Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi cyhoeddi safonau ansawdd newydd ar gyfer gwella perfformiad adrannau achosion brys. Ymhlith rhai o'r ffyrdd a fydd yn cael eu defnyddio i wella perfformiad mae dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth o gyflymu amseroedd asesu a lleihau'r amser y mae cleifion yn aros i gael eu derbyn i'r ysbyty, yn ogystal â dull sy’n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd disgwyl i fyrddau iechyd gyflawni'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Gofal mewn Adrannau Achosion Brys a lansiwyd gan y Gweinidog heddiw (15  Mawrth), er mwyn sicrhau canlyniadau a phrofiadau gwell i bawb sy'n ymweld ag Adrannau Achosion Brys Cymru.

Mae'r datganiad  yn ategu dull polisi Chwe Nod ar Gyfer Gofal Brys a Gofal Mewn Argyfwng, sydd wedi datblygu gwasanaethau newydd i sicrhau bod pawb yn cael y gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

Gan adeiladu ar y gwelliannau rydyn ni wedi'u cyflawni drwy'r rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal mewn Argyfwng, bydd y Datganiad Ansawdd yn ei gwneud yn glir i fyrddau iechyd sut beth yw gofal da yn ein hadrannau achosion brys ledled Cymru.

Mae ein rhaglen Chwe Nod wedi helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld yn y lle iawn gan y person iawn - dyw hynny ddim yn golygu bod pawb wastad yn gorfod mynd i adran frys pan maen nhw angen gofal brys.

Yn ogystal mae wedi helpu ein Adrannau Achosion Brys perfformio'n well na rhai Lloegr yn erbyn y targed pedair awr mewn 14 o'r 17 mis diwethaf. Rydyn ni'n falch bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau'n ddiweddar bod modd cymharu'r ystadegau perfformiad sydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer adrannau achosion brys mawr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Ond rydym yn gwybod bod llawer mwy i'w wneud i wella safon ac amseroldeb y gofal y mae pobl yn ei dderbyn pan fyddant yn mynd i adrannau brys.

Rydym wedi gwrando ar staff a'r cyhoedd wrth ddatblygu'r Datganiad Ansawdd hwn. Rydyn ni'n gwybod bod cleifion eisiau cyfathrebu clir ac aml, teimlo'n gyfforddus ac yn gynnes a chael eu trin yn gyflym ond yn sensitif.

Ac rydyn ni'n gwybod bod y staff, ymroddedig a medrus sy'n gweithio yn yr adrannau prysur hyn, eisiau canolbwyntio ar symud cleifion o adrannau achosion brys i wardiau ysbytai yn brydlon, a chael mynediad at ddata o ansawdd gwell er mwyn gwella gofal i gleifion.

Dyma fydd ein blaenoriaethau ni eleni ac rwy'n disgwyl i'n rhaglen genedlaethol, ein rhwydwaith clinigol a'n byrddau iechyd gefnogi'r gwaith o'u cyflawni.

Mae cynllun cenedlaethol newydd 'Adrannau Achosion Brys Gwyrdd' yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys (RCEM), i wreiddio arferion gwaith cynaliadwy, lleihau allyriadau, gwastraff a chostau yn 12 adran achosion brys Cymru.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi sefydlu tasglu cenedlaethol i adolygu mesurau adrannau brys. Bydd yn ystyried a oes mesurau gwell o ansawdd, gwerth, profiad a chanlyniad ar gyfer gofal a ddarperir mewn adrannau brys i helpu i hysbysu'r cyhoedd yng Nghymru am yr hyn i'w ddisgwyl wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn ac i helpu i sbarduno gwelliannau. Bydd yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl a'r hyn sy'n ystyrlon yn glinigol.

Ychwanegodd yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal mewn Argyfwng, Tim Rogerson:

Mae staff adrannau achosion brys yn gweithio'n ddiflino 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, dan bwysau di-baid, i ddarparu'r gofal gorau posib i gleifion.

Rydyn ni'n cydnabod bod yr hyn sy'n achosi nifer o'r heriau sy'n ein hwynebu ni, a'r atebion i'r heriau hyn, y tu allan i gwmpas adrannau achosion brys. Er hynny, mae arweinwyr clinigol yn falch o gael Datganiad Ansawdd sy'n canolbwyntio ar yr adrannau hyn, gan ganiatáu inni roi blaenoriaeth i'r pethau sy'n ein dwylo ni a gwella ansawdd y gofal mewn argyfwng sy'n cael ei ddarparu ledled Cymru.