Rhaglen cymorth cyflogadwyedd: cyfeiriadur o gyflenwyr sydd â diddordeb mewn is-gontractio a chydweithrediad consortia
Sefydliadau sydd wedi mynegi diddordeb mewn cydweithio ar y rhaglen cymorth cyflogadwyedd newydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Er mwyn annog is-gontractio a chydweithrediad consortia, rydym yn cyhoeddi cyfeiriadur o gyflenwyr sydd wedi nodi bod ganddynt ddiddordeb mewn rhannu eu manylion cyswllt at y dibenion hyn. Mae'r cyfeiriadur yn cael ei gyhoeddi fel rhan o grynodeb yr adborth i’r ymgysylltu ynghylch cymorth cyflogadwyedd, ar wefan Llywodraeth Cymru fel y nodir isod: rhaglen cymorth cyflogadwyedd: digwyddiadau ymgysylltu.
Dylai cyflenwyr nad ydynt wedi'u rhestru ar hyn o bryd ond sydd â diddordeb mewn cydweithio ac sy'n dymuno ychwanegu eu manylion cyswllt at y cyfeiriadur anfon e-bost at lywodraeth Cymru cymorth cyflogadwyedd: cymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru.
Rhowch yr wybodaeth ganlynol yn eich e-bost:
- Enw cyswllt.
- Swydd yn y sefydliad (os yw'n berthnasol).
- Cyfeiriad e-bost cyswllt.
- Enw'r sefydliad a chyfeiriad post (os yw'n berthnasol).
Cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd sydd ar ddiwedd y cyfeiriadur hwn i weld sut y bydd Llywodraeth Cymru yn trin eich manylion personol. Mae'n cynnwys gwybodaeth am eich hawliau a'r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch a'r seiliau cyfreithiol dros y modd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth.
Bydd y canllawiau canlynol o ddiddordeb:
Ceisiadau ar y cyd ar gyfer contractau cyhoeddus
Llywodraeth Cymru, canllawiau i gonsortia: ceisiadau ar y cyd am gontractau cyhoeddus: canllawiau i gonsortia.
Cadwyni cyflenwi
Rhaid i delerau ac amodau'r Contract sy'n berthnasol i Gontractwr arweiniol, gan gynnwys y telerau sy'n ymwneud â thaliadau gael eu trosglwyddo i unrhyw isgontractwyr.
Rhaid i'r Cynigydd/Cynigwyr llwyddiannus gyflwyno adroddiad blynyddol yn nodi'r camau y mae'r sefydliad wedi'u cymryd i atal caethwasiaeth a masnachu pobl yn ei gadwyn gyflenwi.
Llywodraeth Cymru, Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer: cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer.
Llywodraeth Cymru, Cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer, arweiniad a hyfforddiant: cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi: cod ymarfer, arweiniad a hyfforddiant.
Cyfeiriadur
Pwrpas rhannu manylion cyswllt yw annog cydweithio ac ehangu cyfranogiad. Gwahoddir cyflenwyr i fynegi diddordeb mewn ffurfio trefniadau is-gontractio a (neu) consortia (gweler rhan 1).
Mae'r canlynol wedi rhoi eu caniatâd i rannu eu manylion cyswllt:
ACT Ltd
Ocean Park House
East Tyndall Street
Cardiff
CF245ET
Matthew Burnett: Head of Operations and Contracts
AlphaPlus Consultancy Ltd
C/o AQA
Devas Street
Manchester
M15 6EX
E-bost: fraser.talbot@aqaglobal.com
Fraser Talbot: Business Development Lead
BFB Labs
127 Farringdon Road
c/o Better Space
London
EC1R 3DA
E-bost: kelly.tham@bfb-labs.com
Kelly Tham: Head of Service Growth and Delivery
Cardiff & Vale College
Dumballs Rd
Cardiff
CF10 5FE
E-bost: jscorey@cavc.ac.uk
James Scorey: Deputy Principal
Case-UK
Suite 1
Triangle Business Park,
Pentrebach
Merthyr Tydfil
CF48 4TQ
Sally Gibbs: Director of Strategy & Growth
Educ8 Training Group
Gateway
Tredomen
Ystrad Mynach
CF72 7EH
E-bost: rebeccae@educ8training.com
Rebecca Engwell: Bids & Tenders Lead
Fedcap Employment Limited
Boaz House
Massey Road
Thornaby
Stockton-On-Tees
TS17 6DY
E-bost: Commercial@fedcap.org.uk
Kirsty Hunn: Commercial Director
HGV Training Services Limited (T/A Insite)
E-bost: Phill.yates@insite.training
Phill Yates: Head of Contracts and Procurement
Maximus UK Services Ltd
18c Meridian East
Meridian Business Park
Leicester
LE19 1WZ
E-bost: jwilliams4@maximusuk.co.uk
Joel Williams
North East Wales Mind
The Wellbeing Centre
21b Chester Street
Mold
CH7 1EG
E-bost: natasha.wait@newmind.org.uk
Natasha Wait: Business Development and Income Generation Manager
Pembrokeshire College
Merlins Bridge
Haverfordwest
SA61 1SZ
E-bost: B.Tyler@pembrokeshire.ac.uk
Berni Tyler: Director of Consortium & Employer Relations
PeoplePlus
The Quorum
Bond Street South
Bristol
BS1 3AE
E-bost: bmb@peopleplus.co.uk
Kelly Reynolds: Director, Employment and Skills, Wales
Reed in Partnership
26 Rushworth Street
London
SE1 0RB
E-bost: philip.duffield@reed.com
Philip Duffield: Bid Director
Scope
Here East Press Centre
14 East Bay Lane
London
E15 2GW
E-bost: leanne.price@scope.org.uk
Leanne Price: Grants Manager
Serco
Suite 1
Ground Floor
Trafalgar House
5 Fitzalan Place
Adamsdown
Cardiff
CF24 0ED
E-bost: david.ward7@serco.com
David Ward: Principal Business Development Lead
Swansea Council
E-bost: Elliott.Williams@swansea.gov.uk
Elliott Williams: Senior Economic Regeneration Manager
MTIB
Unit 4
riangle Business Park
Pentrebach
Merthyr Tydfil
CF48 4TQ
E-bost: petrakennedy@mtib.co.uk
Petra Kennedy: Deputy CEO
Volunteering Matters
The Innovation Centre
Festival Drive
Blaenau Gwent
NP23 8XA
Ryan Crewe-Hands: Partnerships Manager for Wales
Hysbysiad Preifatrwydd Cyfeiriadur o Gyflenwyr sydd â diddordeb mewn Is-gontractio a(neu) Gydweithrediad Consortia
Yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut rydym yn casglu, defnyddio a phrosesu eich data personol yn deg, yn gyfreithlon ac yn dryloyw.
Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol rydych wedi'i ddarparu mewn perthynas â'r cyfeiriadur o gyflenwyr sydd â diddordeb mewn Is-gontractio a (neu) gydweithrediad consortia.
Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Pa ddata personol y byddwn yn ei gasglu a'i brosesu
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at nodwedd adnabod'.
Ar gyfer y Cyfeiriadur hwn byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Enw cyswllt.
- Swydd yn y sefydliad (os yw'n berthnasol).
- Cyfeiriad E-bost Cyswllt.
- Enw'r sefydliad a chyfeiriad post (os yw'n berthnasol).
Sut rydym yn cadw eich data yn ddiogel
Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel yn y DU ac ar gyfer y Cyfeiriadur hwn mae eich data personol yn cael ei storio mewn ffolder sydd wedi’i gyfyngu.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os bydd yn amau tor diogelwch, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Pwy fydd yn cael mynediad at eich data
Llywodraeth Cymru:
Timau gwasanaeth cymorth a'i weinyddwyr technegol ar gyfer systemau sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd gweinyddwyr technegol ar gyfer y systemau yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
Os byddwch yn dewis i’ch manylion gael eu rhannu â sefydliadau eraill yn adran 2 y Cyfeiriadur hwn, yna byddwn yn rhannu eich manylion cyswllt â’r sawl sydd hefyd wedi dewis hynny. Efallai y bydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi gyda hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â'r farchnad a/neu hysbysiad tendro.
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag asiantaeth atal twyll at ddibenion atal twyll ac atal gwyngalchu arian.
Efallai bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil a gwerthuso, gan gynnwys lle mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu contractwr annibynnol at ddibenion gwerthuso'r cynllun a (neu) proses.
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi eich cyfranogiad yn fawr gan fod eich barn a'ch profiadau yn bwysig i lywio gwelliant sefydliadol. Sylwch, efallai y bydd sefydliadau ymchwil/ gwerthuswyr yn cysylltu â dim ond sampl o unigolion a (neu) fentrau.
Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd eich data personol yn cael ei gadw ar system TG diogel Llywodraeth Cymru yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddileu’n ddiogel. Efallai y byddwn yn dileu'r wybodaeth yn gynt os nad yw'n cael ei defnyddio mwyach.
Eich hawliau fel unigolyn
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i’r canlynol:
- cael gwybod am y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch a’i weld
- gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
- i'ch data gael ei 'ddileu' (o dan amgylchiadau penodol)
- cludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â blwch post Llywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd yn: employabilitysupport@gov.wales / CymorthCyflogadwyedd@llyw.cymru
Am ragor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'i defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico gwefan
