Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gofal brys a gofal mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol yn parhau i gael eu darparu yn ystod ail streic meddygon iau yng Nghymru yr wythnos hon, ond disgwylir y bydd tarfu sylweddol ar wasanaethau eraill.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Pennaeth GIG Cymru, Judith Paget, hefyd wedi annog pawb i helpu i leihau'r baich ar y GIG drwy ystyried opsiynau eraill yn lle mynd i'r ysbyty, oni bai bod arnynt angen gofal brys.

Cyn y gweithredu diwydiannol a fydd yn dechrau ddydd Mercher, mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru bob amser yn agored i gael trafodaethau pellach ond nad oes ganddi'r gyllideb i gynyddu'r cytundeb cyflog.

Dywedodd Eluned Morgan:

Ry'n ni'n siomedig bod meddygon wedi penderfynu cymryd gweithredu diwydiannol pellach yng Nghymru, ond ry'n ni'n deall bod ganddyn nhw deimladau cryf am ein cynnig cyflog o 5%.

Mae ein cynnig ar lefel uchaf y sydd ar gael i ni ac mae'n adlewyrchu'r penderfyniad y daethom iddo gyda'r undebau iechyd eraill. Ond byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i drosglwyddo'r cyllid angenrheidiol ar gyfer codiadau cyflog llawn a theg i weithwyr y sector cyhoeddus.

Ry'n ni wedi ymrwymo o hyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ac ry'n ni bob amser yn agored i gael rhagor o drafodaethau.

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru Judith Paget:

Fel yn ystod y streic ddiwethaf, rydyn ni'n croesawu'r dull cydweithredol o ymdrin â diogelwch cleifion sydd wedi'i ddefnyddio gan Gymdeithas Feddygol Prydain. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw a sefydliadau'r GIG i sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei amddiffyn yn ystod y gweithredu diwydiannol.

Rydyn ni'n disgwyl y bydd tarfu sylweddol ar weithgareddau nad ydynt yn rhai brys a gweithgareddau dewisol yn ystod y gweithredu diwydiannol, gyda llawer o waith eisoes wedi'i ohirio. Yn ystod y streic ddiwethaf cafodd tua 41% o apwyntiadau cleifion allanol a 61% o lawdriniaethau eu gohirio ledled Cymru. Roedden ni'n disgwyl i wasanaethau yn ystod y gweithredu diwydiannol fod yn debyg i'r rhai sy'n cael eu darparu'n gyffredinol ar Ŵyl Banc.

Er hynny, os oes gennych angen hollbwysig i fynd i adran achosion brys, dylech barhau i wneud hynny.

Ond rydyn ni'n annog pawb i ystyried yr opsiwn gorau iddyn nhw, gan gynnwys y gwasanaeth 111 ar-lein neu dros y ffôn, neu eu fferyllfa leol.