Neidio i'r prif gynnwy

Os caiff ei dderbyn, bydd y tirwedd lechi gogledd-orllewin Cymru yn ennill ei lle fel pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth i Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO ymgynnull yn Fuzhou, Tsieina, yn rhithwir, ar-lein am y tro cyntaf yn ei hanes, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yr wythnos hon ar y cais i ddyfarnu Statws Safle Treftadaeth y Byd i dirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru.

Ymwelodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, ag Amgueddfa Lechi Cymru yn ddiweddar, a dywedodd:

"Rydym bellach ar fin gwybod am y penderfyniad ynghylch a fydd tirwedd llechi gogledd-orllewin Cymru yn ennill Statws Safle Treftadaeth y Byd. Mae paratoi a chyflwyno'r cais wedi bod yn ymdrech tîm go iawn a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith hwnnw.

"Mae bod yma yn Llanberis yn rhoi gwir ymdeimlad o falchder yn y ffordd y mae'r diwydiant llechi wedi llunio cymunedau, tirweddau a threftadaeth yr ardal. Byddai ennill Statws Safle Treftadaeth y Byd yn ddathliad ardderchog o'r balchder yn ein cymunedau llechi - ac yn sbardun ar gyfer adfywio yn y dyfodol. Rydyn yn croesi ein bysedd wrth i ni aros am y penderfyniad."

Mae'r cais yn cynnwys cymunedau Dyffryn Ogwen; Dinorwig; Dyffryn Nantlle; Cwmystradllyn a Chwm Pennant; Ffestiniog a Phorthmadog; Abergynolwyn a Thywyn. Mae'r cais - dan arweiniad Cyngor Gwynedd - yn bartneriaeth rhwng nifer o sefydliadau gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Prifysgol Bangor, Llywodraeth Cymru, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a'r Amgueddfa Genedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi a'r Gymuned:

"Mae enwebu statws Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru ar gyfer Statws Treftadaeth y Byd yn ymwneud â chydnabod a dathlu'r hyn sydd wedi'i gyflawni yma yn ein cymoedd llechi ar lefel fyd-eang.

"Rydym wrth ein bodd bod yr holl waith caled sy'n gysylltiedig â'r cais wedi cyrraedd y cam cyffrous hwn o'r broses ac rydym yn edrych ymlaen at y penderfyniad terfynol.

"Fel rhan o'r cais, ein nod yw adfywio ein cymunedau a helpu i ddarparu gwell dealltwriaeth o arwyddocâd diwydiant llechi Cymru a'i rôl nid yn unig wrth lunio ein cymunedau, ein hiaith a'n diwylliant ond hefyd o ran darparu toeau ledled y byd ac allforio technolegau a phobl ledled y byd. Mae'n rhan annatod o'n hanes a'n treftadaeth sy'n haeddu cydnabyddiaeth ryngwladol."

Ochr yn ochr â'r broses enwebu, mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid drwy Gynllun Lle Gwych Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Arloesi Gwynedd Wledig a Phartneriaeth Eryri i weithio ar draws cymunedau chwarela'r Sir i rymuso, ailgysylltu ac adfywio'r cymunedau hynny – drwy brosiect LleCHI. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys prosiectau sy'n canolbwyntio ar ddehongli, celf, digwyddiadau, arddangosfeydd a chreu Llysgenhadon a Llysgenhadon Ifanc mewn cymunedau a busnesau.