwmnïau gofalu am glwyfau sy’n parhau i dyfu  - is-sector sy’n cael blaenoriaeth ar gyfer gwyddorau bywyd. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r buddsoddiad hwn.”

Ychwanegodd y Gweinidog Sgiliau  a Gwyddoniaeth, Julie James: 

“Mae sector gwyddorau bywyd Cymru wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, yn gwneud yn llawer gwell na’r disgwylar y llwyfan byd-eang. Ni fyddai’r llwyddiant hwn wedi digwydd oni bai am gwmnïau fel Direct Healthcare Services sy’n parhau i arloesi.

“Rydym yn benderfynol o gefnogi twf y sector hwn sy’n bwysig iawn i Gymru o safbwynt economaidd. Mae’r cyhoeddiad hwn gan DHS yn brawf pellach o hynny.”

Dywedodd Graham Ewart, Rheolwr Gyfarwyddwr DHS: 

“Mae DHS wedi addasu’n gynnar i gyfarwyddebau cydymffurfiaeth a rheoleiddio dro ar ôl tro, felly mae synnwyr cyffredin yn dweud y dylem agor canolfan brofi annibynnol a’i gweithredu i sicrhau cydymffurfedd â’r safon newydd ISO fyd-eang. Fel busnes o Gymru rydym yn falch iawn o gael cefnogaeth Llywodraeth Cymru ac ymroddiad ac arbenigedd Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru fel partner gweithredol.”       

DHS yw’r gwneuthurwr sy’n tyfu gyflymaf yn ei faes yn y DU ac mae ganddo ystod eang a chyflawn o gynnyrch ac mae’n meddu ar bortffolio eiddo deallusol eang iawn a enillodd Wobr y Frenhines am Arloesedd yn 2016 a 2017. Mewn partneriaeth â Chanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru, mae wedi datblygu cynnyrch chwyldroadol a newydd. 

Mae safle Canolfan Arloesedd Clwyfau Cymru gerllaw canolfan DHS, a fydd yn galluogi cwsmeriaid o bedwar ban byd i ymweld â’r Ganolfan i weld y ganolfan ymchwil a phrofi ar yr un pryd.

Byddai’n hybu Cymru fel arweinydd byd-eang mewn ymchwil i friwiau pwyso yng Nghanolfan Arloesedd Clwyfau Cymru ac yn y maes o brofi cynnyrch ategol yn DHS.