Neidio i'r prif gynnwy

O heddiw ymlaen, mae disgwyl i holl awdurdodau lleol Cymru wella’r ddarpariaeth toiledau sydd ar gael yn eu cymunedau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw’r cam hwn yn sgil pryderon fod awdurdodau lleol wedi bod yn cau toiledau cyhoeddus, a’r farn y gellid gwneud gwell defnydd o’r toiledau mewn adeiladau cyhoeddus megis llyfrgelloedd a chanolfannau chwaraeon. 

Gall diffyg toiledau lleol sydd ar gael yn hwylus gyfyngu ar fywydau pobl drwy eu hatal rhag mynd allan, a hynny yn ei dro yn arwain at unigrwydd, pryder a chyflyrau iechyd eraill. Mae’n fwy tebygol o effeithio ar rai grwpiau o bobl na’i gilydd – er enghraifft yr henoed, pobl â chyflyrau neu anableddau penodol, gofalwyr, a rhieni plant ifanc.

O dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) Llywodraeth Cymru, bydd  awdurdodau lleol yn cael blwyddyn yn awr i asesu anghenion eu cymunedau, gan gynnwys cyfleusterau newid babanod a chyfleusterau Changing Places i bobl anabl. Bydd gofyn hefyd iddynt lunio strategaeth i wneud yn siŵr y bydd gan y cyhoedd fwy o fynediad at y cyfleusterau hyn.  

Disgwylir i’r strategaeth fynd y tu hwnt i ddarparu’r toiledau cyhoeddus pendedig traddodiadol ac edrych ar atebion newydd a chreadigol, gan gynnwys gwneud mwy o ddefnydd o doiledau mewn adeiladau cyhoeddus a chydweithio â busnesau preifat i drefnu bod eu cyfleusterau nhw ar gael i’r cyhoedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Byddai gwella’r ddarpariaeth toiledau cyhoeddus o fantais i bawb, wrth gwrs, ond i rai grwpiau penodol mae prinder toiledau yn gallu achosi pryder mawr, sy’n golygu eu bod yn osgoi ymweld â rhai rhannau o’r ardal.

“Rwy’n deall bod pwysau ar wasanaethau awdurdodau lleol, ond mae diffygion yn y ddarpariaeth nid yn unig yn effeithio ar aelodau o’r gymuned, ond yn gallu effeithio ar dwristiaeth, yr economi a’r defnydd o amwynderau lleol hefyd. Drwy gynllunio at y tymor hir a meddwl yn greadigol, gallwn wella profiadau pobl pan fyddant allan yn eu cymunedau.”

Ychwanegodd Mr Gething:

“Rwy’n disgwyl i’r awdurdodau lleol siarad â’r cyhoedd a grwpiau cynrychioliadol am yr heriau y maent yn eu hwynebu o ran dod o hyd i doiledau cyhoeddus. Rwy’n disgwyl iddynt wrando ar eu pryderon, a’u cynnwys yn y broses o wella mynediad at doiledau yn eu cymunedau.”

Yn ystod yr wythnosau nesaf, cyhoeddir canllawiau statudol ynghylch sut y dylai awdurdodau lleol baratoi strategaethau toiledau lleol, ymgynghori arnynt a’u cyhoeddi.