Neidio i'r prif gynnwy

Gyda’r tymor gwyliau wedi dechrau, bydd hwb ariannol i Croeso Cymru yn gobeithio cynnal ffigurau rhagorol y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Blwyddyn Chwedlau 2017 wedi cael dechrau da gyda Chymru’n cael ei henwi fel un o gyrchfannau gorau’r byd gan Lonely Planet, Tripadvisor, Wanderlust a'r Rough Guides ymhlith eraill.  Ac mae arweinwyr y diwydiant wedi bod yn hael iawn eu clod hefyd o’r ymgyrch newydd, Blwyddyn y Chwedlau, sy’n cynnwys hysbyseb gyda Luke Evans.  Â’r tymor gwyliau ar ein gwarthaf, mae’r gwaith o farchnata Cymru’n mynd yn ei flaen. 

Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Mae’n hymgyrchoedd nawr yn canolbwyntio ar droi’r diddordeb cychwynnol a’r cyfleoedd yn sgil gwendid y bunt yn ymweliadau go iawn dros yr haf.  Mae hwb ariannol o £26.3m wedi’i roi i Croeso Cymru fuddsoddi mewn marchnata a datblygu cynnyrch.  Diolch i’r cynnydd hwn o 41%, rydym wedi gallu creu rhaglen fwy uchelgeisiol nag erioed o’r blaen ar gyfer 2017. 

“Mewn marchnad hynod gystadleuol, mae twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref.  Â ninnau newydd gael y ddwy flynedd orau erioed, y gobaith nawr yw cynnal y twf hwnnw – ond gan ddeall y bydd digwyddiadau a’r gystadleuaeth ryngwladol yn golygu na all pob blwyddyn fod yn flwyddyn sy’n torri record. Mae’r darlun cyflawn – sy’n cynnwys ymweliadau undydd, ymwelwyr rhyngwladol ac ymweliadau dros nos o Brydain - yn dangos y gwelodd Cymru bron 16% o gynnydd yn y ffigurau twristiaeth drwyddynt draw yn naw mis cyntaf 2016.” 

Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod un o fesurau twristiaeth – Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr – yn dangos gostyngiad yn nifer y Prydeinwyr sy’n aros dros nos.  Dim ond un o fesurau twristiaeth yng Nghymru yw’r ffigurau amodol hyn, ar gyfer ymweliadau dros nos o Brydain ar gyfer y flwyddyn sy’n diweddu Medi 2016.  Er eu bod yn dangos gostyngiad o 1.5% o ran nifer y tripiau, mae hynny’n adlewyrchu’r sefyllfa ym Mhrydain Fawr yn gyfan. 

Aeth Ysgrifennydd yr Economi yn ei flaen: 

“Cyhoeddais wythnos ddiwethaf y bydd £24m ar gael ar gyfer datblygu a marchnata twristiaeth trwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020.  Gyda’r prosiectau sy’n cael eu hariannu gan yr UE wrthi’n cael eu datblygu â phartneriaid yng Nghymru, rydym yn rhagweld y caiff rhagor na £100 miliwn ei fuddsoddi yn y sector hyd at 2020 gan roi hwb mawr i allu Cymru i gystadlu yn y farchnad ryngwladol. 

“Rydyn ni’n barod hefyd i wneud y gorau o un o’r sioeau mwyaf ar y ddaear – Ffeinal Cynghrair Pencampwyr UEFA – sy’n dod i Gaerdydd ym mis Mehefin.  Yn ogystal â chynyddu nifer yr ymwelwyr a’r effaith economaidd dros gyfnod y gemau, caiff effaith hefyd ar broffil rhyngwladol Cymru, ymhell wedi i’r gemau ddod i ben. 

“Rydyn ni’n disgwyl mlaen at weithio gyda’r diwydiant i wneud 2017 yn flwyddyn fawr i dwristiaeth yng Nghymru.” 

Mae’r diwydiant yn teimlo’n hyderus iawn ar ôl Gŵyl Banc gynta’r Flwyddyn.

Mae’r llythrennau EPIC  wedi cael croeso brwd ym Mharc Margam. 

Dywedodd Rheolwr Parc Margam, 

“Rydyn ni’n hynod falch bod Croeso Cymru wedi dewis Parc Gwledig Margam fel stop cyntaf taith yr arwydd EPIC yn ystod ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau.  Mae’r ymateb iddo wedi bod yn wych.  Mae llawer o bobl wedi ymweld â’r Parc dros y Pasg ac mae llawer o hun-luniau wedi’u tynnu o flaen yr arwydd!

“Mae gan Barc Margam hanes hir a mwy na’i siâr o chwedlau, felly bydd yr ymgyrch eleni’n ffordd wych o ddangos yr hyn sydd gennym i’w gynnig.  Dros wyliau’r banc, gwelodd y parc nifer o frwydrau epig rhwng marchogion, bwa-saethwyr a march-filwyrac rydyn ni nawr yn disgwyl mlaen at groesawu ymwelwyr gydol gwyliau’r Pasg ac wedi hynny, i fwynhau harddwch y parc.”  

Gan siarad ar ran Casgliad Welsh Rarebits, prif gonsortiwm marchnata Cymru ar gyfer gwestai annibynnol ‘boutique’ gorau Cymru, dywedodd Mike Morgan:

"Mae’r sector gyfan wedi elwa ar y cyfalaf y mae’n haelodau wedi parhau i’w fuddsoddi.  Rydyn yn gwybod, ar sail 30 mlynedd o farchnata’r gwestai mwyaf moethus, bod wastad galw am ansawdd go iawn, ond mae’r ‘Croeso’ anniffiniadwy rydyn ni’n ei gynnig yn ein helpu ni i gystadlu ar y llwyfan ryngwladol. Ac yn goron ar y cyfan y mae ymgyrch ‘Blwyddyn y Chwedlau’.  Mae Croeso Cymru wedi rhoi rhywbeth inni y gallwn i gyd ei gefnogi a mynd â diwydiant gwestai Cymru i’r byd.  Mae ffigurau da dros y Pasg fel arfer yn arwydd o haf da ac rydyn ar bigau i groesawu’r rheini sy’n newydd-ddyfodiaid i Gymru ac sy’n ymweld â ni am y tro cyntaf oherwydd y gyfradd gyfnewid." 

Ar ôl ei hadnewyddu dros y gaeaf, mae Folly Farm wedi cael dechrau prysur i’r tymor gwyliau:

Dywedodd Chris Ebworth, Rheolwr Gyfarwyddwr Folly Farm: 

“Rydyn ni’n teimlo’n hyderus ynghylch y tymor nesaf ar ôl buddsoddi’n drwm yn y fynedfa newydd i ymwelwyr a’r siop anrhegion, y maes chwarae ar thema môr-ladron a’r gwelliannau i nifer o ffaldau yn y sŵ.  Mae’r Pasg fel arfer yn llinyn mesur o’r tymor ac rydyn ni wedi cael penwythnos rhagorol gyda chynnydd o 25% yn nifer yr ymwelwyr.  Mae ymgyrch Croeso Cymru eleni yn un dewr a hyderus, gan adeiladu ar lwyddiant ymgyrch llynedd.  Rydyn ni’n teimlo bod Sir Benfro mewn sefyllfa dda i chwarae rhan flaenllaw i sicrhau llwyddiant tymor hir Cymru.”