Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi amlinellu'r camau nesaf ar gyfer diwygio'r bysiau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ‌Ein Map Ffordd i Ddiwygio'r Bysiau yn adeiladu ar gynigion y papur gwyn ar fysiau i ad-drefnu'r ffordd y mae'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio yng Nghymru yn radical.

“Rydyn ni'n symud o system wedi’i phreifateiddio sy'n rhoi elw cyn pobl tuag at system fydd yn cynllunio bysus a threnau gyda'i gilydd o amgylch anghenion teithwyr”, meddai Lee Waters, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth.

Bydd y system bresennol lle mae gweithredwyr bysiau yn penderfynu lle i redeg gwasanaethau yn seiliedig ar le y gallant wneud y mwyaf o elw yn cael ei disodli gan system o gontractau ‘masnachfraint’. 

Bydd Trafnidiaeth Cymru, cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddylunio rhwydweithiau bysiau sy'n cysylltu gwasanaethau allweddol ac yn cysylltu â bysiau eraill ac amserlenni trenau, gyda’r cyfan yn defnyddio un tocyn. Yna bydd cwmnïau'n gallu gwneud cais i redeg y pecyn cyfan o lwybrau ar gyfer ardal, nid dim ond y rhai sydd fwyaf proffidiol.

Ychwanegodd Lee Waters: “Dyma'r set fwyaf pellgyrhaeddol o ddiwygiadau sy'n digwydd yn unrhyw le yn y DU. Ar hyn o bryd mae defnyddio'ch car yn hawdd ond mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gallu teimlo’n drafferthus. 

"Ein nod yw creu un rhwydwaith cydgysylltiedig, gydag un amserlen integredig, gan ddefnyddio un tocyn. Fel hyn, byddwn yn ei gwneud yn haws deall sut i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a bydd yn gwneud siwrneiau yn ddi-dor."

Mae’r Map Ffordd i Ddiwygio'r Bysiau yn gosod targedau o flwyddyn i flwyddyn ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu mynd ati i gyflawni o ran masnachfreinio gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn bwriadu gweithio'n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid, megis awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau i gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n ‘hawdd eu defnyddio, yn hawdd cael gafael arnynt ac sydd â chysylltiadau da’ ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

Bwriedir cyflwyno'r dull newydd hwn ar sail ddaearyddol a bydd yn cymryd sawl blwyddyn i'w gyflawni.

Aeth y gweinidog yn ei flaen:

‌“Mae hon yn garreg filltir bwysig ar ein taith i ddiwygio'r bysiau.

"Ers yn rhy hir o lawer, mae gwasanaethau bysiau Cymru wedi cael eu hesgeuluso gyda nifer y teithwyr yn gostwng yn raddol a rhai llwybrau bysiau wedi'u cwtogi.

‌“Nid yw'n mynd i fod yn hawdd i'w ddatrys ac mae'n mynd i gymryd amser, ond mae diwygio'r bysiau yn ganolog i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig a mynd i'r afael â thlodi trafnidiaeth ledled Cymru.

‌“Gan gysylltu llwybrau bysiau, trenau, cerdded a beicio byddwn yn ei gwneud yn haws i bobl wneud dewisiadau mwy cynaliadwy sy'n hanfodol os ydym am gyrraedd ein nodau cynaliadwyedd uchelgeisiol yng Nghymru.

"Mae'r camau rydyn ni wedi'u hamlinellu heddiw yn rhoi pobl cyn elw ac yn gwneud y peth iawn i'w wneud, y peth hawdd i'w wneud.’’