Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn annog teuluoedd cymwys i ymuno â’r cynllun Cychwyn Iach i’w galluogi i gael bwyd iach a fitaminau am ddim.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall teuluoedd gael cerdyn wedi’i ragdalu, yr ychwanegir credyd iddo bob pedair wythnos, i brynu bwyd iach – ffrwythau, llysiau, codlysiau, llaeth a fformiwla babanod. Gallant hefyd gael fitaminau Cychwyn Iach am ddim.

Ar hyn o bryd, nid yw bron i 40% o bobl sy’n gymwys i’r cynllun yng Nghymru yn ei hawlio.

Mae’r cynllun Cychwyn Iach ar gael i’r rhai hynny sydd dros 10 wythnos yn feichiog neu sydd â phlentyn o dan 4 oed ac sy’n cael budd-daliadau penodol. I gael gwybod a ydych chi’n gymwys, ewch i www.healthystart.nhs.uk. O ddegfed wythnos eich beichiogrwydd nes bod eich plentyn yn 4 oed, gallwch fod yn gymwys i fwy na £1,200 i’w wario ar fwyd iach.

Gellir defnyddio cardiau Cychwyn Iach mewn siopau sy’n gwerthu bwyd ac sy’n derbyn MasterCard. Gellir defnyddio’r cardiau i brynu:

  • llaeth buwch
  • ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tuniau
  • codlysiau sych neu mewn tuniau
  • llaeth fformiwla babanod cyntaf

Gallwch hefyd gael fitaminau Cychwyn Iach am ddim. Mae cymryd fitaminau penodol yn ystod beichiogrwydd ac ym mlynyddoedd cynnar y plentyn yn gwella iechyd y fam a’r plentyn - gofynnwch i’ch bydwraig neu eich ymwelydd iechyd am gyngor ar ble i’w cael.

Mae Emma, mam i ddau o Sir y Fflint eisoes yn elwa o’r cynllun Cychwyn Iach. Cafodd Emma wybod am y cynllun gan fam ei phartner.

Ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf, dechreuodd Emma fanteisio ar y cynllun yn 2019 ac eto wedyn wedi i’w hail blentyn gael ei eni. Mae Emma yn dweud bod y Cynllun Cychwyn Iach wedi bod o gymorth iddi’n ariannol ac wedi’i hannog i brynu bwydydd iach.

I wneud y mwyaf o’r taliadau sy’n cael eu hychwanegu’n awtomatig i’w cherdyn bob pedair wythnos, dywedodd Emma:

Fy nghyngor i fyddai trefnu a chynllunio pa brydau bwyd rydych chi am eu coginio i’r teulu ymlaen llaw. Rwy’n defnyddio ffrwythau a llysiau ffres, ond rwyf hefyd yn defnyddio ffrwythau a llysiau wedi’u rhewi neu mewn tuniau fel ein bod yn eu cynnwys bob tro yn y prydau rydyn ni’n eu coginio. Rwyf i wastad yn defnyddio fy nhaliadau Cychwyn Iach i brynu’r bwydydd hyn.

Dywedodd Lynne Neagle, Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:

Yn gyffredinol, nid yw pedwar o bob deg person yng Nghymru a allai fod yn cael cefnogaeth gan y cynllun Cychwyn Iach wedi gwneud cais eto. Rwy’n annog pobl sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys i wneud cais ar-lein. Yn anffodus, mae’r costau byw cynyddol yn effeithio ar gymaint o deuluoedd yng Nghymru, a ledled y Deyrnas Unedig. Rwy’n awyddus i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o Cychwyn Iach a’u bod yn defnyddio’r cynllun i’w helpu i brynu bwyd iach i’w teuluoedd.

I weld a ydych chi’n gymwys, ewch i www.healthystart.nhs.uk